Back
Mwy nag erioed yn ymuno ag Ymgyrch Hawliau'r Plentyn Caerdydd

Mae mwy o ysgolion nag erioed wedi cofrestru â Dyfarniad Ysgolion sy'n Parchu Hawliau, gan ddangos eu cymorth i helpu Caerdydd i ddod yn un o Ddinasoedd Cyntaf y DU sy'n Dda i Blant.

Mae'r rhaglen Ysgolion sy'n Parchu Hawliau yn cydnabod ysgol sy'n arfer hawliau'r plentyn ac yn creu man dysgu diogel, sy'n ysbrydoli, lle caiff plant eu parchu, eu talentau ei meithrin a lle gallant ffynnu.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Coed Glas\rrsa1.jpgYsgol Gynradd Coed Glas

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:"Pan lansiom ni Strategaeth Da i Blant Caerdydd, gosodom ni darged uchelgeisiol

sef cael pob un o 127 ysgol Caerdydd yn weithredol yn Rhaglen Ysgolion sy'n Parchu Hawliau Unicef. 

"Trwy fodel dinas gyfan, mae 85 o ysgolion bellach wedi cael y dyfarniad hwn ac mae 100 athro wedi ei hyfforddi gan Unicef, ymdrech wych hyd yn hyn.Rydw i wedi dotio ein bod ar ein ffordd i sicrhau bod pob ysgol yn sefydlu hawliau'r plentyn fel rhan o'i bywyd ysgol bob dydd a bod yr hawliau wrth galon y gymuned ysgol ehangach.

"Mae hyn yn rhoi'r cyfle gorau i blant fyw bywydau hapus ac iach a bod yn ddinasyddion actif, cyfrifol a aiff ymlaen i gyfrannu at y diwylliant parchu hawliau rydyn ni eisiau ei greu."

Dywedodd Sarah Hooke, Prif Gynghorydd Proffesiynol Cymru Unicef UK:"Rydyn ni'n falch o gefnogi ysgolion trwy Gaerdydd i sefydlu hawliau plant trwy bob agwedd ar fywyd ysgol. 

"Mewn ymweliadau diweddar ag ysgolion, bu'n glir bod dull gweithredu ar sail hawliau yn gwneud gwahaniaeth i blant ac ymarferwyr ac rwy'n edrych ymlaen at gefnogi gweledigaeth Caerdydd, sef bod pob plentyn yn y ddinas yn mynychu ysgol lle dysgir am ei hawliau a lle cânt eu hybu a'u parchu." 

Lansiodd Cyngor Caerdydd ei Strategaeth Da i Blant ar Ddiwrnod Plant y Byd ar 20 Tachwedd 2018. Gosodwyd pum targed clir i sefydlu hawliau plant a chael Statws Dinas sy'n Dda i Blant Unicef;

 

  • Caiff pob plentyn a pherson ifanc ei werthfawrogi, ei barchu a'i drin yn deg.
  • Rhoddir sylw i lais, anghenion a blaenoriaethau pob plentyn a pherson ifanc.
  • Mae pob plentyn a pherson ifanc yn tyfu mewn cartref diogel a chefnogol.
  • Caiff pob plentyn a pherson ifanc fynediad at addysg o safon uchel sy'n hyrwyddo ei hawliau ac yn ei helpu i ddatblygu ei sgiliau a'i dalentau yn llawn.
  • Mae gan blant iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol da ac mae'n gwybod sut mae cadw'n iach.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Sarah Merry:"Mae ein strategaeth yn rhoi hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau Caerdydd; gan eu cynnwys nhw wrth wneud penderfyniadau a mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n cyfyngu ar eu cyfleoedd mewn bywyd."

Mae rhaglen Dinas sy'n Dda i Blant yn gweithredu trwy ystod eang o wasanaethau a sefydliadau, gan ddefnyddio agwedd sy'n ystyried hawliau plant wrth ddatblygu cyfres o wasanaethau newydd yn cynnwys Cymorth Teulu a Gwasanaethau Cymorth, Iechyd Emosiynol a Gwasanaethau Lles, darpariaeth pobl ifanc ar gyfer pobl ifanc sydd wedi profi gofal a chyfleoedd chwarae ychwanegol.Mae hefyd yn hyrwyddo hyfforddiant hawliau plant ymhlith gwleidyddwyr lleol, yr heddlu, gweithwyr iechyd a swyddogion y Cyngor.