Back
Cyngor ar y blaen wrth dderbyn Tystysgrif Gwastraff

Cyngor Caerdydd yw'r Awdurdod Lleol cyntaf ledled y Deyrnas Gyfunol i ennill Tystysgrif PAS 402 drwy Gynllun y Green Compass.

Mae PAS 402 yn Fanyleb a mesur adrodd perfformiad sydd ar gael yn gyhoeddus ar gyfer y diwydiant rheoli gwastraff, sydd â'r nod o hybu gwelliannau busnes. 

Mae'r dystysgrif hon yn rhoi cerdyn sgorio perfformiad i'r cyngor y gallwn ei rannu gyda staff a chwsmeriaid i hybu gwelliant parhaus, gan roi hyder i breswylwyr a chleientiaid bod eu gwastraff yn cael ei reoli'n effeithiol i ddiogelu'r amgylchedd.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd:

"Rwy'n falch bod y Cyngor wedi derbyn tystysgrif PAS 402 dan gynllun y Green Compass. Mae hyn yn rhoi mwy o hyder i bobl Caerdydd, cwsmeriaid a chleientiaid masnachol, ein bod yn rheoli eu gwastraff yn effeithiol ac yn gyfrifol.

"Mae'r asesu sy'n digwydd cyn rhoi'r dystysgrif hon yn edrych ar nifer o brosesau, gan gynnwys prosesau amgylcheddol, iechyd a diogelwch a rheoli perfformiad i adfer cymaint o'r gwastraff a reolwn â phosibl a'i ailgylchu. Mae hyn wedyn yn cael ei ddilysu mewn proses asesu annibynnol sy'n creu trywydd archwilio llawn."

"Un o fuddion mawr y dystysgrif yw ein bod yn gallu parhau i gynnig, yn hyderus, am gontractau rheoli gwastraff masnachol ychwanegol.

"Mae hyn yn rhoi ein gwasanaeth rheoli gwastraff mewn sefyllfa gryfach o lawer i gynnig am gontractau ychwanegol, ac yn galluogi'r Cyngor i gystadlu â chwmnïau rheoli gwastraff preifat. Dylai hyn gynyddu'r cyfleoedd masnachu sydd ar gael i ni."  

Dywedodd Paul Jennings, Cyfarwyddwr Cynllun y Green Compass, "Rydyn ni wrth ein bodd bod Caerdydd wedi ennill tystysgrif PAS 402 - yr Awdurdod Lleol cyntaf yn y Deyrnas Gyfunol i wneud hynny.

"Yng Nghymru yr ysgrifennwyd cyhoeddiad PAS 402 y BSi "Rheoli adnoddau gwastraff - manyleb adrodd am berfformiad" ac fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn 2009.

"Mae'r PAS yn gweithio ochr yn ochr  â Chynllun y Green Compass i roi cyfle i gwmnïau ennill tystysgrif drwy broses wedi ei hachredu gan UKAS. Mae Cynllun y Green Compass yn fyw ac yn iach ac ar waith nawr drwy'r DG gyfan, ac yn graddol ennill momentwm. Mae dros 40 o aelodau gan y cynllun yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, ac mae'r ffigur hwnnw'n tyfu bob mis."