Back
Aelod o sgam ‘arian am ddamwain ffordd’ wedi ei gael yn euog

Mae Michael Falkingham, 31, o Clos y Berllan, Caerdydd, wedi ei gael yn euog o Ddirmyg Llys mewn cysylltiad â hawliad am anaf chwiplach ffug mewn damwain ffordd yn 2014 pan nad oedd yn yr un o'r cerbydau mewn gwirionedd.

Cyn yr achos yr wythnos diwethaf yn Uchel Lys Cyfiawnder Caerdydd, roedd Falkingham yn honni ei fod yn sedd teithiwr fan gludo Volkswagen pan yrrodd un o gerbydau Ford Tipper y cyngor i gefn y Volkswagen. 

Ar adeg y gwrthdrawiad, roedd y fan gludo wedi stopio'n sydyn i osgoi blociau concrid oedd wedi llithro o gefn lori wastad. Yr unig bobl oedd yn y fan gludo pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad oedd y gyrrwr a dwy berthynas.

Yn rhan o'r hawliad ffug, aeth Michael Falkingham i Ysbyty Athrofaol Cymru i gofrestru ei anafiadau honedig ar ôl y ddamwain, er nad oedd yn y naill gerbyd na'r llall.

Yn gweithredu ar ran cwmni yswiriant Cyngor Caerdydd - Yswiriant Zurich - dadleuodd Cyfreithwyr Horwich Farrelly fod pum sail dros Ddirmyg Llys yn yr achos a bod gweithredoedd Michael Falkingham yn ‘ddim byd llai na chelwyddau digywilydd yr oedd y diffynnydd yn llawn fwriadu iddynt amharu ar gwrs cyfiawnder drwy arwain at daliad iddo fe, y gwyddai nad oedd ganddo hawl iddo.'

Mewn amddiffyniad, dywedodd Falkingham na wnaeth yr alwad wreiddiol i'r cwmni cyfreithiol Amanda Cunliffe & Co i gofrestru'r hawliad ffug. Cefnogwyd hyn gan dyst arbenigol a roddodd ei barn mai ‘tystiolaeth gyfyngedig' oedd yn y recordiad mai Mr Falkingham oedd yn siarad.

Wedi'r alwad gychwynnol hon yr honnodd Mr Falkingham nad ef oedd wedi'i gwneud, ymwelodd cynrychiolydd o gyfreithwyr Falkingham â'i gartref lle llofnodwyd dogfennau cyfreithiol gan Michael Falkingham i symud yr hawliad yn ei flaen. Wrth i Falkingham ddechrau derbyn galwadau ffôn, penderfynodd beidio â pharhau gyda'r hawliad, am ei fod, yn ei eiriau ef, yn ‘foesol anghywir'.

Dygodd Zurich, gan weithredu ar ran Cyngor Caerdydd, achos yn erbyn Michael Falkingham. Yn sgil hyn, recordiwyd cyfres o alwadau ffôn rhwng Falkingham a Horwich Farrelly, lle cyfaddefodd Falkingham fod yr hawliad yn un ‘amheus' ac yn hawliad ‘arian am ddamwain ffordd'.

Wedi ystyried y dystiolaeth dros ddeuddydd yr achos, cafodd y Llys Falkingham yn euog o Ddirmyg Llys. Ar sail ei gyfaddefiad cynharach ei fod yn euog, fe'i dyfarnwyd gan y llys i'r carchar am bedwar mis, wedi ei ohirio am 18 mis.

Wrth ddedfrydu, dywedodd Ei Anrhydedd y Barnwr Harrison: "Rwyf yn fodlon, er sicrwydd, bod Michael Falkingham wedi llofnodi dogfennau ar gyfer hawliadau y gwyddai eu bod yn ffug, a thrwy lofnodi'r dogfennau roedd yn cyfarwyddo'i gyfreithwyr ar faterion y gwyddai eu bod yn ffug ac y gwyddai y byddent yn amharu ar gwrs cyfiawnder.

Yn siarad yn uniongyrchol â Michael Falkingham, dywedodd y Barnwr Harrison: "Roeddech yn agos iawn at fynd yn syth i'r carchar, a dim ond oherwydd amgylchiadau hynod anghyffredin yr achos hwn y mae eich dedfryd wedi ei gohirio."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cyng. Chris Weaver: "Hoffwn ei gwneud yn glir bod pob hawliad yn erbyn y Cyngor yn cael ei wirio, a'i wirio eto.

 "Mae'r ffaith bod Michael Falkingham wedi credu y gallai hawlio yn erbyn y Cyngor er nad oedd yn y ddamwain ffordd o gwbl yn anodd ei chredu, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n cwmni yswiriant i atal hawliadau yswiriant ffug, y bydd rhaid i'r trethdalwyr ysgwyddo'r baich amdanynt."