Back
Adroddiad Estyn Ysgol Gynradd Grangetown: Wedi'i chanmol fel ‘ysgol sy'n adnabod ei disgyblion yn dda'

Cafodd Ysgol Gynradd Grangetown yng Nghaerdydd ei dyfarnu'n ‘dda' gan Estyn, yr ail radd uchaf, ym mhob un o'r pum maes y bydd yr arolygwyr addysg yn eu barnu. 

Yn dilyn ymweliad yn gynharach eleni, cafodd arolygwyr Estyn fod staff yr ysgol gynradd yn Grangetown yn ‘adnabod eu disgyblion yn dda a'u bod yn eu meithrin i ddod yn ddinasyddion hyderus a moesol.'

Dywedodd yr arolygwyr hefyd fod ‘disgyblion yn mwynhau eu haddysg' ac yn ‘gweithio'n galed ac yn ymddwyn yn dda' o ganlyniad i wersi gafaelgar.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Grangetown PS\2019-01-16-14-06-00.jpg

Aiff yr adroddiad ymlaen i ddweud bod ‘llawer o'r disgyblion yn siarad ieithoedd eraill gartref yn hytrach na Saesneg ond yn gwneud cynnydd cyflym wrth ddysgu'r Saesneg ac yn dal i fyny'n fuan â'u cyfoedion.'

Dywedodd arolygwyr hefyd fod gan y disgyblion ‘ymwybyddiaeth gref o gydraddoldeb, goddefgarwch a pharch at eraill.'

Bu i Estyn gydnabod hefyd sut mae'r Pennaeth presennol, Mrs Siân Chase, wedi ‘sefydlu gweledigaeth glir ac ethos tîm ymysg y staff.'

Wrth ymateb i ganfyddiadau Estyn, dywedodd Mrs Chase:"Rwyf wrth fy modd â chanlyniad diweddar yr ysgol, yn arbennig cydnabyddiaeth Estyn o'r ddarpariaeth ystafell ddosbarth safon uchel gan y staff, sydd wedi arwain at lwyddiant da ein disgyblion.

"Mae ymroddiad ein holl staff yma yn yr ysgol, ynghyd â'r llywodraethwyr a'r rhieni, wedi cyfrannu at sicrhau bod ein disgyblion yn mwynhau ac yn gwneud eu gorau glas, gan greu ethos a gweledigaeth dda ar gyfer dyfodol yr ysgol."

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Grangetown PS\2019-05-24 13.41.48.jpg

Dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, Jeff Hobden:"Mae'r Llywodraethwyr yn cael eu synnu'n gyson gan ymroddiad, brwdfrydedd a gofal y staff dros y plant.Mae parodrwydd y staff i ddatblygu eu harfer a'u gwaith mewn modd cydweithredol er mwyn sicrhau cysondeb a gwella yn drawiadol.Dyma sylfaen gallu parhaus yr ysgol i wella eto fyth.

"Mae'r Corff Llywodraethu wrth ei fodd bod yr arolygwyr wedi gallu gweld hyn drostynt eu hunain, ac mae'r adroddiad yn dystiolaeth o waith caled y staff, y disgyblion a'u teuluoedd."

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Rwyf wrth fy modd bod Estyn wedi cydnabod safonau da'r ysgol, sy'n ganlyniad gwaith caled ac ymroddiad pawb yn yr ysgol.

"Mae ymroddiad Mrs Chase a phawb sydd ynghlwm wrth yr ysgol yn wir wedi talu ar ei ganfed a dylent i gyd fod yn falch iawn o'u llwyddiant hyd yn hyn, gan baratoi at ddyfodol llewyrchus a chyffrous i Ysgol Gynradd Grangetown."