Back
Gorchymyn landlord preifat i dalu mwy na £6,000 am restr o fethiannau yn ei eiddo rhent

Dim larwm tân, drysau tân anaddas, dim gwres am ddwy flynedd, pla o lygod, gosodiadau trydanol diffygiol a thamprwydd sylweddol yn yr eiddo.

Dyma rai o'r pethau a welwyd yn dilyn ymchwiliad yn 36 Taff Embankment yn Grangetown pan aeth swyddogion y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir yno ym mis Ionawr eleni.

Roedd pump o bobl nad oedd ganddynt unrhyw gysylltiad â'i gilydd yn byw yn yr eiddo sy'n golygu, yn ôl y gyfraith, bod rhaid i'r landlord gael trwydded Tai Amlfeddiannaeth i rentu'r eiddo.Nid oedd Trwydded Tai Amlfeddiannaeth ar waith mewn cysylltiad â'r eiddo hwn.

Yn dilyn pledio'n euog barnwyd bod Dr Dehlia Hakem, o Heol Berry, Gwaelod y Garth yn euog o gyflawni 20 o droseddau dan ddeddfwriaeth tai yn Llys Ynadon Caerdydd ar 22 Awst.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Mae'n ymddangos nad oedd y landlord yn yr achos hwn unrhyw barchu at y deddfau sydd ar waith i ddiogelu trigolion rhag niwed.

 

"Roedd cyflwr yr eiddo yn beryglus iawn i'r rheiny oedd yn byw yno ac yn syml, nid yw hyn yn dderbyniol.Dyma pam ein bod ni wedi penderfynu erlyn yn yr achos hwn ac oherwydd y byddai barn y llys yn cyfleu neges glir i landlordiaid preifat sy'n is-osod llety ansafonol y bydd ein swyddogion yn gweithredu ar yr holl wybodaeth sy'n dod i law ac yn rhoi camau priodol ar waith i sicrhau diogelwch trigolion yng Nghaerdydd.

Cafodd Dr Dehlia Hakem ddirwy o £6,250, a'i gorchymyn i dalu costau o £400 gyda gordal dioddefwr o £100.