Back
Diogelu dyfodol Theatr Newydd poblogaidd Caerdydd


Mae Theatr Newydd Caerdydd gam yn nes at ddod o hyd i weithredwr newydd a fydd yn diogelu dyfodol un o hoff sefydliadau diwylliannol y ddinas am flynyddoedd i ddod.

 

Mae rhai o'r hyrwyddwyr a'r gweithredwyr lleoliadau mwyaf dylanwadol yn y diwydiant wedi cyflwyno cynigion i weithredu'r theatr 110 mlwydd oed ac, yn dilyn proses ddethol, gofynnir i Gabinet Cyngor Caerdydd nawr gymeradwyo'r dewis o denant newydd a fydd yn gweithredu'r theatr am y 25 mlynedd nesaf. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Mae'r Theatr Newydd yn un o asedau diwylliannol pwysicaf Caerdydd, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi costio tua £500,000 y flwyddyn i'r Cyngor gadw'r drysau ar agor.

 

"Roedden ni'n gwybod bod rhaid i ni newid y ffordd yr oedd y theatr yn cael ei gweithredu i ddiogelu ei dyfodol.Rydym wedi bod yn edrych ar y posibiliad o rentu'r adeilad i weithredwr theatr sefydledig a fyddai'n sicrhau bod y Theatr Newydd yn parhau i ddod â rhai o'r sioeau gorau i Gaerdydd am nifer o flynyddoedd i ddod tra'n lleihau cymhorthdal blynyddol y Cyngor o £500,000.

 

"Mae'n bleser gennyf ddatgelu nid yn unig yr ydym wedi siarad â gweithredwyr theatr gwych, ond rydym yn agos iawn at ddêl a allai weld y theatr yn cael ei gweithredu heb gymhorthdal y Cyngor.Yn wir gallai'r Cyngor dderbyn rhent o £6.75m dros gyfnod y brydles, arian y gellid ei ail-fuddsoddi yn strwythur yr adeilad i sicrhau bod drysau'r Theatr Newydd yn aros ar agor am flynyddoedd i ddod.

 

"Mae'r ddêl hon yn wych i'r theatr, yn wych i'r dinasyddion sy'n hoffi mynd i'r theatr ac yn wych i staff y Theatr Newydd gan y bydd eu swyddi yn cael eu diogelu gan y cytundeb hwn."

 

 Fe wnaeth tîm amlddisgyblaeth o swyddogion diwylliannol, eiddo a chyfreithiol y Cyngor werthuso saith cynnig gan bartïon â diddordeb.Mae prif gynnig y cynigydd a ffefrir yn cynnwys:

 

  • Prydles 25 mlynedd heb gyfnod neu seibiannau di-rent
  • Dim gofyniad am gymhorthdal gweithredol gan y Cyngor
  • Bydd y Cyngor yn derbyn rhent o £6.75m dros gyfnod y brydles
  • Ymrwymiad i fuddsoddi £2.7m yn yr adeilad dros gyfnod y brydles gan gynnwys ailwampio'r ardaloedd blaen tŷ
  • Ymrwymiad i dyfu'r rhaglen o 335 o gynyrchiadau ym mlwyddyn 1 i 359 erbyn blwyddyn 3 ac wedi hynny
  • Ymrwymiad i gynnal a gwella'r cymysgedd o sioeau cerdd, bales a dramâu wythnos o hyd
  • Cadw'r strwythur staff a bod yn gyfrifol am yr holl gostau sy'n gysylltiedig â throsglwyddo staff a diogelu pensiynau 
  • Y cyngor i barhau i fod yn gyfrifol am gynnal a chadw ac atgyweirio'r to a'r strwythur allanol
  • Y gweithredwr i fod yn gyfrifol am gynnal a chadw ac atgyweirio'r holl agweddau eraill gan gynnwys offer a pheirianwaith
  • Ymrwymiad i gynnal y rhaglen gwirfoddoli bresennol 

 

Dywedodd y Cyng Bradbury:"Cafodd pob un o'n cynigion eu gosod yn erbyn cyfres gytunedig o feini prawf.Roedd yn hynod o bwysig i ni fod y cynigydd llwyddiannus â phrofiad o weithredu theatrau tebyg, profiad o gynnal adeiladau hanesyddol a'r cryfder ariannol i sicrhau bod hyn yn gweithio.

 

"Bydd y ffaith y gallai'r Cyngor nawr weld arian yn dod i mewn bob blwyddyn o'r theatr hefyd yn ein galluogi i fynd i'r afael â'r gwaith cynnal a chadw sydd angen ei wneud a sicrhau bod ffabrig yr adeilad yn cael ei gynnal.

 

"Daeth y rhestr fer derfynol i lawr i ddau gwmni theatr llwyddiannus sydd eisoes â pherthynas â'r Theatr Newydd.Rwy'n hapus i fynd â'r adroddiad hwn i'r Cabinet i ofyn iddo gymeradwyo'r dewis o denant a argymhellir."

 

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn derbyn yr adroddiad ddydd Iau 10 Hydref.  Os bydd yn cytuno i gymeradwyo'r tenant a argymhellir bydd y Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd yn cael yr awdurdod i gwblhau prydles gyda gweithredwr y theatr.Bydd Pwyllgor Craffu Economi a Diwylliant Cyngor Caerdydd yn trafod yr adroddiad ddydd Iau 3 Hydref.