Back
Un o gyflogwyr mwyaf y rhanbarth yn ymrwymo i Addewid Caerdydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yw'r sefydliad diweddaraf i lofnodi Ymrwymiad Cyflogwyr i Addewid Caerdydd. 

  • Martin Driscoll, Cllr Chris Weaver, Len Richards

Nod Addewid Caerdydd yw sicrhau fod pob person ifanc yng Nghaerdydd yn cael swydd, fel y gallant gyrraedd eu potensial a chyfrannu at dwf economaidd y ddinas. 

Yn ogystal â Chyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yw'r cyflogwr sector cyhoeddus mwyaf yn y rhanbarth i lofnodi'r ymrwymiad gan gyflogwyr. 

Mae'r ymrwymiad yn cefnogi'r sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector i weithio mewn partneriaeth, gydag ysgolion a darparwyr addysg, i gysylltu plant a phobl ifanc gydag ystod o gyfleoedd byd gwaith. 

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cyng Chris Weaver:Mae Addewid Caerdydd yn wirioneddol bwysig i ni, mae'n rhan allweddol o'nUchelgais Prifddinas, y ddogfen sydd yn nodi yr hyn y dymunwn ei gyflawni. 

"Mae Caerdydd yn ddinas hynod, mae wedi newid a'i gweddnewid ac mae'n un o'r dinasoedd sydd yn tyfu gyflymaf yn y DG.Mae llawer o swyddi, mae llawer o dwf ac mae llawer o bethau da am Gaerdydd, ond fe wyddom nad yw'n berffaith. 

"Mae anghyfartaledd aruthrol yn y ddinas o hyd.Mae rhannau o'r ddinas pe byddent yn sefyll ar eu pennau eu hunain fel awdurdodau lleol, fyddai'r mwyaf difreintiedig yng Nghymru.Mae yna bobl nad ydynt yn cael y cyfleoedd sy'n gallu dod o fyw mewn dinas hyfyw a ffyniannus. 

"Ystyr Addewid Caerdydd yw ein bod ni, fel cyngor, ynghyd â chyflogwyr sector cyhoeddus a phreifat eraill ledled y ddinas gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn camu i'r adwy a gwneud rhywbeth i newid hynny.Mae'n llwybr i mewn i gyflogaeth dda ac ystyrlon ar gyfer y bobl sydd ei angen fwyaf. 

"Rydym yn gweld llwyddiant Addewid Caerdydd yn lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, ac rwyf wrth fy modd yn gweld Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, cyflogwr sector cyhoeddus arweiniol yn y rhanbarth, yn ymuno drwy lofnodi Ymrwymiad Cyflogwyr Addewid Caerdydd." 

Mae yna 81 o gyflogwyr, y rhan fwyaf yn y sector preifat, sydd wedi llofnodi Addewid Caerdydd, ac mae 160 yn cyfrannu at y cynllun ac yn cymryd rhan. 

Defnyddiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro y llofnodi ar yr addewid hefyd fel cyfle i lansio ei Academi Brentisiaeth. 

Dwedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Len Richards:"Rwy'n falch o lofnodi ymrwymiad Addewid Caerdydd ac i lansio ein Academi Brentisiaeth. 

"Ym 1980, gadewais yr ysgol yn 16 a mynd yn brentis cynhyrchu a pheirianneg.Roedd yn rhywbeth a osododd y seiliau ar gyfer gweddill fy mywyd.Rydych yn dysgu pa fath o le yw'r gweithle; cewch arweiniad da, cefnogaeth dda ac addysg dda.Roedd yn llwyfan gwirioneddol gryf ar gyfer fy ngyrfa. 

"Roedd yna adeg pan feddyliais fod prentisiaethau yn diflannu, ond maen nhw'n dod yn eu holau, ac rydym yn wirioneddol falch cael bod yn rhan ohono." 

Drwy lofnodi'r ymrwymiad, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i: 

                     Weithio mewn partneriaeth gydag ysgolion i godi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd gyrfa o fewn y system iechyd

                     Hyrwyddo ymagwedd strwythuredig ar gyfer darparu cyfleoedd profiad gwaith di-dâl

                     Hyrwyddo a hysbysebu prentisiaethau lefel mynediad trwy'r Academi Brentisiaeth

                     Gweithio ar y cyd gyda phlant a phobl ifanc i fod â llais wrth ail-ddylunio'r gwasanaeth iechyd yn y dyfodol

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygiad, y Cyng Russell Goodway:"Mae'r sector gyhoeddus yn rhan mor bwysig o'r economi, rydym am sicrhau fod gwerthfawrogiad llawn gan bobl ifanc o'r cyfleoedd y gall y sector eu cynnig iddynt. 

"Bydd cael Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i lofnodi Ymrwymiad Cyflogwyr Addewid Caerdydd yn annog mwy o gyrff cyhoeddus, a mwy o gyflogwyr sector preifat i ddod yn rhan o'r fenter hon. 

"Bydd hyn yn cynnig mwy o gyfleoedd i bobl ifanc i ddatblygu eu gyrfaoedd yn y cyfnod cynnar, ac i gyflwyno swyddi o ansawdd da yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig sydd gennym yma yng Nghymru. 

"Rydym yn falch dros ben o gael Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gyda ni fel partner i Addewid Caerdydd.Bydd yr ymrwymiad y mae wedi ei lofnodi yn ein helpu i fwrw'r cynllun hwn yn ei flaen."