Back
Grangetown Werddach yn ennill Gwobr Roy Edwards

Mae Grangetown Werddach wedi ennill Gwobr Roy Edwards yn ystod Gwobrau ICE Cymru 2019 a gafodd eu cynnal yn ddiweddar yng Ngwesty'r Marriot yng Nghaerdydd.

Mae'r project arloesol yn dal, glanhau a dargyfeirio dros 40,000 metr sgwâr o ddŵr glaw ffo yn uniongyrchol i'r Afon Taf, yn hytrach na'i bwmpio dros wyth cilometr drwy Fro Morgannwg i gael ei drin, cyn ei bwmpio i'r môr.

Mae'r cynllun yn casglu dŵr wyneb o doeon a ffyrdd o ddeuddeg stryd breswyl yn Grangetown, gan ei sianelu a'i hidlo drwy 100 o erddi glaw cyn ei ddraenio i Afon Taf.Drwy'r cynllun hwn, mae gwelliannau sylweddol wedi eu gwneud i'r ardal gyhoeddus yn ogystal â chreu'r ‘stryd feicio' gyntaf ar gyd Arglawdd y Taf.

Trwy ddargyfeirio dŵr glaw ffo i'r gerddi glaw, mae planhigion a choed newydd yn amsugno'r dŵr sy'n cael ei hidlo drwy'r pridd a'r gwreiddiau sy'n dal ac yn malurio'r llygryddion.

Dewiswyd mathau penodol o goed a phlanhigion, sy'n bennaf yn rhai brodorol i Gymru ac yn dod o'r DG, i fodloni nifer o feini prawf.Maen nhw'n wydn, nid oes angen llawer o gynnal arnynt, maen nhw'n ymwrthod â llygryddion ac yn gallu addasu i dywydd sych a gwlyb iawn.

Mae Grangetown Werddach yn fenter ar y cyd gan Gyngor Caerdydd, Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Arup, ERH Communications a Civil Engineering Ltd gyda chymorth ariannol ychwanegol gan y Gronfa Cymunedau Tirlenwi.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu:"Mae hwn yn broject arloesol sy'n haeddu'r gydnabyddiaeth y mae'n ei chael.

"Hyd yn oed heb wybod beth yw diben y cynllun a'r buddion sylweddol a ddaw gydag ef, mae'r gwyrddni newydd wedi creu teimlad cryfach o gymuned yn yr ardal ac mae wedi gwella strydoedd Grangetown yn weledol. Mae 127 o goed newydd wedi eu plannu, yn ogystal â 1,700 metr sgwâr o fannau gwyrdd newydd.Gydag amser, bydd y planhigion a'r coed yn tyfu a lledaenu a bydd Grangetown yn fwy gwyrdd fyth.

"Mae Arglawdd y Taf sy'n rhan o'r cynllun, hefyd yn rhan o Lwybr Taf ac mae nawr wedi'i gwblhau gan gysylltu Bae Caerdydd â chanol y ddinas.Yn ogystal â'r fenter hon, gwnaed gwelliannau hefyd i ddiogelwch cerbydau, cerddwyr a beicwyr mewn 14 cyffordd sy'n rhan o'r cynllun.

"Hoffwn ddiolch i'r holl bartneriaid am gyflawni'r project hwn.Hoffwn hefyd ddiolch i'r trigolion lleol am eu hamynedd wrth i'r cynllun fynd rhagddo."

Dywedodd Fergus O'Brien, rheolwr strategaeth dŵr gwastraff Dŵr Cymru: 

"Rydym yn falch iawn fod y project hwn wedi derbyn y wobr hon.  Mae draenio cynaliadwy'n hanfodol yn null hirdymor Dŵr Cymru o ddiogelu ein cwsmeriaid a gwella'r amgylchedd er gwaetha pwysau cynyddol newid yn yr hinsawdd a threfoli. Gwna hyn drwy wella gwydnwch cynhenid ein hasedau a'u galluogi i ddelio ag amrywiaeth cynyddol ein hanghenion. 

"I gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol rhwng nawr a 2050 mae angen i ni weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid i rannu gwybodaeth a buddsoddi mewn ardaloedd lle mae ein blaenoriaethau'n gorgyffwrdd.  Mae project Grangetown Werddach yn enghraifft wych o sut gallwn weithio gyda chynghorau sy'n meddwl ymlaen fel Caerdydd a gobeithio taw hwn fydd y gyntaf o blith nifer o bartneriaethau o'r fath."

 Dywedodd Martyn Evans, Arweinydd Project CNC: "Rydym ni wedi bod yn hynod falch o fod yn rhan o'r project hwn, ryw saith mlynedd ar ôl i ni gydweithio â Chyngor Dinas Caerdydd am y tro cyntaf ynghyd â Dŵr Cymru ar yr astudiaeth ddichonoldeb gychwynnol ar gyfer y cynllun hwn.Rwy'n credu bydd y cynllun hwn yn creu treftadaeth i ddangos sut gall projectau seilwaith gwyrdd greu amgylcheddau lleol iach a gwydn, a chefnogi ffyniant economaidd a chymdeithasol ein trefi a'n dinasoedd, fel Caerdydd, am genedlaethau i ddod."

Dywedodd Chris Ellis, Peiriannydd Project yn Arup: "Rwy'n falch bod Grangetown Werddach wedi'i gydnabod gan ICE.  Mae Arup wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddylunio'r project o'r dechrau cyntaf o'r camau dichonoldeb a chysyniad, hyd at ddylunio manwl a chymorth adeiladu. Mae'n braf gweld yr effaith y mae'r cynllun gorffenedig wedi'i gael o ran trawsnewid yr ardal, tra'n gwneud Grangetown yn fwy gwydn o ran effeithiau newid yn yr hinsawdd."

Dywedodd Ken Evans, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Sifil ERH/Centregreat:  "MaeERH/Centregreat yn falch iawn o fod y prif gontractwr ar Gynllun SDCau Grangetown Werddach.  Roedd y gwaith adeiladu yn broject ôl-osod arloesol a gynhaliwyd mewn ardal ddinesig boblog iawn a oedd yn her ynddo'i hun.  Fodd bynnag drwy gydweithio'n agos â phartneriaid y cynllun, dylunwyr a'r gymuned leol, roedd ERH/Centregreat yn gallu darparu cynllun draenio cynaliadwy o fri."