Mae cyfres o fesurau am gael eu rhoi ar waith er mwyn annog y defnydd ar gerbydau trydan yn y ddinas.
Mae wedi ei gofnodi'n helaeth fod allyriadau peiriannau disel a phetrol yn cyfrannu'n sylweddol at lygredd aer yn y DG. Mewn gwirionedd, mae trafnidiaeth ffordd yn gyfrifol am tua 80% o'r NO2 a fesurir ar ochr y ffordd.
Bydd y mesurau a gaiff eu rhoi ar waith yn trawsnewid fflyd cerbydau'r Cyngor ac yn rhoi'r seilwaith angen rheidiol yn ei le i wneud teithio mewn car trydan yn ddichonadwy i breswylwyr ac ymwelwyr â Phrifddinas Cymru.
Mae'r mesurau yn cynnwys:
Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd:
"Cofnodwyd yn helaeth y bydd y Cyngor yn gwireddu nifer o fesurau i wella ansawdd yr aer yn y ddinas. Fel rhan o hyn, rydym yn bwriadu rhedeg ein fflyd ein hunain trwy ddefnyddio tanwydd cynaliadwy, gan symud i ffwrdd o ddibyniaeth ar danwydd ffosil.
"Rydym wedi defnyddio cyllid grant i ddechrau darparu seilwaith gwefru cerbydau trydan ar gyfer y cyhoedd, fel ein bod ni'n gallu sicrhau fod prynu cerbyd trydan yn ddewis dichonadwy.
"Rydym yn gwneud hyn mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys 19 o bwyntiau gwefru cyhoeddus hawdd eu cyrchu yn rhai o'n maestrefi mewnol, yn ogystal a gweithio gyda'r sector breifat i greu pwyntiau gwefru cyflym mewn lleoliadau allweddol.
"Bwriadwn barhau i gynnig am gyllid, flwyddyn ar ôl blwyddyn, er mwyn cynyddu nifer y pwyntiau gwefru ar hyd y briffordd.
"Er mwyn gwireddu newid yn yr amser byrraf posib, mae'n hanfodol fod pwyntiau gwefru trydan yn cael eu gosod mewn datblygiadau preswyl a masnachol newydd a dyma pam ein bod yn gweithio gyda datblygwyr i roi canllawiau eglur i geisiadau cynllunio yn y dyfodol."