Back
Golau gwyrdd i gyfnewidfa fysiau Caerdydd, rhan o ddatblygiad 500,000 tr sg


Cafwyd cadarnhad heddiw y bydd cyfnewidfa fysiau Caerdydd, y bu disgwyl hir amdani, yn rhan o fargen rhwng Llywodraeth Cymru, y cwmni ariannol mawr Legal & General a datblygwr y Sgwâr Ganolog, Rightacres Property.

Bydd y gyfnewidfa fysiau yn cael ei rhedeg gan Trafnidiaeth Cymru a bydd ganddi faeau ar gyfer 14 o fysiau a choetsys ar ochr ogleddol gorsaf drenau Caerdydd Canolog. Mae cynllun ar y gweill hefyd i ddatblygu'r ochr ddeheuol a chreu 4 bae ychwanegol fel rhan o gomplecs gorsaf Caerdydd Canolog.

Fel rhan o'r datblygiad, ar gyfer gwasanaethau bws lleol nad ydyn nhw'n terfynu yng Nghaerdydd Canolog ac y byddai gorfod mynd trwy'r orsaf yn ychwanegu at hyd eu teithiau fel arall, mae arosfannau stryd yn cael eu gwella fel eu bod yn edrych fel rhai'r orsaf fysiau, er enghraifft gyda'r un gwasanaethau gwybodaeth, arwyddion a dyluniad.

Y gyfnewidfa fysiau yw rhan gyntaf prosiect mwy i ailddatblygu cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus Caerdydd Canolog. Bydd y gyfnewidfa fysiau'n cael £15m arall oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith mewnol, ar ben y £15m a dalwyd gan Lywodraeth Cymru i brynu'r tir.

O gyfuno hynny â'r £58m a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Lywodraeth y DU ar gyfer yr orsaf drenau, y £40m sydd eisoes wedi'i addo gan bartneriaid Bargen y Ddinas a'r £15m oddi wrth Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, dyna becyn ariannu o ryw £150m gan y sector cyhoeddus a darparwyr trafnidiaeth ar gyfer y gyfnewidfa newydd.

Gyda'r sector preifat, a Legal & General yn enwedig, yn rhoi arian cyfatebol, caiff cannoedd ar filiynau o bunnau ei fuddsoddi i greu cyfnewidfa drafnidiaeth aml-foddol fydd yn gnewyllyn y Metro.

Dyma'r datblygiad preifat mwyaf yng Nghymru, yn fwy na 500,000 tr sg o faint, a bydd y gyfnewidfa fysiau, 318 o apartmentau i'w rhentu a 100,000 tr sg o ofod gradd A ar gyfer swyddfeydd yn rhan ohono.

Wrth gyhoeddi'r fargen, dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

"Mae bysus,teithio llesola threnau'n rhannau craidd o'n huchelgais dewr ar gyfer y Metro. Bydd cymorth Llywodraeth Cymru i'r buddsoddiad yng nghyfnewidfa fysiau Caerdydd Canolog yn golygu y caiff ei ddatblygu ochr yn ochr â gorsaf drenau brysuraf Cymru a gweithio'n ddifwlch â hi, i roi profiad cwbl integredig i deithwyr yng nghanol ein prifddinas.

"A dim ond rhan gyntaf ailddatblygu Caerdydd Canolog yw hon. Mae ein partneriaid yn y Fargen Ddinesig wedi clustnodi £40m ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol, gyda'n partneriaeth â'r sector preifat yn dod â lleoedd teithio, byw a gweithio ynghyd gan ddatblygu hunaniaeth newydd i'r fynedfa bwysig hon i Gaerdydd.

Dywedodd Paul McCarthy, Prif Weithredwr Rightacres:

"Mae rhoi'r datblygiad ar waith wedi bod yn broses gymhleth ond rydyn ni'n falch bod rhanddeiliaid gwahanol y prosiect bellach yn gytûn a'n bod o'r diwedd yn gallu dechrau ar y datblygiad hynod bwysig hwn. Caerdydd Canolog yw'r prif borth i Gymru ac wrth i fwy a fwy o fusnesau a phobl symud i ganol dinas Caerdydd, bydd gwerth economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol yr hyb trafnidiaeth yn cynyddu.

Dywedodd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:

"Mae adeiladu cyfnewidfa fysiau newydd wedi bod yn flaenoriaeth bennaf y cyngor ers diwrnod cyntaf y weinyddiaeth hon gan adlewyrchu'n hymrwymiad i ddarparu mwy o swyddi a swyddi gwell i bobl Caerdydd a thu hwnt. Dyma fydd cam olaf y Sgwâr Ganolog, sef y prosiect adnewyddu mwyaf yng Nghymru. Mae cynllun gwreiddiol y Cyngor ar gyfer y rhan hon o'r ddinas yn troi'n realiti ac rydyn ni'n falch iawn y caiff miloedd o swyddi eu creu ym mhrifddinas Cymru trwyddo."

Dywedodd Tom Roberts, Pennaeth Buddsoddi Strategol Legal & General:

"Er mwyn gallu ateb yr her sy'n wynebu dinasoedd modern, rhaid mynd at y lefel nesaf wrth ddatblygu hybiau trafnidiaeth. Er mwyn bodloni disgwyliadau dinaswyr modern a gwella ansawdd eu bywyd, rhaid i'r hybiau hyn fod yn ddatblygiadau gwirioneddol gymysg, gan gynnig ystod o leoedd byw a gweithio. Mae Legal & General wedi ymrwymo i ariannu a darparu'r math hwn o ddatblygiad cynaliadwy."