Back
Iechyd da! Llyfrgelloedd Cymru wrth galon eu cymunedau

 

Mae Llyfrgelloedd Cymru'n chwarae eu rhan mewn Cymru hapusach ac iachach gyda lansiad ymgyrch newydd i hybu lles y wlad.

Mae Byw'n Dda yng Nghymru yn fenter genedlaethol sy'n dod â llyfrgelloedd cyhoeddus a sefydliadau partner ynghyd i dynnu sylw at y rôl bwysig mae llyfrgelloedd yn ei chwarae wrth galon eu cymunedau lleol a hyrwyddo'r miloedd a ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n hybu iechyd a lles mewn llyfrgelloedd bob blwyddyn.

Gan ganolbwyntio ar bedair ymgyrch ymwybyddiaeth allweddol, bydd y fenter yn rhoi sylw i'r cyfoeth o adnoddau iechyd a lles sydd ar gael mewn llyfrgelloedd cyhoeddus yn ogystal â'r rhan y mae'r cyfleusterau hyn yn ei chwarae fel canolfannau cymdeithasol yn eu cymunedau, gan helpu i daclo unigedd, yn arbennig ymysg y genhedlaeth hŷn, a hyrwyddo cyfranogiad cymunedol.

Mae Llyfrgelloedd Cymru wedi ymuno â'r Gymdeithas Alzheimer's i hyrwyddo gweithgareddau ac adnoddau yn ystod  Wythnos Gweithredu ar Ddemensia(20-26 Mai) i godi ymwybyddiaeth a galluogi cymunedau i wneud newidiadau bach a all gefnogi pobl â demensia i fyw'n dda.

Ym mis Medi (11-17), bydd yr ymgyrch yn cefnogi  Wythnos ‘Nabod Eich Rhifau!'Blood Pressure UKdrwy gynnal digwyddiadau a hyrwyddo gwybodaeth sy'n annog pobl i ddysgu am eu pwysau gwaed a chymryd y camau angenrheidiol i gyflawni rhifau iach.

Cymdeithas Dyslecsia Gwledydd Prydain yw'r partner allweddol ar gyfer codi ymwybyddiaeth yn ystod yr  Wythnos Dyslecsia Genedlaethol(2-8 Hydref), a bydd Mind, Amser i Newid Cymru a'r Samariaid yn gweithio gyda Llyfrgelloedd Cymru ar  Ddydd Llun Llwm, 21 Ionawr, i annog pobl i roi cynnig ar rywbeth newydd i wella eu lles corfforol a meddyliol ar ‘ddiwrnod mwyaf llwm y flwyddyn'.

Dywedodd Is-Gadeirydd Cymdeithas y Prif Lyfrgellwyr (Cymru) a'r Rheolwr Llyfrgell a Strategaeth Arweiniol yng Nghyngor Caerdydd, Nicola Pitman:"Llyfrgelloedd yw'r llefydd perffaith i hybu iechyd a lles cymunedau lleol.

"Maent yn adnoddau gwych o ran y wybodaeth a'r deunyddiau sydd ar gael yno ond hefyd fel hyb neu ganolbwynt i'r gymdogaeth, lle gall pobl ddod ynghyd ar gyfer digwyddiadau neu weithgareddau sydd o fudd i'w lles.

"Nod yr ymgyrch Byw'n Dda yng Nghymru yw dathlu ein llyfrgelloedd cyhoeddus ac annog pobl i gael mwy mas o'u cyfleuster lleol.Rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda phartneriaid ffantastig i hyrwyddo'r agenda bwysig hon i helpu pobl i fyw'n dda yn ein cymunedau."

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Mae hybiau a llyfrgelloedd yn lleoliadau cymunedol y mae pobl yn ymddiried ynddynt sydd â staff medrus a gwybodus a all roi help a chymorth i bobl sydd am gael gwybodaeth am iechyd a lles, cael eu hatgyfeirio at wasanaethau cymorth a chael mynediad at weithgareddau cymdeithasol.

"Yng Nghaerdydd, rydym wrth ein bodd o fod yn rhan o'r ymgyrch Byw'n Dda yng Nghymru ac yn edrych ‘mlaen at gynnig digwyddiadau a gweithgareddau yn ein llyfrgelloedd a hybiau drwy gydol y flwyddyn i helpu i adeiladu cymunedau lleol iachach."

 

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch Byw'n Dda yng Nghymru, cysylltwch ag Andrea Currie, tîm y Wasg a Chyfathrebu Cyngor Caerdydd ar 02920 873107 neu e-bostiwch:acurrie@caerdydd.gov.uk