Back
Cyhoeddiad am Ffordd Liniaru'r M4: Ymateb gan Arweinydd Cyngor Caerdydd

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:"Rydym yn gyson yn dadlau bod ffyniant Caerdydd yn y dyfodol yn dibynnu ar seilwaith trafnidiaeth effeithiol, gyda mynediad di-dor i rwydwaith traffordd y DU, a llwybrau sy'n llifo'n rhydd i mewn, ac o amgylch y ddinas. 

"Mae'n amlwg bod Prif Weinidog Cymru a'r Cabinet wedi ystyried y penderfyniad hwn yn ofalus, gyda dadleuon cytbwys iawn, a safbwyntiau cryf o blaid ac yn erbyn ffordd newydd.Wrth barchu eu penderfyniad heddiw, mae hefyd yn glir bod angen dybryd i fuddsoddi ar frys yn seilwaith trafnidiaeth y rhanbarth. 

"Yn benodol, mae'n hanfodol bod camau nesaf Llywodraeth Cymru yn bwrw ati i sicrhau atebion effeithiol i Dwneli Bryn-glas, er mwyn sicrhau bod gan Gasnewydd, Caerdydd a'r rhanbarth rwydwaith ffordd gref ar waith, sy'n cynnig mynediad dirwystr i'r rhwydwaith priffordd cenedlaethol er mwyn sicrhau ffyniant dyfodol Cymru. 

"Mae'n rhaid ystyried hyn yng nghyd-destun economaidd ehangach Cymru.Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw pwerdy economaidd y wlad, gyda Chaerdydd ei hun yn cyfrannu 20,000 o swyddi newydd at economi Cymru y llynedd.Eto, mae gan Gaerdydd rwydwaith drafnidiaeth a adeiladwyd genhedlaeth yn ôl, i wasanaethu tua 200,000 o bobl.Ond cyn bo hir bydd gan y brifddinas boblogaeth sy'n fwy na dwywaith hynny, a'r disgwyl yw mai Caerdydd fydd y ddinas fawr sy'n tyfu gyflymaf ym Mhrydain y tu allan i Lundain. A chyda tua 100,000 o bobl yn teithio i'r ddinas bob dydd o ardaloedd ledled De Cymru, ar gyfer gwaith yn bennaf, mae'n amlwg bod rhwydwaith trafnidiaeth y ddinas yn gwegian o dan y pwysau.  

"Nawr, mae'n rhaid buddsoddi'r arian cyfalaf a neilltuwyd yn flaenorol ar gyfer yr M4 newydd yn Ne-ddwyrain Cymru.Bydd Cyngor Caerdydd cyn bo hir yn cyflwyno ei weledigaeth ar gyfer trafnidiaeth yn y ddinas, gyda chyfres o brojectau seilwaith trawsffurfiol - a fydd yn cwmpasu'r seilwaith rheilffordd, ffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus a beicio, sef buddsoddiad o £1bn dros y 10 mlynedd nesaf.Gallai hynny, ochr yn ochr â chwblhau'r cynllun Metro, yn y bôn weddnewid seilwaith trafnidiaeth yn y ddinas. 

"Rydym nawr yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru, i wneud y buddsoddiad trawsnewidiol hwn yn rhwydwaith trafnidiaeth y ddinas-ranbarth yn realiti.