Back
Cyhoeddi Strategaeth Economaidd Caerdydd

Mae gweledigaeth ar gyfer dyfodol economaidd Caerdydd - a allai greu 30,000 o swyddi newydd yn y ddinas - wedi'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor.

Mae Creu Mwy o Swyddi Gwell yn cynnwys gwybodaeth am brojectau allweddol fydd yn cael eu datblygu gan y Cyngor a'i bartneriaid i hybu twf ledled y ddinas.

Mae'[r papur wedi ei greu yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus ar Bapur Gwyrdd Economaidd y Cyngor a gafodd ei lansio yn 2017.

Dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway, Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu: "Roedd yr ymatebion i ymgynghoriad y Papur Gwyrdd yn gadarnhaol ar y cyfan, ond nodwyd rhaid themâu pwysig sydd wedi eu hystyried ymhellach.

"Ymhlith y themâu a gododd yn gyson roedd trafnidiaeth a chysylltedd; yr angen i anelu at dwf cynhwysol fyddai o fudd i'r lliaws, nid y llond dwrn; a'r angen i gefnogi busnesau y tu allan i ganol y ddinas a chreu canolfannau ardal cynaliadwy.

"O ran twf, mae gennym stori wych i'w hadrodd, ond mae'n rhaid i ni gynyddu cynhyrchedd a chynyddu buddsoddi mewnol i brifddinas Cymru. Mae'r llwyddiant parhaus yn y sector creadigol a thechnoleg ariannol yn dangos yr hyn sy'n bosibl a byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid ar y blaenoriaethau a'r projectau sydd wedi eu nodi yn y Papur Gwyn i dyfu'r economi. Bydd hynny, yn ei dro, o fudd i'r Ddinas-ranbarth ehangach."

Mae'r Papur yn nodi'r blaenoriaethau a'r projectau sydd â'r nod o gyflawni amcanion y Cyngor. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Strategaeth ofodol i roi gwybod i fuddsoddwyr am y mathau o fuddsoddiadau sydd eu hangen mewn gwahanol rannau o'r ddinas
  • Y prif brojectau mae'r cyngor yn cynnig eu datblygu gyda phartneriaid, yn unol â'r strategaeth ofodol
  • Y strategaeth ddiwydiannol sy'n canolbwyntio ar dyfu'r diwydiannau digidol a chreadigol
  • Themâu creiddiol i helpu cyflawni twf cynhwysol yn y ddinas

Y Strategaeth Ofodol - Projectau sy'n cael eu Cynnig

Blaenoriaeth 1 - Metro Canolog a Chanol y Ddinas

Bydd Project y Metro Canologyn y Sgwâr Canolog yn cynnwys gorsaf fysiau ganolog newydd; moderneiddio gorsaf drenau Caerdydd canolog; gorsaf goetsis newydd ; hyb beiciau newydd a gwelliannau sylweddol i'r gofod cyhoeddus.Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn mewn teithio cynaliadwy'n helpu i fynd i'r afael â'r angen i wella trafnidiaeth a chysylltedd.

Bydd yCei Canologyn ddatblygiad 15 erw newydd fydd yn trawsffurfio'r tir i'r de o'r orsaf drenau.

Nod ailddatblygiadDumballs Roadfydd cysylltu canol y ddinas a Bae Caerdydd.Bydd y datblygiad newydd yn trawsffurfio safle tir llwyd yn ofod ar gyfer masnach, swyddfeydd a phreswylio, gyda ffocws clir ar wella llwybrau seiclo a cherdded rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd,

ByddCoridor Busnes De Glan-yr-afonyn canolbwyntio ar welliannau i Tudor Street, Heol y Gadeirlan Isaf a Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.Cynigir ystod o fesurau, gan gynnwys troi gofod gwag yn unedau isel eu pris ar gyfer busnesau sy'n cychwyn, gwella cyfleusterau seiclo a cherdded i'r gyfnewidfa drafnidiaeth newydd yn y Sgwâr Canolog, a gwella'r gofod cyhoeddus a diogelwch y gymuned.

Bydd y projectau hyn yn golygu y bydd cynnydd sylweddol yn y gofod masnachol fydd ar gael yn y ddinas, a gallent greu dros 30,000 o swyddi dros y 10 i 15 mlynedd nesaf.

Blaenoriaeth 2 - Rhoi Hwb i'r Bae

Mae angen moderneiddio Bae Caerdydd, ac nid yw'r rhan hon o'r ddinas wedi cyflawni ei llawn botensial eto. Yn sgil y cynigion diweddaraf sy'n cael eu cynnig, dylai nifer yr ymwelwyr gynyddu, a byddai rhagor o atyniadau i gynyddu nifer yr ymweliadau â'r ardal a gwella trafnidiaeth gyhoeddus i Gaerdydd ac oddi yno.

ByddArena Dan Dogyda 15,000 o seddi yn atyniad canolog newydd ym Mae Caerdydd.Bydd y datblygiad yn rhoi cyfle i ddenu ystod ehangach o ddigwyddiadau i Fae Caerdydd, ac arwain at gynnydd mawr yn y nifer o bobl sy'n ymweld â'r ddinas a'r Bae.

Llwybr y Parc Dinesig- llwybr newydd fydd yn cychwyn ar Sgwâr Callaghan ac yn dod i ben wrth Ganolfan y Mileniwm, yn cysylltu canol y ddinas a Bae Caerdydd.Bydd yn barc dinesig yn rhedeg gyfochr â'r llinell reilffordd bresennol ac yn rhan o seilwaith teithio actif newydd y ddinas.

Pentir Alexandra- ymchwilio i'r posibilrwydd o gael safle canolog i gyflawni potensial y Bae a'r Morglawdd.

Rhoi Platfform i Fusnesau.Gyda'r cynnydd a ragwelir yn nifer yr ymwelwyr â Bae Caerdydd yn sgil yr atyniadau newydd, mae'r Cyngor yn awyddus i roi cyfleoedd i fusnesau dros dro ddatblygu, ochr yn ochr â'r hyn sydd eisoes yn yr ardal.

Canolfan Celf Gyfoes ac Arloesedd.Bydd y ganolfan arfaethedig hon yn fan canolog ar gyfer celf gyfoes a gwyddoniaeth yn y Bae, a bydd yn cynnig profiad unigryw i ymwelwyr, ochr yn ochr â'r atyniadau diwylliannol sydd eisoes yno.

Blaenoriaeth 3 - Ffocws newydd ar ddiwydiant

Yn canolbwyntio ar ddwyrain y ddinas, bydd dull newydd yn cael ei ddatblygu i gefnogi sector cynhyrchu a dosbarthu'r ddinas. Mae'r projectau sy'n cael eu cynnig yn cynnwys:

Parcffordd Caerdydd.Gorsaf drenau newydd i'r ddinas, ochr yn ochr â gofod 1m troedfedd sgwâr o ofod ar gyfer masnach a thechnoleg. Bydd y datblygiad newydd ar ochr ddwyreiniol y ddinas, a gallai gyflogi 15,000 o bobl. Bydd yn darparu safle newydd gyda chyfleusterau technolegol heb eu hail ac yn ddolen gyswllt hollbwysig yn seilwaith trafnidiaeth newydd y ddinas.

Ffordd Gyswllt Dwyrain y Bae.Mae angen cwblhau Ffordd Gyswllt Dwyrain y Bae. Bydd hyn yn gwneud Bae Caerdydd a chanol y ddinas yn fwy hygyrch a bydd hefyd yn fodd i roi hwb i botensial economaidd dwyrain y ddinas.

Strategaeth Datblygu Dwyrain y Bae.Mae hyn yn cynnwys datblygu pedair ardal ddatblygu newydd yn nwyrain y ddinas i adlewyrchu cyfleoedd diwydiannol, gan gynnwys dosbarthu a thechnolegau amgylcheddol.

Canolfan Ddosbarthu'r Dwyrain.Mae'r galw am ganolfannau dosbarthu yn cynyddu yn y DU, a nod y project hwn yw creu ased ar gyfer busnesau sy'n gweithredu o ddwyrain y ddinas, yn manteisio ar y gwelliannau sy'n cael eu cynnig ar gyfer y seilwaith heolydd.

Coridor Busnes Adamsdown/Y Rhath, yn cynnwys Heol y Plwca, Crwys Road a Clifton Street a'r ardaloedd sy'n eu cysylltu â'i gilydd.Bydd Astudiaeth Ddichonolrwydd yn cael ei chynnal yn 2019/20, a'r project yn cychwyn yn 2010/21. Bydd y project hwn yn cynnwys gwella gweddau blaen busnesau; ailgychwyn defnyddio unedau sydd wedi bod yn wag ers cyfnod hir, gwella ardal yr Ysbyty Brenhinol a'r seilwaith seiclo a cherdded.

Blaenoriaeth 4 - Y Coridor Gwybodaeth

Mae cynyddu cynhyrchedd drwy arloesi'n hollbwysig ar gyfer sicrhau swyddi gwell i Gaerdydd a'r Ddinas-ranbarth. Gyda chymorth prifysgolion y ddinas, bydd y Cyngor yn datblygu cyfleoedd ymchwil a datblygu'r ddinas ymhellach drwy'r Coridor Gwybodaeth. Bydd hyn yn cynnwys cwblhau'r Campws Arloesi newydd ac ymchwilio i'r posibilrwydd o greu parc gwyddorau bywyd newydd wrth Gyffordd 32 yr M4.

Campws Arloesi Caerdyddfydd cartref y Sefydliad Lled-ddargludyddion a'r Sefydliad Catalyddu.Bydd y parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf hefyd ar y safle, a fydd yn ofod creadigol ar gyfer busnesau newydd sydd â gwybodaeth yn sail iddynt.

Mae'rParc Gwyddorau Bywydyn broject newydd sy'n cael ei gynnig ar gyfer Coryton.Mae gan y Ddinas-Ranbarth eisoes sector ymchwil gyda chwmnïau rhyngwladol megis Norgine; Biomet; GE Healthcare; Covatec a'r pum prif gwmni diagnostig, yn cynnwys Ortho Clinical Diagnostics; Canolfan Arloesi Clwyfau Cymru a ReNeuron. Er gwaethaf y llwyddiant hwn, mae prinder gofod o hyd ar gyfer busnesau newydd, felly bydd y ganolfan newydd am roi hwb i gyfleoedd ar gyfer busnesau sy'n cychwyn arni yn y sector hwn.

Blaenoriaeth 5 - Parhau a'r Adfywiad mewn Chwaraeon a Diwylliant

Mae Caerdydd yn deall pwysigrwydd chwaraeon a diwylliant, o ran y buddion ddaw yn eu sgil i gymunedau ac o ran eu posibiliadau economaidd.

Mae'rPentref Chwaraeon Rhyngwladolyn gartref ar hen o bryd i'r Arena Iâ newydd, y Ganolfan Dŵr Gwyn a'r Pwll Nofio Rhyngwladol.Mae gan yr ardal botensial mawr iawn i'w datblygu ymhellach, o ran cynyddu cyfleusterau hamdden i'r teulu ac o ran creu cyfleoedd busnes ychwanegol. Bydd llwybrau seiclo a cherdded yn cael eu gwella, a bydd y ffordd ddŵr yn cael ei defnyddio'n helaethach er mwyn cysylltu'r Pentref Chwaraeon yn well gyda Bae Caerdydd.

Bydd ymchwil yn cael ei gynnal i ystyried creuCartref Newydd i Chwaraeon Cymruer mwyn gwella'r cyfleusterau sydd ar gael.

Bydd ymchwil yn cael ei wneud mewn partneriaeth, i ystyriedgwella'r Cyfleusterau Chwaraeon, o Chwaraeon Elît i Glybiau a Thimau Cymunedolsydd ar gael

Strategaeth Ddiwydiannol

Mae sector digidol a chreadigol Caerdydd yn dal i ffynnu. Mae'n nod gan Gaerdydd i ddatblygu i fod y ddinas fwyaf arloesol yn y sector hwn drwy gydweithio gyda phartneriaid i gynyddu cynhyrchedd drwy rannu syniadau ac arbenigedd ac felly gyrru twf yn ei flaen.

Blaenoriaeth 1 - Dinas Greadigol a Digidol

Nod yProject Sbarduno ac Academi Greadigol a Digidolyw adeiladu ar y llwyddiant presennol drwy greu Bwrdd Creadigol a Strategol yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Leol; Llywodraeth Cymru; Addysg Bellach ac Uwch a diwydiant.Bydd y bwrdd hwn yn cydlynu cymorth sgiliau, hyfforddiant a busnes i barhau â'r twf yn y sector hwn. Bydd gan y bwrdd hefyd rôl arweiniol yn symbylu buddsoddiad mewnol i'r sector hwn, gyda chynlluniau i greu gofod newydd ar gyfer busnesau sy'n cychwyn arni.

Sefydlu Rhaglen Arddangos Greadigol a Digidol o Arwyddocâd Rhyngwladol. Bydd Arddangosfa yn cael ei chynnal bob blwyddyn i hyrwyddo talentau'r sector technolegau creadigol a digidol.

Strategaeth Gerddorol Caerdydd.Mae hwn yn waith mewn partneriaeth gydag arweinwyr rhyngwladol y Mudiad Dinasoedd Cerdd, Sound Diplomacy, ac mae'r strategaeth bron wedi ei chwblhau.

Blaenoriaeth 2 - Dinas lled-ddargludyddion cydrannol arweiniol y byd

Mae Caerdydd wedi arwain y gwaith o ddatblygu lled-ddargludyddion cydrannol y byd. Yn syml, os oes gennych ffôn clyfar, mae'n debygol bod y technolegau diweddaraf sydd yn eich ffôn wedi dod o Gaerdydd. Mae'r sector hwn eisoes yn cyflogi 2,000 o bobl mewn swyddi â medr mawr, ac mae'r cyfle i ehangu yn enfawr.

ByddParcffordd Caerdyddwrth galon yr ehangu yn y sector hwn, yn darparu ystod o fannau busnes ar gyfer y sector.Bydd gan y parc busnes fynediad at y brif linell drenau a bydd traffordd yr M4 o fewn cyrraedd hawdd iddo.

Blaenoriaeth 3 - Clwstwr Technoleg Rheoliadol ac Ariannol Dynodedig y DU (sectorau rheoliadol ac ariannol)

Mae llwyddiant y ddinas yn y sectorau technoleg rheoliadol ac ariannol yn cynyddu. Mae rhai o gwmnïau cyfrifo mwyaf y DU wedi ymestyn eu gwaith yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd diwethaf  Yn y sector technoleg ariannol, cafwyd llwyddiant yn denu cwmnïau, gyda Wealthify; Delio a Monzo yn barod i gychwyn arni yng Nghaerdydd.

O ran y sector technoleg reoliadol a seibrddiogelwch, mae'r llwyddiant wedi bod yn gyson.Mae cwmnïau megis Alert Logic wedi agor canolfan yng Nghaerdydd, ac mae'r ddinas hefyd yn gartref i'r Academi Seibrddiogelwch Cenedlaethol. Mae sefydliadau rheoliadol llywodraetho, megis yr Adran Waith a Phensiynau, y DVLA, Tŷ'r Cwmnïau, y Swyddfa Eiddo Deallusol a'r ONS â'u pencadlysoedd yn ne Cymru - yn creu staff sydd â sgiliau digidol heb eu hail a medrus iawn.

Rhaglen Academi a Sbarduno Technoleg Reoliadol ac Ariannol.Yn gweithio gyda busnesau, byddwn yn datblygu rhaglen gymorth i greu arloesedd a chynhyrchedd yn y sector hwn. Bydd y rhaglen yn datblygu ymyriadau yn gefn i Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda'r cynllun graddedigion sydd eisoes ar waith, a deall ac ymateb i anghenion seilwaith y sector.

Sefydlu Caerdydd yn Hyb ar gyfer Busnesau Technoleg Reoliadol y DU.Mae hyn eisoes ar waith yn y Sgwâr Canolog, gyda buddsoddiad wedi ei sicrhau o Lywodraeth y DU. Bydd y gwaith o ddenu swyddi medrus y Llywodraeth i'r ddinas yn mynd yn ei flaen, drwy arddangos bod gan y ddinas y sgiliau a'r arbenigedd sydd eu hangen i ddenu sefydliadau llywodraeth.

Agwedd newydd tuag at Gwyddorau Bywyd.Fel y nodwyd yn y Strategaeth Ofodol, bydd ymchwil yn cael ei wneud i'r posibilrwydd o sefydlu parc Gwyddorau Bywyd yn Coryton i greu lle ar gyfer twf yn y sector hwn.

Themâu creiddiol

Blaenoriaeth 1 - Twf a Sgiliau Cynhwysol

Fel y nodir yn nogfen bolisi'r Cyngor, Uchelgais Prifddinas, sicrhau bod cymunedau ledled y Cyngor yn cael budd o'r twf yw'r flaenoriaeth.

Dinas Gyflog Byw.Mae talu'r cyflog byw go iawn o fudd i'r bobl sy'n derbyn y tâl ac hefyd i'r economi ehangach. Mae amcangyfrifon yn awgrymu y byddai £24m net ychwanegol yn cael ei gyfrannu at economi'r Ddinas-ranbarth bob blwyddyn petai chwarter o'r gweithwyr sydd ar hyn o bryd yn derbyn llai na'r Cyflog Byw Go iawn yn Rhanbarth Dinesig Caerdydd yn derbyn y Cyflog Byw Go iawn.  Bydd y cyngor yn parhau i weithio gyda phartneriaid, drwy ystod o fesurau, i sicrhau bod buddion y safon hon ar gael i bawb mewn busnesau sydd eisoes yn bodoli a busnesau sydd eto i'w creu.

Hyb Ieuenctid Canol y Ddinas.Mae hyn yn cynnwys ymchwilio i'r posibilrwydd o greu clwb ieuenctid yng nghanol y ddinas fydd yn rhoi cyngor, gwybodaeth a chymorth i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed. Bydd pobl ifanc felly yn gallu cael mynediad at hyfforddiant, sicrhau sgiliau ac ymwneud â gweithgareddau cymunedol.

MaeGwasanaethau Cynghori i Mewn i Waitheisoes wedi bod yn llwyddiannus, gyda dros 25,000 o bobl wedi eu cofrestru ar y gronfa ddata, a dros 43,000 o ymweliadau yn 2017/18. Bydd y Cyngor yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn ar hyd a lled y ddinas gydag ystod o wasanaethau cymorth, hyfforddiant a chynghori.

Blaenoriaeth 2 - Datblygu Busnes Ledled y Ddinas

Mae hyn yn cynnwys cefnogi buddsoddiad yn ein canolfannau ardal, i ddarparu swyddi lleol i bobl leol.

Datblygu Ardal Gwella Busnes Mae Canolfan Datblygu Busnes canol y ddinas wedi bod yn llwyddiannus, felly y syniad yw efelychu'r cynllun mewn canolfannau ardal ledled y ddinas.

Datblygu Gweithdai.Mae angen gofodau busnes fforddiadwy ar gyfer busnesau sy'n cychwyn arni, a bydd rhaglen yn cael ei datblygu i ehangu'r gofod deor sydd ar gael.

Bwrdd Masnach a Buddsoddi.I ymateb i heriau Brexit ac mewn ymateb i Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, bydd bwrdd masnach a buddsoddi newydd yn cael ei sefydlu i ddatblygu strategaeth newydd i ddenu buddsoddwyr i'r ddinas.

Blaenoriaeth 3 - Galluogi'r Seilwaith

Rhaid cael y seilwaith cywir cyn i alluogi busnesau i ffynnu. Mae hyn yn cynnwys nifer o brojectau:

ByddRhwydwaith Digidol Gwasanaethau Creadigol ac Ariannolyn rhwydwaith cymorth i dyfu Busnesau Bach a Chanolig sy'n ddigidol ddibynnol.

Bydd yStrategaeth Dinasoedd Deallusyn cynnwys gweithio gyda phartneriaid i gyfoethogi Strategaeth Digidol yn Gyntaf y Cyngor ymhellach er mwyn gwneud Caerdydd yn ddinas fwy cynhyrchiol a pharhau i wella ansawdd bywyd.

MaeCyllid Cynyddiad Trethyn broses o fenthyca arian yn erbyn gwerth y gellir ei gyflawni yn y dyfodol drwy renti neu lifoedd incwm eraill pan fo safle wedi ei ddatblygu.I bob pwrpas, mae'n defnyddio'r buddion a ddaw o ddatblygiad i gyflawni gwaith seilwaith cyn iddo gael ei adeiladu. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar gynllun peilot i ymchwilio i'r math hwn o gyllid, fydd yn creu buddion yn gyflymach a heb gost i'r pwrs cyhoeddus.

Blaenoriaeth 4 - Dinas-Ranbarth ar Waith

Ein Gweledigaeth ar gyfer Dinas-Ranbarth GystadleuolCaerdydd sy'n gyfrifol am draean o holl allbwn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a thua thraen o'r gyflogaeth. I ddatblygu'r Ddinas-Ranbarth ymhellach, rhaid bod cyswllt rhwng Papur Gwyn yr Economi a Strategaeth Ddiwydiannol y Ddinas-Ranbarth. Rhaid hefyd gael strwythur llywodraethiant democrataidd a gwydn yn ei le sydd â'r pŵer a'r adnoddau i greu newid.