Back
Carwch eich Cymuned gyda mynediad i offer casglu sbwriel unrhyw bryd!

Mae Caru Eich Cymuned wedi cyflwyno eu menter casglu sbwriel ar draws POB hyb yng Nghaerdydd i annog pobl i wirfoddoli eu hamser i gadw cymunedau'n lân a thaclus.

Syniad y fenter yw rhoi'r cyfle i breswylwyr ddilyn hyfforddiant a benthyca offer casglu am hyd at bythefnos.

Ar ôl cwblhau'r hyfforddiant byddwch yn Bencampwr Sbwriel swyddogol a byddwch yn gallu galw heibio'r Hyb ar unrhyw adeg i fynd i'r afael ag unrhyw sbwriel yn eich cymuned.

Gallwch fenthyca fests gwelededd uchel, menig amddiffynnol, ceibiau a chylchau sbwriel, bagiau pinc a gwyrdd a chitiau Cymorth Cyntaf pan fyddwch yn gwirfoddoli. 

Dyw hi byth rhy gynnar i ddod yn Bencampwr Sbwriel - caiff plant eu hannog i ymuno â'r casgliadau sbwriel gyda'u hoedolion gan ddefnyddio ceibiau sbwriel arbennig ar gyfer dwylo llai!

Mae offer casglu sbwriel a hyfforddiant ar gael yn:

  • Hyb Grangetown
  • Llyfrgell Cathays
  • Hyb Ystum Taf a Gabalfa
  • Hyb y Tyllgoed
  • Hyb Trelái a Chaerau
  • Powerhouse Llanedern
  • Hyb STAR
  • Llyfrgell Treganna
  • Hyb Llanisien
  • Hyb Rhiwbeina
  • Hyb Tredelerch
  • Hyb Llaneirwg
  • Llyfrgell Pen-y-lan
  • Llyfrgell Radur
  • Hyb Llanrhymni.

I ddysgu mwy am hyn a'r casgliadau sbwriel nesaf ewch iwww.keepcardifftidy.com <http://www.keepcardifftidy.com/>neu e-bostiwchCarwcheichCaerdydd@caerdydd.gov.uk <mailto:CarwcheichCaerdydd@caerdydd.gov.uk>i ddod y Pencampwr Sbwriel nesaf yn eich cymuned!