Back
Datganiad Cyngor Caerdydd ar bebyll yng nghanol y ddinas

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor:"Mae Cyngor Caerdydd wedi dechrau symud pebyll sydd wedi'u gadael yng nghanol y ddinas.

"Mae llawer o'r pebyll yn perthyn i unigolion sydd wedi derbyn cynigion am lety ac maen nhw eisoes wedi caniatáu inni symud eu pebyll.

"Mae pebyll eraill yn cael eu monitro'n ddyddiol a phan fydd ein tîm allgymorth a'r heddlu'n fodlon eu bod wedi eu gadael, byddant hefyd yn cael eu symud.

"Mae'r Cyngor yn poeni am nifer cynyddol y pebyll yng nghanol y ddinas a'r effaith y gallant ei chael ar bobl sy'n cysgu ar y stryd sy'n penderfynu peidio â derbyn cynigion am help i ddod oddi ar y strydoedd.Ym mis Rhagfyr dim ond pedwar person gafodd help i ddod oddi ar y strydoedd. Pymtheg yw'r cyfartaledd misol.

"Mae'r holl ddangosyddion yn dangos bod y canlyniadau'n waeth i bobl sy'n parhau i gysgu ar y stryd, na'r bobl hynny sy'n manteisio ar wasanaethau cymorth.Yn anffodus gall pebyll greu synnwyr ffug o ddiogelwch. Yn anffodus iawn, bu dau o'r pedwar person a fu farw yn y ddinas ddiwethaf mewn pebyll.

"O ganlyniad, mae'r Cyngor yn glir o ran ei ddyletswydd gofal i bobl sy'n cysgu ar y stryd yn y ddinas.Achub bywydau yw'r cyfan yr ydym ni eisiau ei wneud.Gan ystyried hyn, byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i wneud yr hyn sydd ei angen i annog pobl i ddefnyddio'r amrywiaeth o lety sydd ar gynnig, yn ogystal â'r gwasanaethau proffesiynol a all eu helpu i godi ar eu traed eto.Y peth pwysicaf yw sicrhau bod pobl yn dod oddi ar y stryd a dyma'r hyn y mae'n rhaid inni ganolbwyntio arno wrth fwrw ymlaen.

"Gyda hyn mewn golwg, o dan rai amgylchiadau penodol, byddwn yn dosbarthu'r cyngor canlynol i'r rhai sy'n byw mewn pebyll gyda'r amcan clir o'u hannog i ymgysylltu â'n gwasanaethau.

"Ni fyddwn yn symud unrhyw babell sydd â rhywun ynddi heblaw y gwnaed cynnig llety addas iddo, gan gymryd i ystyriaeth amgylchiadau a dymuniadau personol pob unigolyn."

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Rwyf eisiau bod yn glir iawn nad ydym yn gwaredu pebyll y mae pobl yn eu defnyddio.

"Rydym ni eisiau ymgysylltu â phobl i drafod eu hamgylchiadau a'u dymuniadau personol a hefyd i ddatblygu cynllun a all eu helpu.

 "Mae unigolion sy'n cysgu ar y stryd, boed hynny mewn pebyll neu ar y stryd ei hun, ymhlith y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein dinas ac rydym ni'n pryderu yn fawr iawn am eu lles a'u diogelwch.

"Rydym ni eisiau cefnogi pobl a'u helpu i godi ar eu traed eto.Nid yw hi byth yn dasg hawdd helpu pobl i ddod oddi ar y stryd oherwydd y problemau cymhleth sydd ganddyn nhw yn aml, ond mae digon o lety i bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd.Gallwn ni gynnig pecynnau ymadfer wedi eu teilwra fel y gallant ailsefydlu eu bywydau ac rydym ni eisoes wedi helpu 204 o bobl y llynedd i gael gafael ar lety, pobl a oedd ar y stryd yn yr un sefyllfa.

"Rydym ni eisiau i bawb sy'n dal i fyw ar y strydoedd ddod oddi arnyn nhw i ganiatáu i ni wneud yr  un peth iddyn nhw.Byddwch cystal â chymryd y cymorth yr ydym ni'n ei gynnig i chi."