Back
Yr Arglwydd Faer yn codi £200k ar gyfer yr elusen o'i dewis ac yn torri record codi arian

Heddiw mae GwirAnrhydeddusArglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Dianne Rees, yn cyflwyno siec gwerth £200k i'r elusen Arch Noa o ganlyniad i arian a godwyd yn ystod ei blwyddyn yn y swydd, y swm mwyaf a godwyd i elusen Arglwydd Faer gan unrhyw Arglwydd Faer arall yn hanes Caerdydd.

Mae gweithgareddau codi arian wedi cynnwys y Big Give pan ddyblodd pob cyfraniad, gan godi£69,850, yn ogystal â chinio eog, cyfres o ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn y Plasty, gem o griced lle aeth staff y Cyngor i'r afael â chynghorwyr, diwrnod o golff aThaith Gerdded Fawr Cymru- her chwe diwrnod a ddechreuodd ymMachynlleth a gorffen ym Mae Caerdydd.

Yn olaf, cynhaliodd yr Arglwydd Faer Noson Gala 18fedPen-blwydd Elusen Arch Noa yn Neuadd y Ddinas Caerdydd nos Wener lle croesawyd llu o westeion arbennig gan gynnwys y Foneddiges Shirley Bassey.

Dywedodd yr Arglwydd Faer,"Rwyf wrth fy modd o gyflwyno'r swm anhygoel o arian i Arch Noa ac rwy'n ddiolchgar o'r galon i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser a'u harian i helpu i ragori ar fy nharged gwreiddiol gyda swm mor eithriadol.

"Dewisais Ysbyty Plant Arch Noa gan i'r staff ardderchog greu argraff mor dda arnaf, ac maen nhw'n canolbwyntio ar anghenion y plant.Mae wedi bod yn hyfryd gweld staff y Cyngor, cynghorwyr ac aelodau'r cyhoedd yn cymryd rhan yn yr ymgyrch hon â brwdfrydedd mawr, gan gyfrannu'n hael i helpu i gyrraedd y swm aruthrol hwn.

Cyflwynwyd y siec gan WirAnrhydeddusArglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Dianne Rees, i Gyfarwyddwr Elusen Arch Noa,Suzanne Mainwaring a Chadirydd Eddie Hayward, yn ystod agoriad swyddogol siop newydd yr elusen ynLlwynbedw, Caerdydd.

Yr achlysur hwn oedd yr olaf o ddigwyddiadau swyddogol yr Arglwydd Faer cyn i'w hamser yn y swydd ddod i ben yfory, dydd Iau 23 Mai 2019.

Ychwanegodd y Cyng. Rees,"Mae wedi bod yn flwyddyn arbennig iawn i mi ac rwyf wedi mwynhau'n fawr wrth weithio gyda'r elusen yn ystod blwyddyn ei 18fedpen-blwydd.Roedd llawer o uchafbwyntiau a byddaf yn gadael gydag atgofion hyfryd.

"Hoffwn ddweud diolch yn fawr i bawb sydd wedi cefnogi fy ymgyrch codi arian ac rwyf wrth fy modd y bydd yr Apêl Bywydau Bach yn parhau i gefnogi'r uned newydd-anedig yn Ysbyty Athrofaol Cymru, sy'n darparu gofal o safon ryngwladol i rai o'r babanod mwyaf cynamserol a difrifol sâl yng Nghymru."

Dywedodd Cyfarwyddwr Elusen Arch Noa, Suzanne Mainwaring,"Mae wedi bod yn bleser mawr i weithio gyda'r Cyng. Dianne Rees yn ystod ei hamser fel Arglwydd Faer. Roedd yn wir bartneriaeth rhyngom; mae'r Arglwydd Faer, ei Chydweddog a'i thîm wedi dangos ymroddiad pur i wneud gwahaniaeth anferthol i Elusen Arch Noa a'r miloedd o fabanod a phlant y mae angen triniaeth feddygol arbenigol arnynt bob blwyddyn. 

Maent wedi gweithio'n ddiflino i godi arian a dod â chefnogwyr newydd i'r elusen ac mae'r canlyniad yn dangos yn glir ffrwyth yr holl waith caled hwn.

"Mae £200k yn swm anhygoel o arian i'w godi ac yn ogystal â gwireddu ei hymrwymiad i gefnogi'r uned newydd-anedig, mae'r Arglwydd Faer yn gadael gwaddol i helpu plant gydag anafiadau niwrolegol a'r rhai â phroblemau iechyd meddwl wrth iddi roi cychwyn ar gam nesaf ymdrechion i godi arian ar gyfer Elusen Arch Noa.

"Mae'r Arglwydd Faer yn llysgennad gwych dros Gaerdydd, gan weithio'n frwd ar ran y ddinas arbennig hon. Roeddem wrth ein boddau pan gyflwynodd hi Ryddid y Ddinas i'n noddwr, y Foneddiges Shirley Bassey, a phan oedd hi'n gallu dathlu gyda ni gyda noson gala i ddathlu 18fedpen-blwydd yr elusen a diwedd y bartneriaeth. Diweddglo bendigedig i flwyddyn fendigedig yn y swydd ac mewn partneriaeth. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i gyd yn y dyfodol."