Back
Plant ysgol Caerdydd yn ymgyrchu dros Chwyldro Demensia

Mae disgyblion Ysgol Gynradd Peter Lea yn y Tyllgoed yn paratoi i redeg marathon i gasglu arian tuag at ymchwil arloesol i wella demensia.

Ddydd Gwener 29 Mawrth, bydd y plant 3-11 oed yn ymgymryd â'r her o redeg deg gwaith o amgylch iard yr ysgol - sy'n cyfateb â rhedeg un filltir. Erbyn diwedd y dydd, bydd pob dosbarth gyda'i gilydd wedi cwblhau pellter marathon o 26.2 milltir i gefnogi'r Chwyldro Demensia.

Yn ymuno â'r disgyblion fydd eu hathrawon a Will Barrett, Dirprwy Bennaeth yr ysgol a fydd hefyd yn cymryd rhan ym Marathon Virgin Money Llundain eleni i gasglu arian at yr elusen.

Mae'r Chwyldro Demensia yn ymgyrch arbennig blwyddyn o hyd y Gymdeithas Alzheimer ac Ymchwil Alzheimer y DU, sy'n gweithio ar y cyd fel Elusen y Flwyddyn ar gyfer Marathon Virgin Money Llundain 2019. Mae'r ymgyrch yn casglu arian tuag at yr ymgais mwyaf uchelgeisiol erioed yn y DU o ran ymchwilio i ddemensia - Sefydliad Ymchwilio i Ddemensia y DU.

Dyedodd Emma Gough, Pennaeth Ysgol Gynradd Peter Lea: "Gall rhedeg, ymarfer corff a bod yn iach fod yn fanteisiol iawn i fywydau pobl, felly mae'n ffordd wych i'r disgyblion fwynhau'r effeithiau cadarnhaol hyn yn ogystal â chasglu arian at achos mor bwysig."

Will Barrett, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Peter Lea, drefnodd yr her hon a bydd yn rhedeg Marathon Llundain er cof am ei fam-gu. Mae ganddo brofiad personol o'r effaith y gall demensia ei chael ar ddioddefwyr a'u teuluoedd: "Collodd Maud, fy mam-gu, ddegawd diwethaf ei bywyd yn sgil yr afiechyd.  Mae'n salwch mor greulon gan ei fod yn mynd â'u hatgofion mwyaf cynnes, a gall achosi iddynt anghofio'r bobl sydd agosaf atynt.

"Mae'n anodd dros ben iddyn nhw ei ddioddef ac mae'n hollol drist ei weld yn digwydd."

Nod Will yw casglu £2,000 tuag at y Chwyldro Demensia. Er mwyn darllen mwy am ei resymau personol dros redeg, neu i'w noddi, ewch ihttps://uk.virginmoneygiving.com/willb

Am ragor o wybodaeth am y Chwyldro Demensia, gan gynnwys sut allwch gefnogi'r ymgyrch drwy wirfoddoli ar ddiwrnod y marathon, ewch iwww.dementiarevolution.org