Back
Prentisiaid Caerdydd yn cyfnewid Parc Bute am Ynys Bute
Mae tri o brentisiaid parciau Caerdydd yn cyfnewid Parc Bute am Ynys Bute fel rhan o raglen gyfnewid sy’n cryfhau’r cysylltiadau rhwng y parc a Phlas a Gerddi Mount Stuart, cartref cyndeidiau’r teulu Bute. 

Bydd y prentisiaid yn treulio’r wythnos yn dysgu gan y tîm garddwriaethol, sy’n edrych ar ôl y gerddi sy’n cael eu cydnabod fel rhai o erddi gorau Ewrop, cyn dychwelyd i Gaerdydd i rannu eu gwybodaeth newydd â’r tîm a pharhau i weithio tuag at y cymwysterau sy’n rhan o’u hyfforddiant gyda’r cyngor.

Cafodd Plas Mount Stuart ei adeiladu’n wreiddiol yn 1719 gan yr 2il Iarll Bute. Wedi tân yn 1877, cafodd yr adeilad ei ail-adeiladu gan 3ydd Ardalydd Bute gan ddefnyddio’r un tîm, gan gynnwys William Burges oedd eisoes wedi dylunio Castell Caerdydd sy’n adeilad neo-gothig hynod.

Mae’r plasty, sydd yng nghanol 300 acer o diroedd ac sy’n gartref i'r hyn sy’n cael ei ystyried yn bwll nofio â gwres dan do cynta’r byd, yn cynnwys llawer o themâu sêr-ddewiniol a seryddol sy’n gyfarwydd i ymwelwyr Castell Caerdydd, ond i brentisiaid, y gerddi yw’r atyniad go iawn. 

Yn siarad cyn iddi adael, dywedodd Ginny Head, un o brentisiaid y parciau sy'n mynd tua'r gogledd:“Roedd cael cyfle i ddechrau gweithio fel prentis i Gaerdydd yn wych, ond mynd i Mount Stuart yn rhan o’r dysgu hwnnw, ‘dw i’n edrych ymlaen yn fawr.

 “Mae’r gerddi yn fanno yn swnio’n anhygoel ac mae hanes hir sy’n gysylltiedig â cheiswyr planhigion o oes Fictoria oedd yn arfer teithio ledled y byd, yn chwilio am blanhigion estron."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:“Mae hanes Caerdydd yn gysylltiedig tu hwnt â theulu Bute - mae'r rhaglen gyfnewid hon yn ffordd wych i'n prentisiaid gael adeiladu ar yr hanes hwnnw ac rwy'n siŵr y byddant yn dod yn ôl gyda hyd yn oed yn fwy o wybodaeth a brwdfrydedd dros gadw parciau'r ddinas mewn cyflwr gwych."

Dywedodd Beki Marriott, Prif Arddwr Mount Stuart:“Bydd y garddwyr yn cael profiad amrywiol iawn wrth ymweld â Mount Stuart, yn gweithio o’r blanhigfa'r holl ffordd drwodd at goedyddiaeth.Mae’r tîm wedi hen sefydlu, ac rydym yn credu ei bod hi'n bwysig i ddysgu gan ein cyfoedion a rhannu gwybodaeth, felly rydym oll yn edrych ymlaen at gwrdd â phrentisiaid newydd Parc Bute."

Mae Gerddi Mount Stuart yn llawn gerddi â waliau, gerddi cegin, coetiroedd a gwlyptiroedd, gerddi cerrig, tai poeth a gerddi cudd - ychydig fel yr ardd gudd yng Nghaerdydd sy'n gartref i Blanhigfeydd Parc Bute lle mae'r prentisiaid yn treulio llawer o amser.

Dywedodd Ginny Head:“Bydd yn ddiddorol iawn yno, yn darganfod sut maent yn gofalu am y gerddi a'r amrywiaeth anhygoel o blanhigion, rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddechrau ac yna dod yn ôl i wneud parciau Caerdydd hyd yn oed yn well."