Back
Y Foneddiges Darcey Bussell DBE ar Ymweliad Arbennig ag Ysgol yng Nghaerdydd ar gyfer Cystadleuaeth Ddawnsio

Bydd y Foneddiges Darcey Bussell DBE yn beirniadu cystadleuaeth ddawnsio genedlaethol a gynhelir gan Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd ddydd Sadwrn 29 Mehefin.

Bydd y seren deledu a'r ddawnswraig benigamp yn ymweld â Chaerdydd i feirniadu'r Diverse Dance Mix (DDMIX), menter ledled y DU sydd wedi denu dros 5,000 o blant a phobl ifanc o bob rhan o'r wlad i ymgeisio ynddi.

Gyda'r nod o annog plant i ymwneud â chreadigrwydd, diwylliant, ffitrwydd a dawns, mae 13 ysgol yng Nghaerdydd wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn y rownd derfynol ranbarthol a byddant yn perfformio o flaen y Foneddiges Darcey, GwirAnrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Dan De'Ath, a chynulleidfa fyw.

Mae'r disgyblion rhwng 7 a 12 oed yn dod o'r ysgolion canlynol: Ysgol Gynradd Creigiau, Ysgol Bro Eirwg, Ysgol Gynradd Crist y Brenin,Ysgol Gynradd Howardian, Ysgol Gynradd Trelái, Ysgol Gynradd Coed Glas, Ysgol Gynradd Grangetown, Ysgol Gynradd Bryn Hafod, Ysgol Gynradd Meadowland, Ysgol Gynradd Gatholig y Teulu Sanctaidd, Ysgol Uwchradd Caerdydd, Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Bernadette ac Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd.

Wedi'i hagor ym mis Medi 2018, symudodd Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd i'w chartref newydd ym mis Ebrill 2019 gyda'r ysgol newydd sbon yn ffrwyth buddsoddiad gwerth £36m yn y gymuned leol.

Dewiswyd yr ysgol i gynnal y digwyddiad oherwydd, fel Ysgol Greadigol Arweiniol, mae wedi creu cysylltiadau â rhai o'r bobl enwocaf yn niwydiannau celfyddydol Caerdydd trwy ‘Bartneriaeth Addysg Greadigol', gan hyrwyddo sgiliau creadigol a allai gael eu defnyddio mewn gyrfaoedd a swyddi yn y dyfodol. Mae hyn yn ogystal â'r cyfleusterau cyfoes o'r radd flaenaf a'r mannau creadigol gyda digonedd o adnoddau y mae‘n eu cynnig.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, "Mae Caerdydd yn ddinas greadigol, amrywiol ac amlddiwylliannol y mae diwylliant, creadigrwydd ac arloesedd yn ganolog iddi.

"Felly mae'n briodol y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, sef ysgol greadigol arweiniol sydd wedi sefydlu partneriaethau â rhai o arweinwyr y ddinas yn y sector creadigol.

""Mae'r digwyddiad hwn yn rhoi'r cyfle i bobl ifanc ar draws y ddinas brofi perfformio byw gan ddefnyddio mannau creadigol â'r dechnoleg ddiweddaraf yn un o ysgolion newydd cyfoes y ddinas ar gyfer yr 21ainganrif .

"Mae'n hyrwyddo iechyd, llesiant a hyder trwy ddawnsio a ffitrwydd ac yn dathlu ein pobl ifanc a'u cymunedau, wrth eu hysbrydoli ar gyfer y dyfodol.

"Hoffwn i groesawu'r Foneddiges Darcey i Gaerdydd ac rwy'n dymuno pob lwc i bawb sy'n cymryd rhan."

Meddai Pennaeth Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, Martin Hulland, "Arwyddair yr ysgol yma yng  Ngorllewin Caerdydd yw"Creu eich Byd"ac rydym yn hyrwyddo creadigrwydd wrth wraidd y dysgu, sy'n ffordd wych o wreiddio'r egwyddorion hyn cyn cyflwyno'r cwricwlwm newydd.

"Dim ond ers cwta ychydig fisoedd yr ydym yn ein cartref newydd, felly mae cael y cyfle i groesawu'r Foneddiges Darcey a'i digwyddiad dawnsio yn anrhydedd ac yn rhoi'r cyfle i ni ddangos cyfleusterau rhagorol yr ysgol.

"Mae ein disgyblion yn llawn cyffro, fel y mae'r holl ysgolion eraill hefyd sy'n cymryd rhan rwy'n siŵr, ac rwy'n gobeithio y bydd y Foneddiges Darcey, y perfformwyr, y gwesteion ac ymwelwyr yn mwynhau'r digwyddiad."

Wrth sôn am y digwyddiad arfaethedig yng Nghaerdydd, dywedodd y Foneddiges Darcey, "Rwyf wrth fy modd i gael gweithio gydag ysgolion ar draws y wlad yn ystod y gystadleuaeth gyffrous hon i hyrwyddo iechyd a ffitrwydd trwy ddawnsio. Pob lwc i bob un ohonoch!"

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys perfformiadau gan westeion gwadd arbennig gan gynnwys un o sêr Britain's Got Talent, y lledrithiwr a'r consuriwr cyfareddol, MADDOX, a fydd yn difyrru'r dorf gyda'i ddoniau unigryw, yn ogystal â Wayne Fox o'r Cylch Hud.