Back
Disgyblion Safon Uwch Caerdydd yn dathlu llwyddiant


\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Results Days\Glantaf a - Levels\WNEB1809.JPG

Mae canlyniadau Safon Uwch Caerdydd am y tro yn dangos bod safonau yn dal i fod yn uchel yn y brifddinas. 

Yn seiliedig ar y canlyniadau cychwynnol a gyhoeddwyd heddiw, mae 31.5 y cant o ganlyniadau Safon Uwch 2019 wedi eu graddio o A* i A, o'i gymharu â chyfartaledd Cymru sef 27 y cant. 

Mae canran y canlyniadau graddau A* i E wedi codi i 98.6 y cant, cynnydd o 0.3 y cant ar y llynedd.

Ar gyfer y rhai safodd ac a raddiwyd A* i C, y ffigwr yw 80.9 y cant, o'i gymharu â ffigwr Cymru gyfan o 76.3 y cant, cynnydd o 2.6 pwynt canrannol.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Llongyfarchiadau i bob disgybl a gasglodd ei ganlyniadau heddiw.

"Mae hyn yn dathlu'r gwaith caled, yr amser a'r agwedd benderfynol a fuddsoddwyd gan ein pobl ifanc yn y ddwy flynedd ddiwethaf ac rwyf wrth fy modd yn clywed cymaint o straeon am lwyddiant ledled y ddinas.

"Mae diwrnod canlyniadau Safon Uwch hefyd yn nodi dechrau pennod newydd cyffrous iawn i fyfyrwyr, a hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddynt wrth symud ymlaen i'r brifysgol, i gyflogaeth neu i hyfforddiant."

Mae'r canlyniadau hyn am y tro yn adlewyrchu'r canlyniadau Safon Uwch gan bob bwrdd arholi.Bydd y canlyniadau BTEC a Bagloriaeth Cymru yn cael eu hychwanegu at y ffigurau terfynol a gaiff eu cadarnhau. 

Dyma rai straeon newyddion da o bob rhan o'r ddinas:

 

Ysgol Esgob Llandaf

  • 34% yn llwyddo i gael A* i A
  • 84% yn llwyddo i gael A* i C
  • 99% yn llwyddo i gael A* i E
  • Cafodd Jack Vaughan a Katie McMullen 4 x A* a fe allan nhw edrych ymlaen at fynd i astudio Hanes yn Rhydychen, a Chynllunio ac Eiddo Tirol ym Manceinion.

 

Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Results Days\Glantaf a - Levels\FJZY8216.JPG

  • 99% o'r myfyrwyr yn bwrw'r trothwy L3
  • Roedd dros 40% o'r graddau yn rhai A neu A*
  • Cafodd 36% o'r disgyblion o leiaf ddwy radd A* i A
  • Cafodd Jac Griffiths bump A* a Manon Johnes a Georgina Savastano ill dwy 4 A*, ac yn mynd ymlaen i astudio yn Rhydychen.

 

Ysgol Uwchradd Cantonian

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Results Days\Cantonian .jpg

  • 100% o ddisgyblion yn ennill Safon Uwch gyda 67% yn ennill tair gradd A* i C
  • Cafodd disgyblion a gyflawnodd gymwysterau galwedigaethol ganlyniadau ardderchog hefyd, gyda 100% yn llwyddo i basio neu gael graddau gwell
  • Cafodd 75% raddau A* i C yn Nhystysgrif Her Sgiliau Uwch y Fagloriaeth Gymreig

 

Ysgol Gyfun Radur

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Results Days\Radyr\3.jpg

  • Mae 38 o ddisgyblion blwyddyn 13 wedi cael o leiaf 3 gradd A, gydag 20 o fyfyrwyr yn cael o leiaf 4 gradd A.
  • A*A % - 48%, A*B % - 71 %, A*C % - 87%, A*D % - 96%, A*E % - 99.6%
  • Nifer mwyaf erioed o geisiadau llwyddiannus i Rydychen a Chaergrawnt, gyda phump o'n myfyrwyr yn sicrhau eu lle yno.

 

Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Results Days\plasmawr results pic.jpg

  • Mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr sydd wedi ymgeisio am gyrsiau Addysg Uwch wedi cael eu derbyn i'w Prifysgolion dewisol, ac mae canran uchel ohonynt yn Brifysgolion Grŵp Russell. 
  • Cafodd 22.2% 3 neu fwy o raddau A* i A
  • Cafodd 70% 3 neu fwy o raddau A* i C
  • Mae Carys Bill, Elin Preest a Gwen Williams wedi bwrw'r gofynion mynediad angenrheidiol i gael lleoedd ym Mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.

 

Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Results Days\Whitchurch High\A6021697-ECEB-42FF-976B-75E656F31AFC-4412-0000017135BDCB33.jpg

  • Roedd 33% o'r graddau lefel A yn rhai A neu A*.
  • Roedd 61% o'r holl raddau a ddyfarnwyd yn radd B neu uwch. 
  • Cafodd 35 o fyfyrwyr dri neu fwy o raddau A* neu A, gan gynnwys 2 ddisgybl, Anna Reynolds ac Anna Ruddock a gafodd 4 o raddau A*. 
  • Cafodd wyth o ddisgyblion eraill, Jenni Colcombe, Sophie Gwilt, Chloe Howcroft, Daniel Howcroft, Arash Hushyar Yazdian, Ewan John, Beatriz Silva a William Thomas 3 gradd A*.
  • Cafodd yr efeilliaid Sophie Gwilt ac Erin Gwilt bump o raddau A* a dau A rhyngddyn nhw, a llwyddodd gefeilliaid eraill - Daniel Howcroft a'i chwaer Chloe i sicrhau chwech o raddau A* rhyngddyn nhw.

 

Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Results Days\Cardiff West\file6.jpeg

  • 100% wedi sicrhau 3+ A* - C neu gyfwerth
  • Mae dros 65% wedi llwyddo i gael 3 A*-C+ neu gyfwerth gan gynnwys y Fagloriaeth Gymreig gyda'n disgyblion A2.
  • Mae Georgia Newman yn fyfyriwr cennad ac fe dderbyniodd hi A,B,C. mae wedi bod yn astudio iaith Corea yn ei hamser sbâr ac wedi gwneud cais am le yn SOAS Llundain.

 

Ysgol Uwchradd Cathays

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Results Days\Cathays High\Charlotte Tring & Kadi Gomez.jpeg

  • Y flwyddyn fwyaf lwyddiannus erioed ar gyfer canlyniadau Safon Uwch yn yr ysgol
  • Cafodd myfyrwyr A2 leoedd mewn prifysgolion, gyda dros 90% ohonynt yn cael eu dewis cyntaf.
  • Roedd 95% o'r canlyniadau yn rhai gradd A*-E
  • Roedd 83% yn rhai A* i C
  • Roedd 33% yn rhai A* i A
  • Mae canlyniadau A*-A, A*-B ac A*-C yn sylweddol well nag mewn blynyddoedd blaenorol.
  • Cafodd Amarjit Gaba dri A mewn Mathemateg, Mathemateg Pellach a Ffiseg er iddo ond ddechrau ar ei astudiaethau ym mis Ionawr 2019.

 

 

Ysgol Uwchradd Llanisien

  • Llwyddodd Llenyddiaeth Saesneg, Ffiseg, Cerddoriaeth a Gwleidyddiaeth i sicrhau 100% o raddau A* i C
  • Mewn Economeg, roedd 36% o'r graddau yn rhai A* i A
  • Mewn Ffrangeg a Daearyddiaeth, roedd 50% o'r graddau yn rhai A*-A
  • Mae llawer o ddisgyblion wedi llwyddo i gael lle mewn ystod o brifysgolion Grŵp Russell i ddilyn ystod eang o gyrsiau gradd. 
  • Llwyddodd Megan Brown, Alice Cann, Leah Coulter, Ben Crocker, Ollie Dell'Armi, Alys Murphy, Jo Radulovic, Gwyn Rich a Jazmin Stacey oll i ennill 4 gradd A*-A .