Back
Dau o Barciau Caerdydd i gael eu diogelu fel ‘Caeau'r Canmlwyddiant’
Mae dau barc yng Nghaerdydd i gael eu diogelu am byth fel ‘Caeau’r Canmlwyddiant’, er mwyn anrhydeddu’r cof am y miliynau o bobl a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. 

Mae’r ‘Caeau’r Canmlwyddiant’ yn fenter gan Feysydd Chwarae Cymru mewn partneriaeth â’r Lleng Brydeinig, sy’n annog perchnogion tir ledled y DU i amddiffyn mannau gwyrdd sy’n cynnwys cofeb ryfel sydd yn gysylltiedig â’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, caiff y penderfyniad i ymrwymo i gytundeb cyfreithiol a fydd yn gweld Gerddi Alexandra, sy’n gartref i Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru, a Gerddi'r Faenor, safle Cofeb Arwyr Rhyfel Grangetown yn dod yn 'Gaeau’r Canmlwyddiant' yn ffurfiol mewn cyfarfod o'r Cyngor yr wythnos nesaf (Ebrill 18fed).

Bydd cytundeb ‘Gweithred Ddiofryd’ yn golygu y byddai’n rhaid i Feysydd Chwarae Cymru – sefydliad elusennol sydd â’r nod o warchod a hyrwyddo parciau a mannau gwyrdd - roi eu caniatâd ar gyfer unrhyw ddatblygiadau ar y tir yn y dyfodol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:  “Mae gan Gaerdydd fwy o ofod gwyrdd fesul y pen nag unrhyw ddinas graidd arall yn y DU ac rydym yn benderfynol y byddant yn cael eu gwarchod er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu defnyddio a’u mwynhau.”

 “Mae nifer o barciau’r ddinas eisoes wedi eu diogelu, gan gynnwys Cae Hamdden y Rhath, Parc Moorland yn Sblot, Caeau Pontcanna a Pharc Llanisien a thrwy ychwanegu Gerddi Alexandra a Gerddi’r Faenor at y rhestr rydym yn atgyfnerthu eu pwysigrwydd hanesyddol yn ogystal â’u defnydd amhrisiadwy fel asedau cymunedol.

 “Yn bwysig, bydd hyn hefyd yn sefydlu'r parciau fel safleoedd i'w cofio, gan gydnabod arwyddocâd y rheini o gymunedau lleol a gollodd eu bywydau mewn gwrthdaro."

Dadorchuddiwyd y Gofeb Ryfel Genedlaethol gan Dywysog Cymru yng Ngerddi Alexander yn 1928 ac mae'n coffáu'r milwyr hynny a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae hefyd yn cynnwys plac coffa ar gyfer y rhai a gollodd eu bywydau yn yr Ail Ryfel Byd. 

Dadorchuddiwyd Cofeb Arwyr Rhyfel Grangetown yng Ngerddi’r Faenor ar 7 Gorffennaf 1921. Wedi ei gomisiynu ar gost o £1000 mae’n cynnwys enwau trigolion lleol a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn ogystal ag enwau aelodau’r pwyllgor a sefydlwyd i godi arian ar gyfer ei godi.

Dywedodd cadeirydd Meysydd Chwarae Cymru, Brynmor Williams: “Rydym yn gwybod bod parciau a mannau gwyrdd o fudd i iechyd a lles pobl ar hyd a lled Cymru. Mae’r dystiolaeth bellach yn eglur: mae mannau gwyrddion yn dda, yn gwneud daioni ac mae angen eu gwarchod am byth, felly rydym wrth ein bodd bod Cyngor Caerdydd yn diogelu Gerddi Alexander a Gerddi’r Faenor fel Caeau’r Canmlwyddiant, i gofio canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn i drigolion lleol gael eu defnyddio i chwarae, ar gyfer campau neu er mwyn hamddena a hynny am byth. Mae Meysydd Chwarae Cymru wedi ymrwymo i warchod mwy o fannau gwyrddion, fel y gall pobl o bob cwr o Gymru nawr ac yn y dyfodol, barhau i allu manteisio arnyn nhw.”

Drwy fynd i Weithred Ddiofryd mae’r Cyngor i bob pwrpas yn “gwaredu” y tir o dan Adran 123 Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn mynnu bod y Cyngor yn hysbysu ei fwriadau ac yn ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan y cyhoedd wrth gyrraedd penderfyniad terfynol.

Mae Parc y Mynydd Bychan, Caeau Pontprennau, Man Agored Hywel Dda a Pharc Tredelerch hefyd wedi eu gwarchod gan Feysydd Chwarae Cymru.

I gael gwybod rhagor am Feysydd Chwarae Cymru, ewch i:  http://www.fieldsintrust.org/