Back
Newidiadau i ganlyniadau TGAU wrth i Gaerdydd ddathlu llwyddiannau ar hyd a lled y ddinas

Eleni mae canlyniadau TGAU wedi newid yn dilyn canllawiau newydd Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru.

Bydd y newidiadau, sy'n cynnwys cael gwared ar gyhoeddi trothwyon Lefel 2+ a Lefel 1, a chyflwyno set interim o fesurau perfformiad, yn helpu i gyflwyno'r newidiadau sydd eu hangen i gefnogi'r cwricwlwm newydd, a gaiff ei addysgu o 2022.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:"Mae hwn yn amser cyffrous i addysg, gyda diwygiadau cenedlaethol uchelgeisiol yn y cwricwlwm ac anghenion dysgu ychwanegol ar y gweill.Ein nod yw i bob plentyn a pherson ifanc gyrraedd ei botensial, a datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau i ffynnu mewn byd sy'n newid yn gyflym. 

"Mae addysg yn flaenoriaeth allweddol i Gaerdydd ac mae'r ymrwymiad i wella addysg wedi cael effaith sylweddol.Yn nhymor yr hydref, byddwn yn ail-sefydlu ein cydweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghaerdydd; ‘Caerdydd 2030' sy'n ei gwneud yn addas i Gaerdydd a'r dyfodol. 

"Mae hyn ynghyd â Strategaeth Dinas sy'n Dda i Blant Caerdydd sy'n rhoi pobl ifanc wrth wraidd y penderfyniadau, yn cryfhau ein hymrwymiad i wneud Caerdydd yn ddinas sy'n parchu barn, anghenion a hawliau pob plentyn a pherson ifanc."

Casglodd dros 3,120 o fyfyrwyr ar hyd a lled Caerdydd eu canlyniadau TGAU heddiw, a gwelwyd llwyddiannau ym mhob rhan o'r ddinas.

Dyma rai o'r straeon newyddion da ar hyd a lled y ddinas:

 

Ysgol Uwchradd Cantonian:

Canlyniadau TGAU ardderchog yn yr ysgol a Sgôr Pwyntiau 9 wedi'i Chapio o 382.

Mae awtistiaeth ar Jack Lovell ac er ei fod wedi cael y cyfnod arholiadau'n straen ar brydiau, cafodd raddau da ym mhob un o'i bynciau TGAU, yn cynnwys A*, pedair A a phedair B.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Results Days\Cantonian\IMG_1700.jpg

 

Ysgol Uwchradd Radur:

Gwnaeth yr ysgol yn dda a chafodd Sgôr Pwyntiau 9 wedi'i Chapio o 400.

Cafodd Sophie Thomas, Lily Terry a Ruby Richardson 13 A* a chlod anrhydedd ym Mathemateg Ychwanegol.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Results Days\Radyr\Picture 2.JPG

Ysgol Uwchradd Llanisien

Canlyniadau TGAU ardderchog yn yr ysgol a Sgôr Pwyntiau 9 wedi'i Chapio o 388.6.

Cafodd Caitlin Shepherd a Lewis Vaughan 15 gradd A*/A, a chafodd Chidi Anagu, Olivia Camilleri, Bethan John, Sophie Mills, Scott Owen a Charlie Player 14 gradd A*/A.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Results Days\Llanishen\3.png

Ysgol Plasmawr

Gwnaeth disgyblion Blwyddyn 11 yn dda a Sgôr Pwyntiau 9 Wedi'i Chapio yr ysgol yw 394.

Cafodd Millie-Mae Adams, Beca Davies, Sophie Davies, Beca Evans, Greta Evans, Manon Hammond, Daniel Howes, Ffion Humphreys, Megan Jones, Ioan Llywelyn, Heledd Powell, Rhianydd Preest, Manon Roberts a Ffion Thompson 9 gradd A* neu ragor.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Results Days\plasmawr 1.jpg

Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd

Dathlu ail set o ganlyniadau TGAU'r ysgol a'r tro cyntaf yn yr adeilad newydd sbon.

Cafodd Alicia Carpin, Logan Hurrell a Cameron Shaw raddau uchel.

Daeth Djainizio Brito i'r sir ym mis Hydref y llynedd ar ôl bod yn byw yn yr Iseldiroedd ac wedyn yn Cape Verde, cafodd 6 TGAU dros radd C a bydd yn dychwelyd i'r chweched dosbarth yn yr ysgol.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Results Days\Cardiff West\2.jpg

Ysgol Mair Ddihalog

Mae disgyblion a staff Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog yn dathlu llwyddiannau TGAU hynod trwy'r ysgol, yn cynnwys Tayyab Gehlan, a gafodd 9A* a 2A ac Ana Chirila a gafodd 7A* a 2A.

 

Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd

Mae Sgôr Pwyntiau 9 wedi'i Chapio'r ysgol, sef 384.7  yn dangos bod y myfyrwyr yn perfformio'n gryf drwy ystod o bynciau.

Cafodd y disgyblion Jessica Bright, Hannah Louden, Carys Palmer, Abbie Woodhall, Marika Slusarczyk,Megan Friedli, Mari Leonard, Rose Cooper, Caitlin James, Lucy Parry, Rosa Mayer 10 A* neu fwy.

Mae'r ysgol hefyd yn hynod falch o berfformiad cyffredinol y disgyblion yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Results Days\Whitchurch\41698D21-7DFD-497C-B52B-B44D98C403A1-5244-000001E6E141EC78.JPG

Ysgol Glantaf
Mae'r ysgol unwaith eto'n hynod falch bod blwyddyn 11 wedi gwireddu ei photensial a Sgôr Pwyntiau 9 wedi'i Chapio'r ysgol ydy391.9.

Bu nifer o lwyddiannau unigol, yn cynnwys tri disgybl yn cael 14 A* a thri disgybl yn cael 13 A*.

Ychwanegod y Cynghorydd Merry:"Mae diwrnod canlyniadau TGAU yn un o'r diwrnodau pwysicaf ym mywydau pobl ifanc, sy'n nodi diwedd sawl blwyddyn o waith caled ac sy'n cynrychioli dechrau cyfleoedd newydd, cyffrous.

"Llongyfarchiadau i bob disgybl a gasglodd ei ganlyniadau heddiw.Rwy'n hynod falch o glywed am y cyflawniadau gwych ar hyd a lled y ddinas a hoffwn ddymuno pob llwyddiant i'r holl fyfyrwyr wrth iddynt symud i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant pellach."