Back
Cysylltu cymunedau mewn gŵyl les

Cynhelir gŵyl tridiau yn dangos gwasanaethau cymunedol yng ngogledd y ddinas yn hwyrach y mis hwn. 

Caiff yr Ŵyl Corff Actif, Meddwl Iach 50+ ei threfnu gan Wasanaethau Byw'n Annibynnol y Cyngor i hyrwyddo gwasanaethau'r Cyngor a'i bartneriaid yn yr ardal ac annog preswylwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau lleol a allai fod o fudd i'w hiechyd a lles. 

Caiff yr ŵyl ei chynnal mewn nifer o leoliadau ddydd Mercher 25 Medi, dydd Iau 26 Medi a dydd Gwener 27 Medi a bydd yn adeiladu ar lwyddiant Diwrnod Agored Corff Actif Meddwl Iach y gwasanaeth yn Hyb Llaneirwg ynghynt eleni a'r digwyddiad Llanisien Ynghyd a oedd yn canolbwyntio ar y gymuned yn 2016. 

Caiff diwrnod cyntaf yr ŵyl ei gynnal yng Nghanolfan Beulah ac yn Llyfrgell Rhiwbeina, yn canolbwyntio ar gelf, crefft a chyrsiau sydd ar gael yn yr ardal cyn symud i Ganolfan Gymunedol Maes y Coed ar ddiwrnod 2, lle bydd thema chwaraeon, ymarfer corff a gweithgareddau cymdeithasol.Cynhelir diwrnod olaf yr ŵyl yng Nghlwb Rygbi Llanisien a bydd fel parti, gyda llawer o gerddoriaeth a dawnsio. 

Bydd ystod o sefydliadau ac elusennau ym mhob dydd er mwyn rhoi gwybodaeth am wasanaethau yn cynnwys gwasanaethau Pryd ar Glud a Theleofal y Cyngor; Gofal a Thrwsio; y Gymdeithas Alzheimer's, Age Connects, Age Cymru, Dewis Cymru a llawer mwy. 

Bydd sefydliadau hefyd yn cynnig sesiynau blasu o weithgareddau sydd ar gael yn lleol yn cynnwys tai chi, pêl-rwyd wrth gerdded, pêl-droed a badminton, grwpiau canu pobl hŷn, gweithdai coginio, yoga a llawer mwy. 

Bydd plant o ysgolion lleol yn mynd i bob lleoliad i hyrwyddo gweithgareddau rhyng-genedlaethol yn y gymuned.