Back
Arolygiad Hylendid Bwyd yn arwain at erlyniad

Brynti, budreddi, baw llygod - bach a mawr - ac annibendod.

Dyna a welwyd yn siop prydau parod Tsieineaidd y Golden Cow ar Broadway, Sblot, ym mis Mai y llynedd, pan gynhaliodd swyddogion o'r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir arolygiad yn sgil cwyn gan aelod o'r cyhoedd.

Caeodd y busnes o'u gwirfodd tan i'r lleoliad gael ei lanhau'n ddwfn ac i'r plâu gael eu trin, ac ailagorodd yn fuan wedyn.

Cynhaliwyd arolygiad pellach wedyn ym mis Tachwedd 2018 ac nid oedd pob un o'r tramgwyddau hylendid bwyd wedi ei ddatrys. Yn wir, fe welodd swyddog lygoden yn rhedeg mewn ardal storio bwyd y tu allan.

Rhoddwyd sgôr hylendid bwyd o 0 i'r busnes yn y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, a chytunodd y busnes unwaith eto i gau rhan ohono'n wirfoddol tan iddo gael ei lanhau'n drylwyr, y pla llygod wedi ei ddifa a'r gwaith strwythurol angenrheidiol wedi ei gwblhau.

O ran y materion hyn, yn Llys Ynadon Caerdydd, Ddydd Gwener diwethaf, 09 Awst, plediodd Unig Gyfarwyddwr y cwmni, Lin Yun Zheng, 33 oed o Broadway, Caerdydd, yn euog i 8 cyhuddiad yn ymwneud â hylendid Bwyd.

Dywedodd y cyfreithiwr amddiffyn wrth y llys mai dim ond ychydig cyn yr arolygiad ym mis Mai 2018 y canslodd Mrs Zheng gyflogaeth cwmni rheoli plâu am ei bod yn ymddangos nad oedden nhw'n gwneud eu gwaith yn iawn ac am eu bod yn gwrthod arwyddo contract. Mae'n debyg bod y problemau wedi codi am fod Mrs Zheng yn ceisio cynnal y busnes yn ogystal â gofalu am dri o blant. 

Dywedodd y Cyng. Michael Michael, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd: "Pan fo pobl yn archebu prydau parod, maen nhw'n disgwyl i'r bwyd gael ei baratoi a'i goginio mewn amgylchedd diogel. Yn aml, erbyn hyn, dyw pobl ddim hyd yn oed yn gweld y busnes bwyd maen nhw'n prynu oddi wrtho gan fod y bwyd yn cael ei anfon i gartref y cwsmer. Dyma pam mae rheoleiddio busnesau bwyd mor bwysig a pham ei bod er lles y cyhoedd i roi gwybod iddyn nhw am unrhyw fethiannau.

"Roedd yr amodau a welwyd yn y Golden Cow yn bell o fod yn dderbyniol. A dweud y gwir, barnodd y llys bod y dramgwydd yn un ‘difrifol' a bod lefel y risg yn perthyn i ‘Gategori 1'. Mewn geiriau eraill, roedd lefel risg niwed i'r cwsmer yn un o'r categorïau uchaf posibl."

Cafodd Lin Yun Zheng ddirwy o £1,500, fe'i gorchmynnwyd i dalu £340 o gostau a gordal dioddefwr o £150. Mae gŵr Mrs Zheng nawr yn rhedeg y busnes prydau parod drwy gwmni ag enw gwahanol, sef Golden Cow Ltd. Sgôr Hylendid hwnnw yw 2 allan o 5 ar hyn o bryd.