Back
Enw newydd amgueddfa Caerdydd yn lansio ymgyrch codi arian
Mae amgueddfa hanes dinas Caerdydd wedi lansio apêl newydd am arian trwy newid ei henw.  O ddydd Llun 3 Mehefin, Amgueddfa Caerdydd fydd enw newydd Stori Caerdydd. 

Mae hyn yn digwydd ar yr un pryd â chynllun yr amgueddfa i godi hanner miliwn o bunnoedd i helpu i gefnogi rhaglenni, arddangosfeydd a gwaith addysg i'r dyfodol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Mae'r amgueddfa bellach yn 8 mlwydd oed ac yn ystod yr amser hwnnw mae wedi croesawu mwy o na 1.1 miliwn o ymwelwyr o Gaerdydd ac o bedwar ban y byd.” 

Ychwanegodd Rheolwr yr Amgueddfa, Victoria Rogers:  “Rydyn ni’n gwybod, trwy siarad ag ymwelwyr a chefnogwyr, y gallai ein hen enw ddrysu llawer o bobl.  Rydyn ni’n credu y bydd ein henw newydd yn adlewyrchiad mwy clir ac amlwg o ddiben go iawn yr amgueddfa”

Dywedodd y Cynghorydd Bradbury:  “Bob blwyddyn mae’r amgueddfa’n cefnogi ac yn gweithio gyda 100 o grwpiau cymunedol a sefydliadau gwahanol.  Mae’n ased go iawn i ddiwylliant y ddinas a dyma’r unig le y gall pobl leol a thwristiaid fynd iddo i archwilio a dathlu ein hanes cyfoethog.  Mae’r enw newydd yn adlewyrchu cam newydd a chyffrous yn natblygiad yr amgueddfa.

 “Ni fydd yr arian a godir trwy’r ymgyrch hon yn talu am gostau cynnal yr amgueddfa ond bydd yn cynnig cefnogaeth hirdymor hollbwysig sy’n ategu’r buddsoddiad y mae’r Cyngor eisoes yn ei wneud ochr yn ochr ag ystod o gefnogwyr hael"

Bydd yr union swm o arian a godir gan yr Amgueddfa ac Ymddiriedolaeth Datblygu Amgueddfa Caerdydd yn cael ei roi gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae cefnogwyr awyddus yr amgueddfa, Henry a Diane Engelhardt, eisoes wedi addo cefnogi’r ymgyrch trwy sefydliad eu teulu, Moondance Foundation, “Rydyn ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig i ddinas fel Caerdydd gael ei hamgueddfa ei hun i ddathlu ei hanes a'i chymunedau.  Gall Amgueddfa Caerdydd adrodd hanes anhygoel y Ddinas i genedlaethau'r dyfodol, dyma pam roedden ni’n falch o helpu i lansio’r apêl hon. Bydden ni annog pawb sy’n galw Caerdydd yn gartref i gefnogi’r apêl hon”.

Os hoffech chi gyfrannu at yr apêl ewch i https://cardiffmuseum.com/cy/986-2/ neu cysylltwch â’r amgueddfa’n uniongyrchol ar 029 2034 6214 neu dros e-bost i:storicaerdydd@caerdydd.gov.uk