Back
Ynadon yn adolygu’r ddirwy o £3000 a roddwyd ar berchnogion y ‘ci cyfarth’

  

Adroddodd y Cyngor ar yr achos ar 1 Ebrill 2019 pan dderbyniodd perchnogion ci yn Grangetown gyfanswm dirwy o £3000 yn dilyn pedwar toriad ar hysbysiad i leihau sŵn yng nghyswllt eu ci yn cyfarth.

 

Ar un ymweliad gan swyddog o'r Gwasanaethau Rheoliadol a rennir nodwyd 1,350 cyfarthiad mewn cyfnod o 45 munud - sef un cyfarthiad bob dwy eiliad.

 

Pan roddwyd y ddedfryd ar y pryd, nid oedd Ms Linda Hill a Mr Jason Badham o Amherst Street, Grangetown, wedi dod i'r llys, a phrofwyd yr achos yn eu habsenoldeb. Cafodd y ddau ohonynt ddirwy o £1,320, ynghyd â gorchymyn i dalu costau o £110 a gordal dioddefwyr werth £44 yr un.

 

Rhestrwyd yr achos unwaith yn rhagor ddoe yn Llys Ynadon Caerdydd wrth i'r ddau ddiffynnydd wneud cais i'r llys i'w heuogfarn gael ei roi i'r naill ochr, ar y sail nad oeddent wedi derbyn gwŷs gan y llys am eu bod wedi symud tŷ. Ail-agorwyd yr achos wedi hynny.

 

Mynychodd Ms Hill a Mr Badham y llys a phledio'n euog i'r pedair trosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad lleihau sŵn yn ymwneud â'u ci oedd yn cyfarth.

 

Yn dilyn y rhesymau lliniarol a roddwyd yn y llys gan y diffynyddion, rhoddodd yr ynadon ryddhad amodol o dri mis i'r ddau ddiffynnydd a gorchymyn iddynt dalu gordal dioddefwr o £20 yr un.

 

Rhyddhad amodol yw pan fo troseddwr yn cael ei ryddhau a'r drosedd yn cael ei chofnodi ar eu cofnod troseddol.Ni chymerir unrhyw gamau pellach oni bai eu bod yn cyflawni trosedd pellach o fewn cyfnod o amser a bennir gan y llys.Yn yr enghraifft hon gosodwyd y terfyn amser hwn ar dri mis.

 

Cafodd y gwrandawiad ei ddirwyn i ben wrth i'r Ynadon ddweud ‘Mae'r ddedfryd yn adlewyrchu barn y Fainc heddiw."