Back
Ysgol Feithrin Tremorfa: ‘Lle hapus, diogel a chyffrous'...yn ôl Estyn

Mae Ysgol Feithrin Tremorfa yng Nghaerdydd wedi'i sgorio'n ‘rhagorol', y sgôr uchaf posibl,  gan Estyn mewn tri o'r pum maes yr edrychwyd arnynt gan arolygaeth addysg Cymru ac yn 'dda' yn y ddau faes arall.

Yn dilyn ymweliad ar ddechrau'r flwyddyn, gwelodd arolygwyr Estyn fod profiadau ysgogol a gynigir bob dydd i blant yn yr amgylcheddau dan do ac awyr agored cyffrous yn eu hymgysylltu'n eithriadol o dda ac mae'r ddarpariaeth wych hon yn cyfrannu'n sylweddol at yr agweddau cadarnhaol iawn y mae plant yn eu datblygu tuag at ddysgu, ar oedran ifanc iawn.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod natur gynhwysol yr ysgol ac ymrwymiad y staff i fodloni anghenion a buddiannau pob plentyn yn dangos esiampl wych a bod y plant yn cael llu o gyfleoedd i ddatblygu eu hannibyniaeth ac i ennill y sgiliau fydd eu hangen arnynt am weddill eu hoes.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Tremorfa Nursery\trem3.jpg

Dywedodd yr arolygwyr hefyd  bod yr arweinwyr, athrawon ac ymarferwyr yn rhoi cymorth ac arweiniad eithriadol i deuluoedd cyn ac yn ystod amser eu plant yn yr ysgol. Mae hyn yn sicrhau bod rhieni'n ymwneud yn fawr â'r ysgol, ac yn helpu'r rhieni i gefnogi dysgu cynnar eu plant ac yn gwella eu cyfleoedd i wneud cynnydd da yn yr ysgol.  

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Tremorfa Nursery\trem 1.jpg

Dywedodd y Pennaeth, Mrs Annamaria Bevan:"Mae clywed Estyn yn disgrifio ein hysgol feithrin yn lle hapus, diogel a chyffrous i blant ddechrau eu taith addysgol wir yn wych ac mae'n deyrnged i waith caled ac ymroddiad y staff a'r llywodraethwyr.

"Rhaid i ni hefyd ddiolch i'r rhieni a'r teuluoedd sydd hefyd wedi cefnogi'r ysgol ac wedi ymwneud â hi sy'n sicrhau bod plant yn cael eu cynnwys ac sy'n hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu cynnar."

Dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, Andrew Wallace:"Mae'r Corff Llywodraethu yn eithriadol o falch o fod yn rhan o lwyddiant ysgubol y feithrinfa.Mae arolwg Estyn wir wedi gweld natur ein meithrinfa - un sy'n rhoi'r plant wrth galon yr ysgol.

"Ar ran y corff llywodraethu hoffwn i ddiolch i'n Pennaeth Mrs Annamaia Bevan am ei harweinyddiaeth ysbrydoledig; i'r staff am eu hymroddiad at feithrin lles ein plant; ac i'r gymuned am eu cefnogaeth barhaol."

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Mae'r canlyniad Estyn gwych hwn yn dangos gweledigaeth a rennir y pennaeth, y staff a'r llywodraethwyr ynYsgol Feithrin Tremorfa sy'n amlygu'r brwdfrydedd dros addysg blynyddoedd cynnar ac sydd wedi ennyn diddordeb y plant a'r teuluoedd yn yr ysgol.

"Mae'r safon wych sydd wedi'i chyflawni o ganlyniad i waith caled ac ymroddiad pawb sy'n gysylltiedig â'r ysgol.Dylent deimlo'n falch iawn o'r llwyddiant hwn a fydd yn llywio dyfodol addawol i'r ysgol feithrin."

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Tremorfa Nursery\trem4.jpg