Back
Ysgol Uwchradd Caerdydd: ‘Ysgol Eithriadol o Dda' a rhagorol ym mhob maes, meddai Estyn

Mae Ysgol Uwchradd Caerdydd wedi'i sgorio'n ‘rhagorol' gan Estyn ym mhob un o'r pum maes yr edrychwyd arnynt gan arolygaeth addysg Cymru, sef y sgôr uchaf posibl.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Cardiff High\ds8895.jpg

Disgrifiodd arolygwyr yr ysgol fel un eithriadol o dda gan nodi bod cyraeddiadau'r disgyblion wedi bod ‘ymhlith y rhai uchaf yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf' ond er hynny mae'r ysgol yn parhau i wella ym mhob agwedd ar ei gwaith.'

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod 'yr ysgol wedi canolbwyntio ar fireinio ei hagweddau yn cefnogi yr holl athrawon i wella eu medrau' ac mae hyn wedi arwain at ‘ffordd o addysgu cynhwysol iawn, a gyflwynir mewn modd hyderus a chyda dychymig, sydd wedi ei seilio ar ddealltwriaeth gref o wybodaeth am y pwnc a dysgu.'

Dywedodd arolygwyr hefyd fod ‘disgyblion yn ymateb yn hynod gadarnhaol i'r ffordd o addysgu ysbrydoledig ac i'r lefelau uchel o herio' ac yn benodol, maent yn ‘datblygu eu gallu i feddwl yn greadigol ac i adalw a throsglwyddo gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i ystod eang o gyd-destunau dysgu', ac o ganlyniad, mae deilliannau'r disgyblion yn llawer uwch na'r disgwyl. 

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Cardiff High\ds8942.jpg

Amlygodd yr arolygiad fod yr ansawdd uchel o addysgu ar y cyd â'r gofal, cymorth ac arweiniad yn effeithiol wrth ‘alluogi disgyblion i fod yn ddysgwyr hyderus, galluog ac uchelgeisiol.'

Hefyd, nodwyd bod yr arweinyddiaeth heb ei hail a bod ‘arweinwyr yn pwysleisio ac yn hyrwyddo pwysigrwydd llesiant staff a disgyblion' ac o ganlyniad, ‘mae disgyblion yn mwynhau bod yn yr ysgol ac mae morâl y staff yn uchel.'

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Cardiff High\ds8978.jpg

Dywedodd y Pennaeth Stephen Jones, mewn ymateb i'r adroddiad:"Fel cymuned rydym ni wrth ein boddau gyda'r canlyniadau.Rydym ni wedi gweithio'n galed iawn yn Ysgol Uwchradd Caerdydd i sicrhau bod disgyblion a staff yn hapus yn yr ysgol.Yr ymdeimlad hwn o hapusrwydd a chyflawniad sydd wrth wraidd ein llwyddiant fel cymuned."

"Mae gan yr ysgol dîm o athrawon hynod ymroddgar a staff cynorthwyol sy'n rhannu'r angerdd dros ddysgu ar y cyd ac yn dangos ymrwymiad i lesiant a datblygiad disgyblion bob dydd. Mae gennym ni hefyd gorff llywodraethu sy'n credu ac yn rhannu athroniaeth ac uchelgais yr ysgol, ac mae hyn yn allweddol i'n llwyddiant."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:"Mae Ysgol Uwchradd Caerdydd yn parhau i ragori ym mhob maes ac mae hon yn dystiolaeth o waith caled, ymagwedd benderfynol ac ymrwymiad y staff, llywodraethwyr a chymuned ehangach yr ysgol.

"Mae peidio â chael unrhyw argymhelliad o gwbl yn dilyn yr arolygiad yn haeddu clod mawr ac rwy'n falch o glywed bod yr ysgol wedi cael gwahoddiad gan Estyn i baratoi astudiaeth achos ynglŷn â chynnal rhagoriaeth.

"Caiff cynlluniau i ehangu'r ysgol eu cyflawni drwy ail gamYsgolion yr 21ainGanrif, sef Band B, a fydd yn buddsoddi £284 miliwn yn y ddinas, y buddsoddiad unigol mwyaf mewn ysgolion yng Nghaerdydd.

"Bydd y project sydd wedi ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru yn rhoi 300 o leoedd ychwanegol i'r ysgol, gan ei gwneud hi'n bosibl iddi addysgu 1,500 o ddisgyblion yn ogystal â'r chweched dosbarth.