Mae'r lloches £20,000, a fydd yn cynnig
amddiffyniad rhag tywydd gwael i ymwelwyr i'r fynwent sydd eisiau gweddïo neu
sy'n aros i wasanaethau claddu ddechrau, wedi'i hariannu gan gyfraniadau hael
gan fosgiau, busnesau ac arweinwyr cymunedol lleol ac wedi'i darparu mewn
partneriaeth â Chyngor Caerdydd, a arweinir gan y Cynghorwyr Dilwar Ali ac
Abdul Sattar.
Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y
Gwasanaethau Profedigaeth, y Cyng. Michael Michael,"Mae'n bwysig bod ein
mynwentydd yn llefydd coffa urddasol i bobl o bob ffydd a bydd y lloches newydd
hon yn gwella'r ardal gladdu Foslemaidd ym Mynwent y Gorllewin.
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi am
eu haelioni, a phawb sydd wedi chwarae rhan o ran sicrhau bod hyn yn digwydd,
am yr amser a'r ymdrech maen nhw wedi'i roi i'r project."
Cafwyd
cyfraniadau ganDar
Ul Isra, Universal Foods Limited, Masud a Zakia Ahmed, Abu Baker Mosque, Mosg a
Chanolfan Addysg Islamaidd Jalalia, Mosg a Chanolfan Ddiwylliannol Islamaidd
Shah, Mosg Bilal, Global Foods Limited, Cyngor Foslemaidd Cymru, Canolfan
Islamaidd De Cymru, Mosg Madina, Canolfan Ddiwylliannol Islamaidd Rabbaniah,
Canolfan Al Farah, Canolfan Islamaidd Masjid-E-Umar, Canolfan Foslemaidd
Dwyrain Caerdydd, Mughal Emperor a M F Haque.