Back
Daniel Cassar yn cael ei garcharu am dwyllo pobl allan o flaendaliadau am waith garddio nad oedd yn bwriadu ei wneud

Cafodd twyllwr, a hyrwyddodd ei fusnes garddio drwy Facebook gan gymryd arian oddi ar ei ddioddefwyr heb unrhyw fwriad o wneud y gwaith, ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd ddoe (4 Hydref).

Roedd Daniel Cassar, 34, o Heol Llandaf yn Nhreganna, yn masnachu drwy gwmni o'r enw L & J's Landscaping a rhoddodd enw ffug i'w hun, Liam Frankfort.

Cysylltodd tri o'i ddioddefwyr â'r cwmni drwy Facebook i drefnu gwaith ar eu gerddi, a'r pedwerydd dioddefwr oedd landlord Cassar ei hun, a dalodd £5,980 am ddau fws mini na chafodd eu prynu.

Clywodd y llys fod y troseddu wedi digwydd rhwng mis Mehefin a mis Medi 2018 a bod pedwar achwynydd. Cymerodd Daniel Cassar arian oddi ar ei ddioddefwyr ymlaen llawn, gan honni y byddai'n prynu nwyddau a chyflenwadau ar gyfer y gwaith, ond celwydd oedd y cyfan.

Pan gafodd ei gyfweld gan swyddogion o'r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir, cyfaddefodd Daniel Cassar na phrynodd unrhyw nwyddau neu gyflenwadau ac nad oedd yn bwriadu gwneud unrhyw waith na phrynu'r bysus mini gan ei fod wedi gwario'r holl arian ar ei arferion gamblo.

Anfonodd gontractau at ei gwsmeriaid gan ddefnyddio manylion cwmni anghywir ac enw ffug, heb gynnwys unrhyw hawliau canslo.

Mewn ple i liniaru, gofynnodd Cyfreithiwr y Diffynnydd, Heath Edwards, i'r llys ystyried ple gynnar y diffynnydd a'i fod wedi ad-dalu holl arian y dioddefwyr. Dywedodd wrth y llys, mewn perthynas â dedfryd gynharach ym mis Ionawr 2019 am droseddau tebyg, fod y diffynnydd wedi cyflawni 189 awr o waith di-dâl o'r 200 awr a orchmynnwyd gan y llys a'i fod wedi cyflawni 12 diwrnod o ofynion adsefydlu.

Dywedodd Heath Edwards wrth y llys fod ei gleient wedi bod yn ‘sownd mewn cylch o anonestrwydd' gan ei fod yn gaeth i gamblo.

Wrth gyflwyno ei dedfryd, dywedodd Ei Hanrhydedd y Farnwres Jones wrth y diffynnydd ei fod wedi ‘dweud celwydd dro ar ôl tro ac nad oedd ganddo unrhyw fwriad o wneud unrhyw beth i'r bobl hyn.'

"Dwi wedi ystyried y materion o'm blaen ac mae gennych chi sawl dedfryd flaenorol. Rydych hefyd wedi methu â chydymffurfio â dedfrydau amgen a osodwyd gan y llys. O ystyried eich bod wedi methu â chydymffurfio chwe gwaith yn y gorffennol, dim ond dedfryd syth o garchar sy'n ddigonol."

Cyfaddefodd Daniel Cassar i saith achos o dwyll a phedair trosedd dan y Rheoliadau Amddiffyn Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg. Cafodd ei anfon i'r carchar am 16 mis a'i orchymyn i dalu gordal dioddefwyr o £149.

Dywedodd y Cyng. Michael Michael, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd: "Dwi'n credu bod cyfiawnder wedi dod i'r brig yn yr achos hwn. Nid yn unig y mae'r dioddefwyr wedi cael eu harian yn ôl, ond mae'r ddedfryd ddi-oed o garchar yn anfon neges glir i bob masnachwr twyllodrus mas ‘na, sef bod y llysoedd yn cymryd y materion hyn o ddifri."