Back
Siopau’r Maelfa ar fynd

 

Mae cam cyntaf y cynllun i weddnewid canolfan siopa'r Maelfa bron â chael ei gwblhau wrth i fusnesau lleol symud i'w safleoedd newydd.

 

Bydd Cynllun Adfywio'r Maelfa yn helpu i ailfywiogi'r ardal leol a chynnig rhodfa siopa newydd a chyfoes gyda naw o siopau, tai fforddiadwy, seilwaith ffyrdd newydd a maes parcio â lle i 40 o geir.

 

Mae'r gwaith i weddnewid yr ardal yn sylweddol yn cael ei wneud gan y Cyngor a'i bartneriaid datblygu, Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd (CTCC) a'u contractwr gwasanaethau project, JEHU.Mae cam cyntaf y cynllun wedi cynnwys dymchwel hanner yr arcêd siopa fu yno gynt gan alluogi codi naw o siopau newydd a 40 o fflatiau yn ogystal â chreu'r maes parcio. 

 

Agorodd rhai o'r siopau yn eu safleoedd newydd yn barod ac mae busnesau eraill yn symud yno dros yr wythnos nesaf.Unwaith y bydd y busnesau i gyd wedi symud, bydd y gwaith o ddymchwel gweddill y ganolfan siopa yn mynd rhagddo.Bydd un deg chwech o dai trefol a fydd yn eiddo i CTCC, ffordd fynediad newydd a sgwâr cyhoeddus wedi ei balmantu a fydd yn cynnwys coed a seddi yn cwblhau cam 2 y cynllun y flwyddyn nesaf.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:Mae'r Maelfa newydd yn edrych yn wych.Roedd yr hen ganolfan siopa wedi dirwyn i ben draw ei oes, yn tynnu ar adnoddau ac nad oedd bellach yn addas i'r diben, felly rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cyflenwi cyfleuster mor arbennig.

 

"Rydym yn ddiolchgar iawn am amynedd y gymuned leol a busnesau yr hen ganolfan, a barhaodd i fasnachu trwy gydol cyfnod datblygu'r cynllun fesul cam.Gall preswylwyr a masnachwyr nawr edrych ymlaen at wneud y gorau o'u siopau newydd.

 

Dywedodd Hayley Selway, Prif Weithredwr CTCC, "Mae'r fflatiau wedi darparu llety fforddiadwy sydd mawr eu hangen ac mae wedi bod yn bleser croesawu tenantiaid i'w cartrefi newydd.Mae hefyd yn wych gweld y safle hwn yn cael ei adfywio, ac mae'r unedau siopau yn ychwanegiad cadarnhaol arall er budd tenantiaid ac aelodau eraill y gymuned."

 

Dywedodd Marc Jehu, Rheolwr Gyfarwyddwr Jehu Group:"Rydym mor falch o fod wedi cwblhau cam un y datblygiad, rydym wedi creu amgylchedd bywiog lle gall y gymuned ffynnu fel lle i fyw, gweithio, siopa a chymdeithasu."

 

 

Mr Dharmesh Patel, perchennog Jay's Newsagent, yw un o'r siopau sydd yn symud i'w hunedau yn yr wythnosau nesaf. Dywedodd:"Rwy wedi cyffroi cymaint am symud i fy siop newydd.Rwyf wedi bod yn rhedeg fy siop bresennol yn y Maelfa ers tair blynedd ac alla i ddim aros i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid hen a newydd o'r rhodfa siopau newydd."