Back
Y Cyngor yn dewis gwasanaeth elît ar gyfer gwasanaeth casglu gwastraff cyfrinachol


 

Mae Cyngor Caerdydd wedi penodi darparwr newydd i gael gwared ar fwy na 70,000kg o'r gwastraff cyfrinachol y mae'n ei gynhyrchu bob blwyddyn.

 

Ar ôl ymarfer tendro llwyddiannus, penodwyd ELITE Paper Solutions, menter gymdeithasol sy'n rhoi hyfforddiant a chyfleoedd i bobl ddifreintiedig ac anabl yn ne-ddwyrain Cymru, i gasglu dogfennau gwastraff cyfrinachol o dros 75 o safleoedd yn y ddinas gan gynnwys ysgolion, hybiau cymunedol a swyddfeydd y Cyngor.

 

Mae'r penodiad yn unol â'r Polisi Caffael yn Gymdeithasol Gyfrifol y mae'r Cyngor wedi'i fabwysiadu'n ddiweddar sy'n dod â nifer o ofynion deddfwriaethol, mentrau polisi a dyheadau amrywiol ynghyd yn un fframwaith gyda chwe phrif flaenoriaeth:Hyfforddiant a Chyflogaeth Leol, Gwyrdd a Chynaliadwy, Meddwl Caerdydd yn Gyntaf, Cyflogaeth Foesol, Partneriaid mewn Cymunedau, Hyrwyddo Lles Pobl Ifanc ac Oedolion sy'n Agored i Niwed.

 

Nod y polisi yw sicrhau bod y Cyngor yn manteisio ar y lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y mae'n ei ddarparu drwy ei waith caffael. 

 

Dywedodd y Cyng. Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:"Hoffem wneud busnes gyda sefydliadau sy'n rhannu ein hegwyddorion ynghylch hyrwyddo gwerth cymdeithasol ac arferion gwaith teg, ynghyd â sicrhau bod ein gwaith yn cydymffurfio â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sydd â'r nod o wneud Cymru'n lle gwell i fyw ynddo ar yn o bryd ac yn y dyfodol.

 

"Mae dyfarnu'r contract hwn i ELITE Paper Solutions yn arwydd clir ein bod ni wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n gwireddu'r nodau hyn."

 

Cafodd ELITE Paper Solutions ei sefydlu ym Merthyr Tudful yn 2015 gyda'r nod o greu cyfleoedd cyflogaeth neu waith i bobl ag anableddau.Mae'r fenter gymdeithasol ar hyn o bryd yn cael gwared ar wastraff cyfrinachol i dros 500 o sefydliadau ledled Cymru, ynghyd â storio archifau, a gwasanaethau sganio dogfennau.Mae'r sefydliad hefyd yn ffordd o alluogi pobl ag anableddau a'r rheiny sydd dan anfantais i symud ymlaen yn eu cymunedau lleol.

 

Mae ELITE yn helpu sefydliadau i leihau'rôl troed carbon drwy ailgylchu gwastraff effeithiol.Maent yn ailgylchu 100% o'r papur y maen nhw'n ei dderbyn a hyd yma, maent wedi ailgylchu dros 800 tunnell o bapur.

 

Dywedodd Andrea Wayman, Prif Weithredwr ELITE Paper Solutions:"Rydym yn falch iawn bod Cyngor Caerdydd wedi dewis caffael eu gwasanaethau dinistrio dogfennau gyda ffocws Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol cwbl integredig, yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru.Drwy ddyfarnu'r contract i ELITE Paper Solutions, maent yn cyfrannu at greu a chynnal swyddi i bobl ag anableddau a'r rheiny sydd dan anfantais.Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr yng Nghaerdydd ac yn ceisio rhoi'r gwasanaeth gorau posibl drwy ein gweithlu ymroddgar."