Back
Dirwy i landlordiaid ar ôl osgoi Rhentu Doeth Cymru

 

Mae landlordiaid o bob rhan o Dde Cymru yn talu'r prisam osgoi cydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru.

 

Rhoddwyd cyfanswm o dros £8,000 o ddirwyon i bum landlord ag eiddo ar rent o ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Chasnewydd ar ôl llwyddo eu herlyn yn Llys yr Ynadon yng Nghaerdydd am fethu â chydymffurfio â'r cynllun.

 

Dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, rhaid i bob landlord gofrestru ei hun a'i holl eiddo, a rhaid i bob landlord sy'n rheoli ei hun ymgymryd â hyfforddiant a chael trwydded.

 

Datgelodd ymchwiliadau Rhentu Doeth Cymru bod Paul Parry o Fferm Tŷ Clwydau, Llantrisant yn gyfrifol am osod a rheoli chwe eiddo rhent ledled Rhondda Cynon Taf, er nad oedd wedi'i drwyddedu i wneud hynny.Cafodd yr Ynadon Paul Parry yn euog yn ei absenoldeb a chafodd dirwy o £3,000 ac fe'i gorchmynnwyd i dalu costau o £530 a gordal dioddefwyr o £30.

 

Cafwyd James Burke o John Street, yn euog o chwe trosedd dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn Llys yr Ynadon yng Nghaerdydd ym mis Chwefror 2018 a chafodd dirwy o £2,100 yr adeg honno, ond gan nad oedd wedi gweithredu i gydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru oddi ar hynny, mae bellach wedi cael ei erlyn am fethu â chofrestru a methu cael trwydded, ac wedi cael dirwy o £3,000 yn ogystal â gorchymyn i dalu costau o £141 a gordal dioddefwyr o £30.

 

Cafwyd Colin Lane o Heol Casnewydd, Caerdydd yn euog o fethu â chofrestru yn landlord ar ei ddau eiddo ar Commercial Road yng Nghasnewydd ac o ddarparu gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol i Rentu Doeth Cymru.Cafodd ddirwy o £750 a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £361 a gordal dioddefwr o £30.

 

Cafodd Adam Lambert o Ffordd Caerdydd, Aberaman, ddirwy o £1,050 am gynnal gweithgareddau gosod a rheoli eiddo heb drwydded ac am fethu â diweddaru gwybodaeth am gofrestru landlord, a chafodd Karen Burvill o Trevor Close, Pant, Merthyr Tudful ddirwy o £250 am fethu â chofrestru fel landlord.

 

Dywedodd y Cynghorydd Linda Thorne, Aelod Cabinet Tai a Chymunedau Cyngor Caerdydd, yr unig awdurdod trwyddedu dros Rentu Doeth Cymru: "Unwaith eto, rydym yn gweld nifer o landlordiaid ledled y wlad yn mynd yn groes i'n gofyniad o gydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru ac yn sgil hynny, yn gorfod talu'r pris am eu gweithredoedd.

 

"Bydd Rhentu Doeth Cymru yn parhau i fynd i'r afael â'r lleiafrif o landlordiaid sy'n credu y gallant anwybyddu'r gyfraith a'u gorfodi i wynebu'r goblygiadau.Mae'n ddigon syml - cydymffurfio neu wynebu erlyniad."