Back
Dyddiad wedi’i gadarnhau ar gyfer ‘Marchnad Nos’ nesaf Caerdydd
Yn dilyn llwyddiant Marchnad Nos gyntaf erioed Marchnad Caerdydd, a ddenodd mwy na 2000 o bobl mewn dim ond tair awr i bori stondinau rhai o fasnachwyr mwyaf eiconig Caerdydd, mae dyddiad wedi’i gadarnhau ar gyfer y farchnad nesaf.

Bydd y digwyddiad ‘Pethau’r Nadolig’ yn digwydd o 6pm-9pm ddydd Iau 14 Tachwedd.  Nid yw manylion llawn y noson wedi’u cadarnhau eto ond gall ymwelwyr ddisgwyl gweld llawer o’u hoff stondinau, eitemau a gwasanaethau ychwanegol, a thamaid o hud a lledrith hefyd – gan gynnwys disgo’r 80au.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:“Yn ogystal â bod yn gartref i fusnesau lleol bach, mae gan y Farchnad botensial i fod yn gyrchfan unigryw i ymwelwyr, yn cyfuno popeth sy’n dda am y brifddinas gyfoes y mae Caerdydd wedi tyfu i fod a threftadaeth Fictoraidd hynod y farchnad.

“Mae masnachwyr wedi bod yn awyddus i adeiladu ar lwyddiant y farchnad nos gyntaf a gynhaliwyd yn gynharach yn yr haf, ac ry’n ni’n falch o gefnogi hyn.Mae pobl yn dweud y gallwch ddysgu llawer am ddinas o'i marchnad – mae’r digwyddiadau hyn yn dangos yn amlwg fod Caerdydd ar agor ar gyfer busnes, yn fywiog ac yn edrych tua'r dyfodol.”

Ar gyfer y Farchnad Nos gyntaf, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf, trawsnewidiwyd caffi’r Celtic Corner yn ‘Gornel y Cerddor’ gyda cherddoriaeth gan y chwedlonol Kelly’s Records, a chrëwyd arddangosfa gelf gyda phortreadau o rai o’r cymeriadau sy’n masnachu o dan do gwydr trawiadol y farchnad.

Bu’r digwyddiad yn llwyddiant yn ôl y masnachwyr, gyda Paul Reeves o Mojo King yn disgrifio’r noson fel “llawer o sbort – fel parti mawr” a Jeremy Phillips o Ffwrnes Pizza yn canmol y ffordd y gwnaeth y noson “arddangos ein marchnad a’i masnachwyr i gwsmeriaid newydd a phresennol.”