Back
Ysgol Gymraeg Treganna: ‘Gofal, cymorth ac arweiniad o'r safon uchaf', meddai Estyn

Mae Ysgol Gymraeg Treganna yn Nhreganna wedi sgorio'n ‘wych' mewn dau o'r pum maes a arolygwyd gan Estyn - y sgôr uchaf posibl, ac yn 'dda' yn y tri chategori eraill y edrychwyd arnynt gan arolygaeth addysg Cymru.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Ysgol Treganna\ds5197.jpg

Yn dilyn yr arolygiad diweddar, mae'r ysgol wedi'i disgrifio'n ‘gymuned ofalgar a chynhwysol sy'n hyrwyddo Cymreictod a datblygu personol, emosiynol a chymdeithasol disgyblion yn llwyddiannus iawn.'

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod ‘darpariaeth yn gyfoethog, wedi'i seilio ar syniadau disgyblion a chynnig cyfleoedd effeithiol iddynt ddatblygu eu sgiliau creadigol, yn ogystal â'r gallu i ddatrys problemau ‘bywyd go iawn' yn rheolaidd. 

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Ysgol Treganna\ds4788.jpg

Hefyd nododd yr arolygwyr bod disgyblion sy'n aelodau o amrywiol bwyllgorau a chynghorau plant yn dangos eu bod yn fwy aeddfed na'r disgwyl wrth gyflawni cyfrifoldebau a bod disgyblion yn gwneud cynnydd cadarn ac yn cyflawni'n dda yn ystod eu hamser yn yr ysgol. 

Yn ogystal, canfuwyd bod ansawdd y gofal, cymorth ac arweiniad gan staff yn ‘eithriadol dda ac yn cael effaith gadarnhaol ar safonau a llesiant disgyblion.'

Nodon nhw fod y Pennaeth a'i dîm o arweinwyr yn ‘rhoi arweiniad clir ar gyfer gwaith yr ysgol ac yn rhannu eu gweledigaeth yn llwyddiannus â phobl eraill ac aelodau'r uwch dîm rheoli gan wneud ‘cyfraniad gwerthfawr at hyn trwy arwain cymunedau dysgu yn yr ysgol ac agweddau penodol ar eu gwaith.'

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Ysgol Treganna\ds4626.jpg

Gan fyfyrio ar yr adroddiad, dywedodd y Pennaeth, Rhys Harries:"Rwy'n falch o weld ymroddiad a gwaith caled fy staff gwych yn cael eu cydnabod gan Estyn.Mae'r adroddiad hwn yn dilysu eu brwdfrydedd dros, a'u hymroddiad parhaus i; gyflawni'r gorau i'r holl ddisgyblion, gan wneud buddsoddiad anferth yn eu llesiant ac yn dathlu diwylliant eang ac amrywiol ein cymuned."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Dyma ganlyniad gwych i YsgolGymraeg Tregannaac yn deyrnged i waith caled ac ymroddiad y pennaeth, staff a disgyblion yn yr ysgol, y dylen nhw fod yn eithriadol falch.

"Rydyn ni'n ymroddedig i sicrhau bod pob plentyn yng Nghaerdydd yn mynd i ysgol dda neu wych.Wedi arolygiad llwyddiannus arall yn Ysgol Treganna, rwy'n falch bod yr ymrwymiad parhaus hwn yn cael ei gyflawni."