Back
Y Cyngor yn cyhoeddi Adroddiad Craffu ar Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon yng Nghaerdydd

 

Bydd Pwyllgor Craffu Amgylcheddol Caerdydd yn derbyn adroddiad drafft ar ‘Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon yng Nghaerdydd' yn ystod ei gyfarfod ar ddydd Llun 18 Chwefror. Yn ystod llawer o 2018, bu cynghorwyr ar Bwyllgor Craffu Amgylcheddol yn ystyried yr heriau y mae'r ddinas yn eu hwynebu o ran sbwriel a thipio anghyfreithlon, gyda'r nod o nodi camau ymarferol a chost effeithiol i helpu i wneud y brifddinas yn lle glanach.Wrth greu'r adroddiad, casglodd y cynghorwyr dystiolaeth o nifer o ffynonellau drwy:

  • Edrych ar arferion gorau o ran rheoli sbwriel a thipio anghyfreithlon o bob cwr o'r  DU; 
  • Cynnal arolwg ledled y ddinas i gael gwybod beth roedd pobl yn ei feddwl mewn gwirionedd am sbwriel a thipio anghyfreithlon - ymatebodd 3,443 o drigolion iddo;
  • Cymryd rhan mewn ymarfer cysgodi swyddi i weld yr heriau y mae staff rheng flaen yn eu hwynebu wrth ddelio gyda sbwriel a thipio anghyfreithlon;
  • Cynnal gweithdy i ymgysylltu â gwirfoddolwyr sy'n casglu sbwriel yng Nghaerdydd i weld sut y gall y Cyngor eu cefnogi'n well;
  • Cynnal trafodaethau ag asiantaethau megis Cadwch Gymru'n Daclus a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion mewn nifer o feysydd gan gynnwys dyrannu adnoddau  a thechnoleg; gorfodi a dirwyo; addysg ac ymwybyddiaeth; biniau; gwirfoddoli; sbwriel cyffredinol; sbwriel bwyd brys; tipio anghyfreithlon; baw cŵn; gwm cnoi a sbwriel ysmygu.Dyma'r prif argymhellion a wnaed yn yr adroddiad:

  • Creu tîm gorfodi sbwriel penodedig;
  • Gwella'r defnydd o dechnoleg i gasglu gwell data ar sbwriel a thipio anghyfreithlon, cefnogi dyraniad mwy effeithlon o adnoddau;
  • Ailwampio'r ymgyrch ‘Carwch Eich Cartref' i hybu addysg ac ymwybyddiaeth ar hyd a lled y ddinas;
  • Gwneud gwell defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol i ddosbarthu negeseuon sbwriel a thipio anghyfreithlon targedig;
  • Llai o finiau ond rhai mwy eu maint;
  • Mwy o gefnogaeth i grwpiau gwirfoddol, gan gynnwys gwneud y Swydd Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn un barhaol;
  • Dosbarthu sticeri ymwybyddiaeth o sbwriel bwyd brys i bob sefydliad bwyd brys;
  • Defnyddio mwy ar CCTV i ddal pobl sy'n tipio'n anghyfreithlon.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol, y Cynghorydd Ramesh Patel: "O'r dystiolaeth a gasglwyd, mae'n amlwg bod trigolion lleol yn pryderu am y problemau a achosir gan sbwriel a thipio anghyfreithlon. Mae'r ymchwiliad hwn wedi gwrando ar y bobl ac mae wedi creu cyfres o argymhellion sy'n targedu'r prif broblemau, gan gofio hefyd am y problemau ariannol y mae'r Cyngor yn eu hwynebu ar hyn o bryd.Rwy'n gobeithio y bydd y Cabinet yn cefnogi'r argymhellion yn y r adroddiad a chyfrannu at wneud Caerdydd yn lle glanach i fyw ynddo'.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu, y Cynghorydd Michael Michael: "Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Craffu Amgylcheddol a swyddogion cysylltiedig am eu gwaith caled i greu'r adroddiad diddorol hwn. Edrychaf ymlaen at drafod prif argymhellion yr adroddiad gyda chydweithwyr y Cabinet. Mae'r broblem o sbwriela a thipio anghyfreithlon yn bwysig i'r Weinyddiaeth hon a dyna pam bod gennym agwedd dim goddefgarwch tuag at y broblem. Rydym wedi cyflwyno nifer o hysbysiadau cosb am dipio anghyfreithlon ers mabwysiadu pwerau gorfodi newydd fis Gorffennaf diwethaf.

 

Bydd y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol yn adolygu'r adroddiad drafft ar ôl craffu ar gyllideb Cyngor Caerdydd ar ddydd Llun 18 Chwefror.Mae'r cyfarfod yn cychwyn am 10:30am a chaiff ei gynnal yn Ystafell Bwyllgor 4 yn Neuadd y Sir, Bae Caerdydd.