Back
Adroddiad cadarnhaol gan Estyn ar Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd

Mae canfyddiadau adroddiad yr arolygwyr addysg Estyn yn dangos bod safonau addysg uwchradd wedi gwella yng ngorllewin y ddinas, wedi i Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd agor yn ddiweddar. 

Canfu arolygwyr fod y pennaeth, mewn cydweithrediad agos â'r corff llywodraethu a'r uwch arweinwyr, wedi llwyddo i ddatblygu a lledaenu gweledigaeth glir a nodau uchelgeisiol ar gyfer yr ysgol.Mae aelodau staff wedi gweithio'n effeithiol i greu ymddiriedaeth yn y gymuned ac ymgysylltu â rhieni er mwyn helpu i sicrhau bod disgyblion yn mynychu'n rheolaidd, yn ymddwyn yn dda ac yn ffynnu. 

Canmolodd yr arolygwyr waith yr ysgol yn ehangu'r cwricwlwm, yn sicrhau bod gan ddisgyblion ‘y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o brofiadau yn rhan o'r cwricwlwm a'r tu allan iddo.'Mae'r gwaith hwn yn cyfrannu at agwedd well gan ddisgyblion tuag at ddysgu a'u datblygiad personol. 

Dyma'r tro cyntaf i Estyn arolygu Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, a agorodd ym mis Medi 2017 wedi i Ffederasiwn Michaelston Glyn Derw gau.Ymwelodd yr arolygwyr â'r ysgol ym mis Tachwedd 2018. 

Nodwyd gan Estyn fod safon gwaith y disgyblion wedi gwella yn ystod y cyfnod byr ers i'r ysgol agor. Mae'r gwaith i wella sgiliau llythrennedd a rhifedd wedi cael effaith gadarnhaol.Mae'r rheiny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn gwneud cynnydd cryf o ran gwella sgiliau darllen a rhifedd, diolch i'r cymorth y maent yn ei gael. 

Dywedodd y Pennaeth, Mr Martin Hulland:"Mae Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn gweithredu ers cyfnod byr iawn, felly mae canfyddiadau ymweliad Estyn gwta blwyddyn ar ôl inni agor yn galonogol iawn. 

"Rydym yn gwybod mai megis cychwyn ar ein taith yr ydyn ni, ac ni fydd neb o'n plith yn fodlon nes i Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd gyrraedd y safon orau bosibl y gall ei chyrraedd, ond mae'n galonogol bod y gwaith rydym ni eisoes wedi ei wneud yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. 

"Er eu bod yn ddyddiau cynnar, mae llawer o ganlyniadau cadarnhaol i'w hystyried o'r arolygiad hwn.Y gydnabyddiaeth bwysicaf i fi yw ein bod ar y trywydd iawn.Rydym ni mewn sefyllfa dda i ddatblygu hyn ymhellach, ac i fwrw ymlaen i'r lefel nesaf gydag Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd." 

Dywedodd y Cynghorydd Sara Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:"Mae canfyddiadau arolygiad Estyn yn galonogol iawn.Ers i Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd agor yn ym mis Medi 2017, rydym ni wedi gweld bod safonau addysg uwchradd yn yr ardal wedi gwella, ac mae'n braf gweld y cynnydd hwn yn cael ei gydnabod gan yr arolygwyr. 

"Mae safonau addysg yng Nghaerdydd wedi newid yn sylweddol ers 2012, ac fel y nodir yn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae perfformiad y ddinas nawr yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru ym mhob un o'r dangosyddion allweddol. 

"Mae rhagor o waith i'w wneud, fodd bynnag, ac yn union fel y bydd Mr Hulland, ei staff a'i lywodraethwyr yn ei wneud yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, byddwn ninnau'n parhau gyda'n hymdrechion i gyflawni gwelliannau, a chodi safonau ein hysgolion, gan sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn mynd i ysgol dda." 

Nodir hefyd yn adroddiad Estyn bod athrawon yr ysgol yn datblygu perthynas waith gadarnhaol a chefnogol gyda'r disgyblion, a hynny'n datblygu hunan-hyder a hunan-barch.Mae'r ysgol wedi sefydlu teimlad cryf o undod, pwrpas ac ymrwymiad i gefnogi lles disgyblion.Mae ‘Polisi Ymddygiad ar gyfer Dysgu'yn cael effaith gadarnhaol ar ddiwylliant, agweddau at ddysgu ac ymddygiad yn yr ysgol, mewn gwersi ac o amgylch yr ysgol. 

Mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel yn yr ysgol.Maent yn credu eu bod yn cael eu trin yn deg a chyda pharch gan yr athrawon a bod yr ysgol yn gwrando ar eu barn.Maent yn gwrtais ac yn barchus tuag at bobl eraill ac yn dangos agwedd gadarnhaol tuag at eu hastudiaethau. 

Mae gan athrawon wybodaeth dda am eu pynciau ac maent yn creu cysylltiadau cadarnhaol a chefnogol gyda disgyblion.Mewn rhai gwersi sy'n hynod effeithiol, mae athrawon yn llawn brwdfrydedd a gwybodaeth am eu pwnc. 

Nodwyd hefyd gan Estyn fod ysgol uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd ‘yn defnyddio gweithio mewn partneriaeth yn wybodus er mwyn helpu i addasu ei chwricwlwm i ddiwallu anghenion unigol disgyblion sy'n agored i niwed.' 

Mae Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn ‘ysgol fraenaru', sy'n hyrwyddo cysylltiadau a ddatblygwyd dan ‘Bartneriaeth Addysg Greadigol Caerdydd' sydd wedi dod â  rhai o bobl blaenaf sector creadigol Caerdydd at ei gilydd gyda'r awdurdod lleol i hyrwyddo creadigrwydd wrth wraidd y dysgu. 

Bydd yr ysgol yn symud i adeilad newydd ar ôl y Pasg, ar ôl i'r gwaith o adeiladu Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd gael ei gwblhau ar dir gyfagos Parc Trelái. 

Ychwanegodd Mr Hulland:"Mewn ychydig o fisoedd yn unig byddwn yn symud i'n hysgol newydd sbon, Ysgol yr 21ain Ganrif, felly, dyma oedd yr amser gorau i gael adroddiad Estyn.Mae'n ganmoliaeth ychwanegol ein bod ni fel cymuned ysgol gyfan, wrth i'n cartref newydd gael ei adeiladu, yn llwyddiannus yn datblygu'r math o ethos ysgol yr ydym ni ei angen er mwyn llwyddo, ac mae angen inni fanteisio i'r eithaf ar ein cyfleusterau newydd." 

Mae'r Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd newydd yn fuddsoddiad gwerth £36 miliwn o Fand A Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, sydd wedi ei hariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a llywodraeth Cymru.