Back
Diogelwch Tân: Peryglon Pebyll


Daeth Gwasanaeth Achub a Thân De Cymru a thîm allgymorth digartrefedd y Cyngor at ei gilydd yr wythnos hon i hyrwyddo negeseuon diogelwch tân ymhlith unigolion sy'n cysgu mewn pebyll yn y ddinas.

 

Yn sgil nifer o ddigwyddiadau dros y misoedd diwethaf, lle'r aeth nifer o bebyll ar dân yn y ddinas, a chyda mwy o bryderon am les y sawl sy'n byw mewn pebyll, aeth swyddogion tân ac aelodau o'r tîm Allgymorth i strydoedd y ddinas i dynnu sylw pobl at beryglon a chanlyniadau tân mewn pebyll a'r hyn y gall pobl ei wneud i fod yn ddiogel.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Mae ambell unigolyn wedi bod yn lwcus iawn i ddianc o bebyll oedd ar dân yn ddiweddar yn y ddinas.Cafodd un person fân losgiadau, ond gallai pethau fod wedi bod yn waeth o lawer ac rydym yn dal i bryderu am ddiogelwch pobl mewn pebyll. Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn dros y misoedd diwethaf, felly, i helpu pobl i symud i letyau swyddogol.

 

Cafodd pabell ar Heol Penarth ei dinistrio'n llwyr gan dân mewn munudau yn ddiweddar. Chafodd neb niwed, diolch byth, ond mae'n dangos y peryglon sy'n wynebu unigolion agored i niwed sy'n cysgu mewn pebyll.

 

Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i Wasanaeth Achub a Thân De Cymru am weithio gyda ni i drosglwyddo'r neges ddiogelwch i bobl, tra'n bod ni'n eu hatgoffa hefyd am y gwasanaethau llety a chymorth sydd ar gael iddyn nhw, i'w helpu i adael y strydoedd."

 

 

Dywedodd Comander Gorsaf Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar gyfer Canol Caerdydd, Gareth Llewellyn:"Rydym yn ymwybodol o rai o'r problemau a wynebir gan bobl agored i niwed sy'n byw ar y stryd a'r defnydd o fflamau.

 

"Gall coginio mewn pebyll gynhyrchu Carbon Monocsid, sy'n ddi-liw, diarogl ac yn ysgafnach nag aer.Gall sgil effeithiau gwenwyn Carbon Monocsid fod yn angheuol mewn mannau sydd wedi'u hawyru'n wael.   

 

"Mewn man cyfyngedig, megis pabell mae perygl o garbon monocsid yn cael ei gynhyrchu o'r fflam, ochr yn ochr â'r deunyddiau a ddefnyddir i wneud y pebyll a fydd yn cynnau gan achosi tân i ledaenu'n gyflym.

 

"Byddem yn annog y rheiny sydd mewn amgylchiadau anodd i weithio gyda'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael."