Back
Mesurau Rheoli Cŵn yng Nghaerdydd gam yn nes
Bydd mesurau â'r nod o fynd i'r afael â phroblemau baw cŵn yng ngofodau cyhoeddus Caerdydd - gan gynnwys dirwy o £100 i bobl sydd heb ddulliau o glirio ar ôl eu cŵn yn eu meddiant - gam yn nes at gael eu gweithredu wythnos yma, os cymeradwyir adroddiad sydd i'w drafod gan y Cabinet wythnos yma.

Mae’r cynigion yn ymateb i ymgynghoriad helaeth â’r cyhoedd, a dderbyniodd dros 6,000 o ymatebion, ac a ganfu bod dros 88% o’r ymatebwyr yn cytuno y dylid rhoi mesurau gorfodi ar waith i sicrhau bod pobl sy’n berchen cŵn/cerdded cŵn yn cario bagiau neu ddulliau eraill o gwael gwared ar faw’r cŵn. 

Roedd cynigion gwreiddiol yr ymgynghoriad yn cynnwys gwahardd cŵn o gaeau chwaraeon wedi eu marcio.  Ar sail adborth a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad, nid yw’r cynigion hyn wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus terfynol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:“Mae perchnogion cyfrifol eisoes yn glanhau ar ôl eu cŵn, yn eu cadw ar gynllyfan neu dennyn pan fo angen ac allan o fannau anaddas fel meysydd chwarae plant. Ond yn anffodus, diolch i leiafrif anghyfrifol, mae’r cyngor yn derbyn cannoedd o gwynion bob blwyddyn am faw cŵn ac mae problemau yn dal i fod ar hyd a lled Caerdydd lle nad yw cŵn yn cael eu rheoli’n briodol. Mae angen mynd i'r afael â hyn.

 “Rwy’n credu bod y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus a nodir yn yr adroddiad hwn, ac y byddwn yn ei gyflwyno’n hwyrach eleni, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor Llawn, yn sicrhau cydbwysedd rhwng perchnogion/cerddwyr cŵn o ran cerdded ac ymarfer ac anghenion pobl eraill sy'n defnyddio gofodau cyhoeddus y ddinas.”

Os cânt eu cymeradwyo, disgwylir y bydd y mesurau rheoli canlynol yn cael eu cyflwyno’n nes ymlaen eleni:

  • Gwahardd cŵn rhag bawa ym mhob man cyhoeddus sy’n eiddo i ac/neu a gynhelir gan y cyngor.
  • Y gofyniad i berchennog ci fod â’r modd o glirio baw ci.
  • Gwahardd cŵn o bob maes chwarae caeedig ac ysgolion sy’n eiddo i neu a gynhelir gan Gyngor Caerdydd.
  • Gofyniad i gadw cŵn ar gynllyfan/tennyn ym mhob mynwent sy’n eiddo i ac/neu a gynhelir gan Gyngor Caerdydd.
  • Gofyniad sy’n galluogi swyddogion awdurdodedig i orchymyn bod ci (cŵn) yn cael eu roi a’i gadw ar gynllyfan/tennyn os oes angen.
  • Y gosb ariannol am hysbysiad cosb benodedig yn sgil torri Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar gyfer rheoliadau cŵn, fel y nodir uchod, fydd £100.
  • Bydd eithriadau ar gyfer pobl sydd ag anabledd sy’n effeithio ar symudedd, deheurwydd, cydlyniad corfforol person neu allu person i godi neu symud eitemau pob dydd, neu mewn perthynas â chŵn wedi eu hyfforddi gan elusen gofrestredig ac y mae pobl yn ddibynnol arnynt.

Bydd y Gorchymyn ar waith ar gyfer mannau cyhoeddus sy’n cael eu rheoli neu eu cynnal gan y Cyngor, gan gynnwys ysgolion, meysydd chwarae caeedig i blant a mynwentydd cyhoeddus.