Bydd y gynhadledd a’r digwyddiad hyfforddi, fydd yn cael ei chynnal ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Bae Caerdydd rhwng 29 Ebrill a 3 Mai, yn amlygu gwaith arweiniol cymuned achub Ewrop, ac yn dod â hyfforddwyr ac ymarferwyr o dros 25 o wledydd gwahanol yn Ewrop ynghyd i rannu arfer gorau, ymchwil newydd a datblygiadau o ran technegau.
Mae Rescue 3 Europe yn creu ac yn cynnal hyfforddiant penigamp ar gyfer gwasanaethau tân ac achub, timau ambiwlans, timau achub mynydd, a darparwyr hyfforddiant masnachol a gweithgareddau hamdden ledled Ewrop.
Wedi rhannu ar draws yr Arena Fiola, cartref tîm hoci rhew Cardiff Devils a chanolfan antur awyr agored Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd (DGRhC) sy’n cynnwys cwrs rafftio dŵr gwyn i safon Olympaidd, bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar ddiweddariadau i achub dŵr a llifogydd cyflym, cychod ac achub rhaffau.
Bydd hefyd yn cynnwys achub cored byw ac arddangosiadau profion gollwng, diweddariadau gan hyfforddwyr ac ystod o siaradwyr gwadd - gan gynnwys profiadau personol o'r ymdrech i achub y bechgyn o’r ogof yng Ngwlad Thai.
Dywedodd Jon Gorman, Rheolwr Gyfarwyddwr Rescue 3 Europe: “Rydym yn edrych ymlaen at ddod ag arbenigwyr arweiniol yn y maes achub technegol ynghyd, i gael cwrdd â hen ffrindiau a chroesawu ffrindiau newydd yn y gynhadledd eleni yng Nghaerdydd.Rydym wedi bod yn falch iawn ynglŷn â’r dewis o leoliadau yng Nghaerdydd; mae eu trawsffurfiad o fod yn lleoliadau gweithgareddau'n llawn adrenalin i fod yn lleoliadau cynhadledd a hyfforddiant unigryw a chyffrous wedi bod yn allweddol i gynnal beth fydd yn ddigwyddiad arbennig.”
Dywedodd
Faye Tanner, Rheolwr Partneriaethau Masnachol Meet in Cardiff:
“Rydym
yn falch dros ben bod Rescue 3 Europe wedi dewis Caerdydd i gynnal eu
Cynhadledd Achub Technegol 2019. Rydym
wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda nhw, gan roi cyngor a’u helpu nhw i ddod
o hyd i lety a gwasanaeth llety ar-lein pwrpasol i gyfranogwyr rhyngwladol sy’n
ymweld, ac edrychwn ymlaen at groesawu cyfranogwyr o bob rhan o’r byd i’n
prifddinas.”
Mae
Swyddfa Gynadledda Cwrdd yng Nghaerdydd,
sy’n rhan o Gyngor Caerdydd, yn siop dan yr unto sy'n cynnig cyngor
proffesiynol unigryw ac am ddim i sefydliadau sy'n bwriadu cynnal cynhadledd
neu ddigwyddiad yn y ddinas.Mae’r gwasanaeth yn cynnig cymorth ar y broses gwneud
cynnig, lleoliadau a chyflenwyr, ymweliadau safle, dyrannu llety a llawer mwy.
www.meetincardiff.com