Back
Tîm Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd yn ennill dwy wobr
Mae tîm Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd wedi ennill dwy wobr genedlaethol o fri. 

Mae Amlosga a Mynwent Draenen Pen-y-graig wedi ennill y wobr Mynwent y Flwyddyn am yr ail waith, ar ôl ennill y wobr o'r blaen yn 2016.

Mae’r tîm Gwasanaethau Profedigaeth ehangach wedi ennill Tîm Gwasanaeth Gorau’r Flwyddyn yn y categori Mynwent ac Amlosgfa yn y Gwobrau Gwasanaeth Cymdeithas Rhagoriaeth Gwasanaethau Cyhoeddus (APSE).

Mae’r gwobrau APSE blynyddol yn dathlu’r gorau yng ngwasanaethau rheng flaen llywodraeth leol ledled y DU.Y tro olaf i’r tîm Gwasanaethau Profedigaeth ennill y categori hwn oedd 3 blynedd yn ôl.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Profedigaeth, y Cyng. Michael Michael:“Rwy’n gwybod bod y tîm Gwasanaethau Profedigaeth yn falch iawn o’u gwaith yng Nghaerdydd, ac yn falch o gynnig y gwasanaeth gorau posibl yn ystod adeg anodd iawn ym mywydau pobl.

 “Mae ennill y ddwy wobr yn gydnabyddiaeth wych o’u hymrwymiad a’u gwaith caled ac yn dangos ein bod yn parhau i gynnig gwasanaethau o safon i bobl Caerdydd, er gwaethaf yr heriau ariannol parhaus sy’n wynebu awdurdodau lleol ledled y DU.”