Back
Dod Ynghyd yn Amgueddfa Caerdydd

Bydd diwrnod o hwyl am ddim i'r teulu'n cael ei gynnal ddydd Sadwrn yn Amgueddfa Caerdydd (Stori Caerdydd gynt) - wedi'i ysbrydoli gan yr AS Jo Cox a'i chred bod gennym fwy yn gyffredin na'r hyn sy'n ein gwahanu.

Ymhlith y digwyddiadau hwyl fydd yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn 22 Mehefin mae gweithgareddau crefftau, paentio wynebau, cyfle i gwrdd â thîm yr amgueddfa a dysgu am y gwaith y maent wedi bod yn ei wneud i gasglu straeon Caerdydd, ynghyd â pherfformiadau cerddoriaeth ar y cyd â'r projectRiveryng Nghanolfan Ddatblygu Cymunedol De Glan-yr-afon.

Bydd y diwrnod o hwyl am ddim yn cael ei gynnal rhwng 10am a 3pm ac os bydd hi'n braf, cynhelir y digwyddiadau yng Ngerddi Eglwys Sant Ioan drws nesaf i'r amgueddfa.

Bydd paentio wynebau ar gael rhwng 11am ac 1pm a bydd cerddoriaeth y dydd, a fydd yn cynnwys canu Indiaidd clasurol, drymio Tabla a'r Kora, yn dechrau am 11.30am gyda pherfformiad gan Gôr y Byd Oasis. Mae'r côr yn ymarfer yn Oasis Caerdydd, canolfan gymorth i bobl gyda statws ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r diwrnod hwn yn ymwneud â dathlu cymunedau amrywiol Caerdydd. Roedd Jo Cox yn iawn: mae gennym gymaint yn gyffredin ac mae dod ynghyd i fwynhau amser gyda'n teuluoedd yn un o wir bleserau cymdeithas."

Dywedodd Victoria Rogers, Rheolwr Amgueddfa Caerdydd: "Mae ein digwyddiad yn ddiwrnod o sbort a sbri i deuluoedd - yn llawn dathlu, lliwiau a bywyd.  Mae Caerdydd yn ddinas sydd wedi'i chreu gan lawer o wahanol gymunedau sy'n byw ac yn gweithio ynghyd, ac rydym yn defnyddio pethau rydym i gyd yn eu rhannu - fel cerddoriaeth a hwyl - i ddathlu'r synnwyr hwnnw o berthynas."

Mae Digwyddiad Dod Ynghyd Amgueddfa Caerdydd wedi'i gefnogi gan Ganolfan Ddatblygu Cymunedol De Glan-yr-afon a Cherdd Gymunedol Cymru ac mae'n rhan o raglen DU gyfan o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal er cof am Jo Cox AS, a'i chred bod gennym lawer yn gyffredin. I ddysgu mwy cysylltwch ag Amgueddfa Caerdydd:  storicaerdydd@caerdydd.gov.uk  neu 029 2034 6214.