Back
Heddlu De Cymru yn cyflwyno Project Heddlu Bach yn Ysgolion Caerdydd

Mae project sydd â'r nod o ddysgu plant am y gwahanol swyddi o fewn yr heddlu ac i roi'r cyfle iddyn nhw drafod ac archwilio materion atal troseddu o'u dewis nhw, yn lansio yr wythnos hon. 

Bydd y Cynllun Heddlu Bach, Partneriaeth Diogelwch Cymunedol rhwng Heddlu De Cymru a'r Cyngor, yn cael ei gyflwyno'n raddol i 22 o ysgolion cynradd ledled y ddinas. Bydd hefyd yn helpu i ddatblygu gwell dealltwriaeth o'r heriau sydd yn wynebu'r heddlu mewn ardaloedd lleol a sut y gall plant helpu.

Bydd ysgolion yn gweithio gyda thîm o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCCH) a fydd yn cyflwyno ystod o sesiynau gan gynnwys cyflwyniad i yrfaoedd yn yr Heddlu ac ymchwiliad i bwnc atal trosedd. Bydd gan bob ysgol Dîm Heddlu Bach o tua wyth i ddeg disgybl a fydd wedi gwneud cais llwyddiannus am le.

Bydd y timoedd hyn law yn llaw â'r SCCH, yn helpu i gyflwyno gwersi ar themâu allweddol cyn defnyddio eu sgiliau a'r wybodaeth a enillwyd yn ystod y project, i ddatblygu eu syniadau eu hunain ac i fynd i'r afael â phroblemau neu bryderon penodol i'w hysgol. Gallai'r rhain gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol, bwlio, diogelwch ar y we neu ymwybyddiaeth cyffuriau ac alcohol.

Bydd plant yn cael eu hannog i godi ymwybyddiaeth ynghylch eu dewis o bynciau mewn amrywiol ffyrdd megis creu fideos, cystadlaethau, ysgrifennu dramâu a chynllunio posteri.

Yn bresennol mewn digwyddiad lansio yn Ysgol Gynradd Adamsdown heddiw (Dydd Iau 11 Ebrill) roedd yr Arolygydd Gary Evans o Heddlu De Cymru a Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cyngh Sarah Merry.

Dywedodd yr arolygydd Gary Evans , sydd wedi bod yn goruchwylio cyflwyno'r cynllun yng Nghaerdydd:  "Mae cynllun yr Heddlu Bach eisoes wedi gwneud gwahaniaeth mawr mewn ardaloedd eraill yn Ne Cymru ac mae'n wych gweld ei gyflwyno yng Nghaerdydd gyda chefnogaeth yr awdurdod lleol.

"Mae'r cynllun yn galluogi plant i ymgysylltu â'r heddlu lleol. Mae'n chwalu'r rhwystrau ac yn annog gwaith tîm, yn ogystal â rhannu gwybodaeth ddiogelwch ac atal troseddu pwysig.

"Diolch yn fawr i'r ysgolion hynny sydd wedi ymuno gyda'r y cynllun, ac wrth gwrs yr holl ddisgyblion ifanc sydd wedi dangos cymaint o ddiddordeb yn yr Heddlu Bach a helpu i gadw Caerdydd yn ddiogel."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'r cynllun hwn yn rhoi cip i blant ar waith amrywiol yr heddlu a dealltwriaeth o bwysigrwydd y swyddi hyn. Mae hefyd yn rhoi cyfle iddyn nhw siarad am faterion sydd yn bwysig iddyn nhw.

"Rydym yn gwybod bod gwrando ar syniadau plant a'u hannog nhw i gyfathrebu a datrys problemau yn gallu cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau ysgol ac ar gymunedau ehangach. Mae'r project yn cyfrannu at ymrwymiad Caerdydd i fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant, lle mae barn a blaenoriaethau plant wrth wraidd penderfyniadau."

 

Mae'r project partneriaeth hwn hefyd yn rhan o Addewid Caerdydd sydd â'r nod o sicrhau bod pob person ifanc yng Nghaerdydd yn cael swydd, fel y gallant gyrraedd eu potensial a chyfrannu at dwf economaidd y ddinas. 

Mae cyflogwyr megis Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gydag ysgolion a darparwyr addysg, i gysylltu plant a phobl ifanc gyda'r ystod o gyfleoedd byd gwaith sydd ar gael. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry, "Mae Addewid Caerdydd wedi helpu i leihau nifer y bobl ifanc nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a bydd projectau megis Cynllun yr Heddlu Bach yn helpu i ysbrydoli plant a phobl ifanc, agor eu llygaid i'r gyrfaoedd a'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt."

Mae'r Cynllun Heddlu Bach yn derbyn cefnogaeth gan y Bwrdd Arweinyddiaeth Diogelwch Cymunedol, panel sydd yn cynnwys cynrychiolaeth uwch o Gyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru, Y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a'r Gwasanaeth Prawf.