Back
Gwobr genedlaethol i gynllun lleoli myfyrwyr

Mae rhaglen leoli myfyrwyr yn Nhîm Comisiynu a Chaffael Cyngor Caerdydd wedi ennill gwobr Rhagoriaeth ym Maes Caffael Cyhoeddus Cyfleoedd Llywodraeth (CLl) genedlaethol ar gyfer 2019/20.

Mae'r cynllun, sydd wedi'i gydnabod yng nghategori Dawn Caffael sy'n Dod i'r Amlwg, gwobrau caffael blaenllaw'r DU, wedi bod yn rhedeg ers chwe blynedd ar y cyd â Phrifysgol De Cymru ac mae'n rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am brosesau caffael y Cyngor a phrofiad wrth weithio gwerthfawr.


 Caiff hyd at dri myfyriwr eu lleoli bob blwyddyn a rhoddir llawer o gyfrifoldeb iddynt, megis bod yn gyfrifol am arwain a rheoli £10- £20 miliwn o weithgarwch tendro.


Hefyd mae myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio ar brojectau gydag Atebion Solutions, cwmni


caffael-y Cyngor sy'n darparu gwasanaeth ar gyfer sefydliadau sector cyhoeddus eraill.


 Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Rydym yn falch bod ein rhaglen leoli myfyrwyr lwyddiannus wedi cael ei chydnabod yn y gwobrau caffael cenedlaethol hyn.  Ethos y tîm Comisiynu a Chaffael yw bod ein myfyrwyr a leolir hefyd yn weithwyr caffael proffesiynol sy'n datblygu ac maen nhw'n cael eu trin yn unol â hynny gan gael profiad cyflawn o brosesau caffael y Cyngor.


 "Mae'r Brifysgol hefyd wedi sylwi ar effaith ar raddau terfynol eu gradd BA (Anrhydedd) gan fod


100% o fyfyrwyr Cyngor Caerdydd yn ennill gradd dosbarth cyntaf neu 2:1.  Hefyd mae ein myfyrwyr a leolir yn symud ymlaen i ennill gwobrau prifysgol megis myfyriwr y flwyddyn a thraethawd estynedig gorau.

"Ond efallai, dangosydd mwyaf llwyddiant ein rhaglen leoli myfyrwyr yw bod pump o'n myfyrwyr blaenorol wedi'u cyflogi'n barhaol yn y tîm erbyn hyn."

Dywedodd Daniel Mansell, myfyriwr a leolwyd yn 2018/19 ac aelod cyfredol o dîm Caffael Strategol y Cyngor: "Mae'r cynllun lleoli myfyrwyr wedi chwarae rôl hanfodol yn y broses o ddatblygu fy ngwybodaeth o gaffael. Oherwydd fy lleoliad yng Nghyngor Caerdydd, ces i brofiad cyfannol o rôl caffael a heriau gweithio mewn sefydliad cymhleth.

"Mae cael fy lleoli gyda Chyngor Caerdydd wedi fy ngalluogi i gael helaethrwydd o brofiad a gwybodaeth diwydiant go iawn a fydd yn fy nghefnogi wrth ddilyn gyrfa ym maes caffael."


 Dywedodd Scott Parfitt, Uwch Ddarlithydd yn y Brifysgol: "Dyma enghraifft wych o Ddiwydiant

ac Addysg Uwch yn cydweithio i greu graddedigion sy'n bodloni anghenion y diwydiant."


 Am fwy o wybodaeth am gynllun lleoli myfyrwyr Comisiynu a Chaffael ewch i:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Busnes/Tendrau-Comisiynu-a-Chaffael/social-responsibility/Darpariaeth-cyfrifol-cymdeithasol/Pages/default.aspx