Back
‘Gofynnwn i bawb sydd â bathodyn glas i’w ddefnyddio’n gywir’

 

Mae pobl sy'n camddefnyddio bathodynnau glas anabledd i barcio eu ceir yn cael eu rhybuddio gan y Cyngor heddiw, yn dilyn nifer o bryderon sydd wedi'u codi.

Rhoddir bathodynnau glas i berson yn lle cerbyd i helpu'r rheiny sy'n gymwys yn eu bywydau bob dydd.

Amcangyfrifir gan yr Adran Drafnidiaeth fod 2.38 miliwn o fathodynnau wedi'u cyhoeddi yn u DU a bod hyd at hanner miliwn yn cael eu camddefnyddio.

Yng Nghaerdydd, mae 18,000 o fathodynnau glas wedi'u cyhoeddi i drigolion ac mae ymgyrch addysg a gorfodi bellach wedi dechrau i sicrhau nad yw bathodynnau glas yn cael eu camddefnyddio ym mhrifddinas Cymru.

Dywedodd Llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Nid yw'r ymgyrch hon yn targedu pobl anabl mewn unrhyw ffordd. I'r gwrthwyneb mewn gwirionedd, rydym yn cymryd camau yn erbyn y rheiny na ddylent fod yn eu defnyddio. Mae'r mesurau rydym yn eu cymryd wedi'u cefnogi gan yr heddlu ac adwerthwyr canol y ddinas.

"Pan gaiff bathodyn glas ei gyhoeddi gan awdurdod lleol, mae taflen yn cael ei rhoi gydag ef sy'n rhoi gwybodaeth fanwl i'r person am sut mae ei ddefnyddio.

"Er enghraifft, os caiff bathodyn glas ei rhoi i blentyn anabl, dim ond y rhiant a all ddefnyddio'r bathodyn a hynny pan fo'r plentyn yn teithio yn y car. Hefyd ni ellir rhoi'r bathodyn i rywun arall ei ddefnyddio; ni ellir ei ddefnyddio os nad oes ei angen mwyach ac ni ellir ei ddefnyddio i aros wrth ochr ffordd os nad ydych yn bwriadu parcio'r cerbyd. Gofynnon i bawb sydd â bathodyn glas i'w ddefnyddio'n gywir."

Mae'r Cyngor yn cynyddu nifer yr archwiliadau bathodyn glas a wneir ac os gwelir unrhyw un yn camddefnyddio bathodyn glas, bydd yn cymryd camau gorfodi priodol yn ei erbyn ac os oes angen byddwn yn mynd â'r materion hyn i'r llys. Y ddirwy fwyaf a ellir cael ei rhoi gan y llys am ddefnyddio bathodyn glas yw £1000.

Mae bathodyn glas yn galluogi person anabl i:

  • Barcio ar strydoedd gyda mesuryddion parcio neu beiriannau talu ac arddangos cyhyd ag sydd angen
  • Parcio mewn man anabl ar strydoedd cyhyd ag sydd angen, oni bai bod arwydd sy'n rhoi cyfyngiad amser
  • Parcio ar linellau melyn dwbl neu sengl am hyd at dair awr oni bai bod arwydd ‘dim llwytho'.
  • Nid yw cael bathodyn glas yn eich galluogi i barcio'n unrhyw le. Mae'n rhaid dilyn rheoliadau parcio. Gellir rhoi tocyn o hyd os parciwch mewn ardal sy'n peryglu pobl, er enghraifft y tu allan i ysgol neu'n agos at gyffordd.

 

Gall deiliad bathodyn glas adael i rywun arall ddefnyddio ei fathodyn dim ond os:

  • Ydych yn y car gydag ef
  • Yw'n eich casglu neu'ch gollwng, a bod angen iddo barcio'n agos i'r lleoliad mae angen i chi fynd iddo
  • Os yw rhywun arall yn eich gyrru chi, rhaid i chi sicrhau ei fod yn gwybod y rheolau, neu gallai'r bathodyn gael ei atafaelu.

 

Gall y Cyngor, yn unol â'r gyfraith, atafaelu bathodyn glas gan unrhyw un sy'n ei ddefnyddio. Mae proses apelio ar waith os yw person anabl yn credu bod ei fathodyn glas wedi'i atafaelu'n anghyfreithlon.