Back
Rhybudd i fusnesau Shisha yng Nghaerdydd am archwiliadau ar hap

Mae bars a lolfeydd Shisha yng Nghaerdydd wedi cael rhybudd bod rhaid iddyn nhw gydymffurfio â deddfau di-fwg neu wynebu cael eu herlyn yn y llysoedd.

Mae hyn yn dilyn ymgyrch addysgu a gorfodi rhwng y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a ddechreuodd ym mis Awst 2017.

Ym mis Chwefror 2017, cafodd pob lolfa Shisha hysbys yng Nghaerdydd lythyr yn rhoi gwybod i'r rheolwyr bod arnynt dyletswydd i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ddi-fwg, ac nad yw cael caniatâd cynllunio o reidrwydd yn golygu bod eu bar Shisha yn cydymffurfio gyda'r gyfraith.

Yn dilyn y llythyr hwn, bu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymweld â phob busnes Shisha yn ardal Caerdydd i roi deunydd addysgol a chanllawiau iddynt ar sut i leihau'r perygl o dân.

Yna dechreuwyd gorfodi rhwng Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir a'r Gwasanaeth Tân ym mis Chwefror 2019, pan ymwelodd swyddogion â 10 busnes yn ardal Caerdydd.

Dywedodd y Cyng. Michael Michael, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd, ac sydd y tu ôl i'r ymgyrch: "Yn dilyn ymgyrch addysgu eang ac ymweliadau un-i-un i roi cyngor i'r busnesau hyn ynglŷn â beth cant a beth na chânt ei wneud, cymerwyd camau gorfodi ym mis Mehefin 2019 i weld a oedd y busnesau wedi gwrando ar yr Awdurdodau ac yn cydymffurfio â'r gyfraith.

"Roedd y chwe busnes a oedd ar agor adeg yr ymweliadau yn caniatáu i bobl smygu'r bongs Shisha mewn ystafelloedd oedd naill ai ar gau'n llwyr, neu ar gau i raddau helaeth. Ni ddangosodd rhan fwyaf y lolfeydd Shisha hefyd arwyddion ‘Dim Ysmygu' yn eu busnes.

"Doedd yr un o'r lolfeydd Shisha yr ymwelwyd â nhw yn cydymffurfio â'r gyfraith, ac felly cymerwyd camau cyfreithiol. Hyd yn hyn, mae pedwar o'r busnesau hyn a'r cyfarwyddwr cwmni cysylltiedig ymhob achos, wedi eu herlyn.

"Y ddirwy uchaf a roddwyd gan y llys eleni oedd dros £3,000 i'r busnes, gyda chyfarwyddwr y cwmni'n cael ei orchymyn i dalu £2,640 yn ychwanegol.

"Rwy'n falch bod y llysoedd nawr yn trin y mater yma'n fwy difrifol o weld y dirwyon sy'n cael eu codi.

Mae gan Gaerdydd ar hyn o bryd 13 lolfa Shisha, ond mae ceisiadau cynllunio'n cael eu derbyn o hyd ar gyfer safleoedd newydd sydd am ddarparu pibau Shisha i'w cwsmeriaid.

Aeth y Cynghorydd Michael yn ei flaen i ddweud: "Ers i ysmygu mewn mannau cyhoeddus gael ei wahardd yng Nghymru, bu cynnydd yn nifer y lolfeydd Shisha yng Nghaerdydd ac mae'n ymddangos bod camddealltwriaeth bod ysmygu tybaco drwy ddŵr yn llai niweidiol nag ysmygu sigarét.

"Yn ôl adroddiad gan Sefydliad Iechyd y Byd, er bod y dŵr yn amsugno peth o nicotin y tybaco, mae ysmygwyr Shisha yn dal yn cael digon ohono i'w gwneud yn gaeth. Mae'r adroddiad yn awgrymu bod sesiwn ysmygu piben ddŵr yn gallu para rhwng 20 a 80 munud, ac felly gall yr ysmygwr fod yn anadlu cymaint o fwg ag y byddai pe bai'n ysmygu 100 sigarét." 

"O gofio hyn, rhaid i lolfeydd Shisha ufuddhau i ddeddfwriaeth ddi-fwg, a hoffem ei gwneud hi'n eglur i'r holl fusnesau hyn y bydd ein harchwiliadau'n parhau ac y bydd camau cyfreithiol yn cael eu cymryd yn erbyn unrhyw fusnes sy'n cael ei ganfod yn torri'r ddeddfwriaeth hon."