Back
Chwifio baner y Cyflog Byw

Mae baner y cyflog byw yn hedfan ofurfwlchCastell Caerdydd heddiw i nodi dechrau wythnos gyflog byw (Tachwedd 5-10).

 

Cyn cyhoeddi'r gyfradd gyflog byw newydd yng Nghaerdydd y bore yma, mae'r baneri'n cynrychioli ymrwymiad y Cyngor i dalu'r cyflog byw a'i uchelgais i fod yn ddinas gyflog byw gyntaf y DU.

 

Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gyflogwr cyflog byw achrededig ers mis Tachwedd 2015. Ers hynny, mae dros 2,200 o staff llawn a rhan-amser y Cyngor wedi elwa o godiad cyflog, yn bennaf menywod yn gweithio fel goruchwylwyr clwb brecwast, glanhawyr, domestig, cynorthwywyr cegin a goruchwylwyr canol dydd.

 

Mae'r awdurdod hefyd yn cefnogi busnesau a sefydliadau lleol i ymrwymo i dalucyflog byw i'w cyflogeion drwy gynnig cefnogaeth ariannol i'r rhai sydd am ddod yn gyflogwyr cyflog byw achrededig eu hunain.  Y flwyddyn ddiwethaf, enwyd y Cyngor yn BencampwrCyflog Byw Cymru ar gyfer 2017-18 gan y Sefydliad Cyflog Byw mewn cydnabyddiaeth o'i ‘gyfraniadeithriadol at ddatblygu'r Cyflog Byw yng Nghymru, uwchben a thu hwnt i'rgofynion achredu.'

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad; "Rydym wedi gwneud cynnydd ardderchog ers cael yr achrediad cyflog byw cyntaf a thrwy dalu'r cyflog byw - y gyfradd y mae gwir angen i weithwyr a'u teuluoedd fyw arni, rydym yn gwybod ein bod wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i lawer o bobl yn y ddinas.

 

"Credwn fod talu'r cyflog byw yn ddangosydd allweddol o ymrwymiad cyflogwr i arferion gwaith teg ac rydym wedi'n hannog gan nifer y busnesau sydd wedi ymuno hefyd drwy gytuno i dalu'r cyflog byw i'w staff eu hunain."

 

Erbyn hyn mae 77 o gyflogwyr cyflog byw achrededig yn y ddinas ond mae llawer o sefydliadau eisoes yn talu eu staff ar neu uwchlaw'r gyfradd cyflog byw sydd heb gael achrediad. Gall y Cyngor ddarparu cefnogaeth i'r busnesau hyn drwy dalu eu ffioedd achredu am dair blynedd ac maent yn awyddus i weld y nifer o gyflogwyr achrededig yn y ddinas yn cyrraedd y nod 100 erbyn y Nadolig.

 

Fel rhan o'r wythnos gyflog byw yng Nghaerdydd, bydd arweinydd y Cyngor, y Cyng. Huw Thomas a'r Cynghorydd Weaver yn mynychu digwyddiad gyda'r sefydliad cyflog byw, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Sophie Howe, a busnesau blaenllaw yn y ddinas i drafod sut y dylai dinas Gyflog Byw edrych, a meini prawf mae angen i Gaerdydd gyfarfod i gael ei ystyried yn ddinas gyflog byw.

 

Parhaodd y Cynghorydd Weaver, "Mae'r cyflog byw yn dda i fusnes, yn dda i'r unigolyn ac yn dda i gymdeithas.  Mae ffigurau'n dangos fod gan staff fwy o gymhelliant pan gânt eu talu'r gyfradd gyflog byw a dywedodd 93% o gyflogwyr eu bod wedi cael budd o achrediad.Mae pobl sy'n gweithio'n lleol yn dueddol o wario'u harian yn yr economi leol sy'n newyddion da i'r ddinas yn gyffredinol

 

"Rydyn ni wedi cael dechrau ardderchog ond mae nawr yn bryd cymryd y cam nesaf yn ein taith cyflog byw sef Mae angen i rai o brif gyflogwyr ac atyniadau'r ddinas ymuno â ni ar y ffordd wrth i ni anelu at fod yn ddinas cyflog byw gyntaf y DU."

 

I gael gwybod mwy am y cymorth sydd ar gael i fusnesau a sefydliadau lleol a fyddai'n hoffi bod yn gyflogwyr cyflogau byw achrededig, ewch i: https://www.cardiff.gov.uk/ENG/Your-Council/Strategies-plans-and-policies/Living-Wage/Pages/default.aspx