Back
Lledaenu’r gair ynghylch mesuryddion deallus

 

Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio gyda Smart Energy GB i helpu pobl hŷn yn y ddinas i ddysgu am fesuryddion deallus a'r newidiadau cadarnhaol y gallent eu hysgogi.

 

Mae'r bartneriaeth yn rhan o ymgyrch Smart Energy GB i roi gwybod i bobl a'u hysbrydoli ynghylch mesuryddion deallus a sicrhau eu bod yn gwybod sut mae cael un.

 

Bydd gan bob cartref y cyfle i uwchraddio i fesurydd deallus am ddim yn rhan o broses o gyflwyno mesurydd deallus yn genedlaethol, a fydd yn gwella seilwaith ynni Prydain Fawr.

 

Mae'r Cyngor yn annog trigolion, yn benodol y rheiny sydd dros 65 oed yn y ddinas i ddysgu mwy am fesuryddion deallus trwy fynd i hybiau a llyfrgelloedd ym mhob rhan o'r ddinas lle y gall staff roi gwybodaeth am eu manteision. Hefyd cynhelir cyfres o ddigwyddiadau mewn hybiau, llyfrgelloedd a banciau bwys ledled y ddinas lle y gall pobl ddysgu mwy am hyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Mae mesuryddion deallus yn ffordd syml a chywir o reoli faint o ynni sy'n cael ei ddefnyddio a gan fod llawer o bobl yn cael trafferth talu eu biliau ynni, gallant helpu pobl i arbed arian trwy leihau swm y nwy a thrydan y maent yn eu defnyddio.Mae 79% o berchenogion mesuryddion deallus yn dweud bod eu mesurydd yn rhoi syniad gwell iddynt o faint maent yn ei wario ar ynni.

 

"Rydym yn falch iawn o weithio gyda Smart Energy GB i helpu pobl i ddeall sut gall mesuryddion deallus eu helpu.Nid yn unig y gall mesuryddion deallus arbed arian i bobl ond gallant hefyd ddileu'r angen i roi ddarllediadau mesuryddion a gall pobl roi arian ar y mesurydd yn awtomatig heb angen gadael eu cartrefi.

"Bydd ein staff mewn hybiau a llyfrgelloedd yn yr wythnosau i ddod yn barod i esbonio'r manteisio i unrhyw un sydd â diddordeb felly byddwn yn annog unrhyw nad oes ganddo fesurydd deallus wedi'i osod eto i ddysgu mwy.

 

I gael mwy o wybodaeth ymgyrch Smart Energy GB mewn Cymunedau yng Nghaerdydd, ewch ihttp://www.cardiffhousing.co.uk/index.php?section=advice_and_support&option=smart_meters