Back
Y Ddinas yn lansio Partneriaeth Alcohol Cymunedol


Mae nifer o bartneriaid sector cyhoeddus yn y ddinas wedi dod ynghyd i fynd i'r afael ag yfed ymhlith pobl ifanc yng Nghaerdydd.

 

Mae Partneriaeth Alcohol Cymunedol (PAC) newydd sbon wedi ei sefydlu, sy'n dwyn ynghyd y cyngor, y bwrdd iechyd, yr heddlu a phartneriaid eraill, er mwyn mynd i'r afael â chanlyniadau lefelau uchel o yfed ymhlith rhai rhwng 18-25.

 

Mae tua 160 o Bartneriaethau Alcohol Cymunedol wedi eu sefydlu ar draws y DU i annog gweithio mewn partneriaeth yn lleol, yn bennaf er mwyn mynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol dan oed a'r ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig. Mae PAC yn unigryw am ei fod yn cydnabod fod masnachu yn rhan o'r datrysiad ac wedi ei ddangos i fod yn fwy effeithiol na gorfodi yn unig.

 

Lansiwyd PAC Caerdydd gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael, Cadeirydd y Bwrdd PAC, Derek Lewis, a Phennaeth Perfformiad a Phartneriaethau Cyngor Caerdydd, Joe Reay.Mae'r cynllun yn cael ei arwain gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerdydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Mae sefydlu Partneriaeth Alcohol Cymunedol newydd yng Nghaerdydd yn rhoi cyfle i ni adeiladu ar y gwaith rhagorol a wnaed gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn y ddinas ac i gyrraedd gwreiddyn y problemau a gaiff eu hachosi pan fo pobl ifanc yn yfed hyd ormodedd.

 

"Mae llawer yn y grŵp oed hwn yn eu rhoi eu hunain mewn sefyllfaoedd lle allant fod yn agored i niwed ac allasai arwain at ganlyniadau difrifol, oherwydd mae'n bosib y bydd gofyn iddyn nhw fynychu canolfan triniaeth alcohol, neu'n dod yn ddioddefwyr neu'n cyflawni troseddau ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

 

Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn gronni ein hymdrechion i sicrhau fod pobl yn gallu parhau i gymdeithasu ac ymlacio yng nghanol y ddinas ond gyda'r ffocws ar leihau'r troseddu a'r ymddygiad gwrth-gymdeithasol a gysylltir â gormodedd o alcohol fel y gall pawb deimlo'n fwy diogel yn sgil hynny."

 

Bydd grŵp llywio aml-asiantaeth nawr yn arwain gwaith PAC Caerdydd ac maent wrthi'n datblygu cynllun i weithredu camau a fydd yn mynd i'r afael â'r problemau a nodwyd.Bydd y camau hyn yn cynnwys hyfforddiant, gweithgareddau myfyrwyr, addysg mewn lleoliadau amrywiol, rhannu data'n effeithiol, sefydlu digwyddiadau di-alcohol a llawer iawn mwy.