Back
Diwrnod o ddysgu a dathlu yn nigwyddiad Meddyliwch Eto! Mynd i'r afael â Chamfanteisio

Diben addysg yw gwella bywydau pobl eraill, a throi'ch cymuned a'r byd yn llefydd gwell nag oedden nhw gynt-Marian Wright Edelman

Rhoddwyd geiriau Marian Wright ar waith yn nigwyddiad Meddyliwch Eto!Mynd i'r afael â Chamfanteisio.

Yn ail ran rhaglen eleni, y rhan olaf am y flwyddyn, daeth pobl ifanc o ysgolion pob cwr o Gaerdydd at ei gilydd yn Neuadd y Sir i ddangos eu cyflwyniadau ar Gamfanteisio ar Blant. Roedd y digwyddiad wedi ei rannu'n ddwy ran. Rhoddwyd y cyflwyniadau yn y bore. Yn y prynhawn, lansiwyd adroddiad Meddyliwch Eto! Tîm Allgymorth Iechyd Rhyw YMCA Caerdydd, oedd wedi ei gyllido gan Gyngor Caerdydd, ac fe ddangoswyd fideo ganddynt hefyd.

Ym mis Mawrth, ymunodd disgyblion â sefydliadau fel Heddlu De Cymru, YMCA ac eraill ar gyfer cyfres o weithdai am y ffyrdd amrywiol a lluosog y cam-fanteisir ar blant. Yn sgil hynny, defnyddiodd y bobl ifanc eu gwybodaeth newydd a'i chyfuno gydag ymchwil empirig ac ymchwil pen desg i greu eu cyflwyniadau eu hunain. Dangoswyd y cyflwyniadau i gyd-ddisgyblion, gyda'r nod o hybu trafodaeth, ymhlith disgyblion a staff, ar y pwnc hwn sy'n tyfu'n gynyddol bwysig.

Roedd pawb yn gwybod y byddai'r bobl ifanc yn dda, ac roedd y gwaith meddwl, yr ymdrech a'r angerdd oedd y tu ôl i'r cyflwyniadau anhygoel yn ysbrydoliaeth enfawr.

Ysgol Uwchradd Fitzalan

Mae bod y cyntaf ar y llwyfan wastad yn anodd, ond cafwyd cychwyn gwych i'r diwrnod gan Ysgol Fitzalan, gyda chyflwyniad ar Linellau Cyffuriau. Roedd y disgyblion wedi defnyddio arolygon yn wych, a chafwyd awgrymiadau ardderchog ganddyn nhw - yn cynnwys gwneud y Cyfryngau Cymdeithasol yn gyfrifol am addysgu defnyddwyr am Linellau Cyffuriau, yn enwedig o gofio'r rôl mae'r cyfryngau hynny'n ei chwarae yn arferion recriwtio a gweithredu'r Llinellau Cyffuriau.

Ysgol Uwchradd Willows

Cafwyd cyflwyniad rhagorol gan Ysgol Willows ar Secstio. Roedd eu hymchwil wedi dangos bod 80% o ‘secstwyr' dan 18 oed - gan ddangos mor bwysig mae ymgyrch Meddyliwch Eto! wrth gynydduymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r broblem o fewn ysgolion.Dangosodd eu cyflwyniad sut gall delweddau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer un person ledaenu a chael eu defnyddio gan rai sydd am gamfanteisio ar bobl ifanc - megis oedolion peryglus a threfnwyr Llinellau Cyffuriau.

Ysgol Esgob Llandaf

Creodd sgiliau animeiddio disgyblion Ysgol Esgob Llandaf argraff fawr. Roedd eu cyflwyniad yn gyfuniad deheuig o PowerPoint ac animeiddiadau roedd y disgyblion eu hunain wedi eu creu, ac yn tynnu sylw at y ffyrdd amrywiol mae pobl yn cam-fanteisio ar blant: caethwasiaeth fodern, camdriniaeth a pharatoi plant at bwrpasau rhyw. Roedd eu defnydd o dechnoleg yn glyfar iawn, ac fe ddefnyddion nhw Kahoot i greu cwis ar-lein difyr.

Ysgol Teilo Sant

Cyflwynwyd ffeithiau anhygoel gan Ysgol Teilo Sant ac roedd sgiliau cyflwyno gwych ar waith mewn cyflwyniad ar Baratoi Plant at Ddibenion Rhyw - cyflwyniad diddorol ac addysgiadol iawn.

Ysgol Uwchradd Cathays

Roedd cyflwyniad Ysgol Cathays yn addysg i bawb yn yr ystafell. Defnyddion nhw gyfuniad clyfar o ffeithiau a chlipiau o stori ddiweddar yn Eastenders i ddangos y camau cyfrwys a systematig mae pobl yn eu dilyn i recriwtio pobl ifanc at y Llinellau Cyffuriau.

Rhai o'r therapïau creadigol roedd pobl ifanc wedi eu defnyddio i fynegi eu teimladau.

Dwylo fyny!Awgrymiadau gwych gan yr ysgolion fu'n rhan o'r digwyddiad ynghylch sut gall cymdeithas fynd i'r afael â cham-fanteisio.

Roedd llysgenhadon ifanc eleni wir yn ardderchog, yn cyflwyno gwybodaeth bwysig mewn ffordd hynod effeithiol a deallus. Rydyn ni'n falch ofnadwy bod yr ysgolion wedi cofleidio ethos y project. Gystal oedd safon y cyflwyniadau fel bod disgyblion wedi eu gwahodd i roi eu cyflwyniadau eto mewn diwrnodau hyfforddiant mewn swydd staff ac i'r staff hynny sy'n gyfrifol am wreiddio cynnwys wedi ei greu gan ddisgyblion yng nghwricwlwm y flwyddyn nesaf. Dangoswyd gwir ymrwymiad i addysgu a dysgu gan ein pobl ifanc.

Gwaith anhygoel Project Meddyliwch Eto! oedd canolbwynt sesiwn y prynhawn.Wedi ei ariannu gan Gyngor Caerdydd, a'i redeg gan yr YMCA, roedd y project yn gweithio gyda phobl ifanc a oedd wedi cael profiad o gamfanteisio.  Nod y project oedd holi eu barn er mwyn gallu gwerthuso'r gwasanaethau roedden nhw wedi eu derbyn gan Gyngor Caerdydd, GIG Caerdydd a'r Fro ac eraill yn sgil eu profiadau. O'u hadborth nhw, gall darparwyr gwasanaethu ddysgu beth weithiodd, beth wnaeth pethau'n waeth a pha fesurau sydd angen eu rhoi ar waith i sicrhau bod pobl ifanc sydd wedi cael profiad o gamfanteisio yn teimlo bod cefnogaeth ar gael iddynt a'u profiadau unigol.

Roedd fideo creadigol a phwysig yn goron ar waith y project. Mae modd gweld y fideo a dysgu am brofiadau'r cyfranwyr yma.

**Roedd y fideo wedi ei dewis ar gyfer rownd derfynol y Gwobrau Rhagoriaeth Ieuenctid. Rydyn ni'n hynod falch dweud bod y tîm yn enillwyr teilwng iawn - llongyfarchiadau i bawb a fu'n rhan o broject oedd yn bersonol iawn, ond yn bwysig iawn**.

Daeth y digwyddiad i ben gyda gair gan Claire Marchant, Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol. Soniodd Claire am ymrwymiad y Cyngor i weithio gydag ysgolion a gwasanaethau ieuenctid mewn ffordd wirioneddol gydweithredol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n addas at anghenion pobl ifanc a bod pobl ifanc wir yn cael dylanwad ar y math o wasanaethau sydd ar gael.

Pobl ifanc yn derbyn eu tystysgrifau a'r credydau amser gan y Cynghorydd Hinchey.

Diolch o galoni'r holl ysgolion a disgyblion a fu'n rhan o'r digwyddiad hwn. Rydyn ni eisoes yn edrych ymlaen at eich gwahodd chi yn ôl flwyddyn nesaf.